Tai
Mae cyfraith tai yn cwmpasu amryw o bynciau, gan gynnwys y canlynol:
- Gwahanol fathau o feddiannaeth eiddo (gan gynnwys rhydd-ddaliad, lesddaliad hir ac amryw o denantiaethau preswyl);
- Y sector rhentu preifat;
- Tai cymdeithasol;
- Atgyweiriadau a chynnal a chadw;
- Anghydfodau;
- Achosion o droi allan a digartrefedd;
- Tai symudol preswyl
Yng Nghymru, cyfrifoldeb Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yw cyfraith tai.
Mae Gweinidogion Cymru yn rheoleiddio'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru, p'un a yw'r tai hynny'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (fel cymdeithasau tai). Ymhlith pethau eraill, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu pwy sy'n gymwys i gael tai cymdeithasol a'r safonau ansawdd y mae'n rhaid i dai cymdeithasol eu bodloni.
Mae Senedd Cymru wedi deddfu i foderneiddio cyfraith tai yng Nghymru, gyda'r deddfau canlynol wedi cael eu pasio:
- Creodd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 system reoleiddio newydd ar gyfer rhedeg meysydd carafanau preswyl (ond nid meysydd gwyliau) a mesurau diogelu ar gyfer y rheiny sy'n byw ar feysydd carafanau preswyl.
- Darparodd Deddf Tai (Cymru) 2014 system reoleiddio newydd ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo yn y sector rhentu preifat, a diwygiodd y gyfraith ar ddigartrefedd.
- Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sydd mewn grym at ddibenion cyfyngedig (canllawiau a phwerau gwneud rheoliadau), yn creu set symlach o reolau ar gyfer tenantiaethau preswyl.
- Cyflwynwyd Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 i warchod y stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru rhag gostyngiad pellach ac i sicrhau ei hargaeledd ar gyfer y rheiny y mae angen tai fforddiadwy arnynt.
- Gwaharddodd Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) Cymru 2019 landlordiaid rhag codi tâl ar denantiaid preswyl am nifer o ffioedd gosod eiddo, gan gynnwys ffioedd gweinyddol, geirdaon a ffioedd gwirio credyd.
- Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (mewn grym) yn darparu (unwaith y mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 mewn grym) fwy o ddiogelwch deiliadaeth i gontractau meddiannaeth safonol.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Rhagfyr 2021