Tenantiaethau rhagarweiniol
Beth yw tenantiaeth ragarweiniol?
Gallai awdurdod tai lleol (neu Ymddiriedolaeth Gweithredu ar Dai) benderfynu gweithredu trefn tenantiaeth ragarweiniol (gweler Rhan 5 o Ddeddf Tai 1996). Mae tenantiaeth ragarweiniol yn denantiaeth prawf sy'n caniatáu i landlord droi tenantiaid problemus allan yn haws nag y gallent o dan denantiaeth ddiogel. Os yw awdurdod yn gweithredu trefn tenantiaeth ragarweiniol, yna yn hytrach na rhoi tenantiaethau diogel, bydd tenant newydd yn cael tenantiaeth ragarweiniol.
Gall tenant neu drwyddedai o dan drwydded i feddiannu annedd fod yn denant rhagarweiniol.
O dan adran 124 o Ddeddf Tai 1996, os oedd y tenant neu'r tenantiaid ar y cyd yn syth cyn ymrwymo i’r denantiaeth un ai:
- yn denant diogel o'r un annedd neu annedd arall neu'n
- denant o dan denantiaeth sicr berthnasol (h.y. tenantiaeth sicr lle mae'r landlord yn ddarparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol neu lle mae'r landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig)
ni allant ddod yn denantiaid rhagarweiniol.
Mae yna hefyd hawliau penodol i olyniaeth ac o ran aseinio tenantiaethau rhagarweiniol. Gweler adrannau 131 i 134 o Ddeddf Tai 1996.
Pa mor hir mae tenantiaeth ragarweiniol yn para fel arfer?
Mae tenantiaeth ragarweiniol yn para am gyfnod prawf o flwyddyn (oni bai fod unrhyw amgylchiadau a amlinellir yn adran 125(5) o Ddeddf Tai 1996 yn berthnasol yn ystod y cyfnod hwn), a gellir ei hymestyn am chwe mis, a bydd y tenant fel arfer yn cael tenantiaeth ddiogel wedi hynny. Gellir ymestyn y cyfnod prawf am chwe mis arall:
- Os yw’r landlord wedi cyflwyno hysbysiad o estyniad i'r tenant o leiaf wyth wythnos cyn i'r cyfnod prawf gwreiddiol ddod i ben; ac
- Os un ai'r tenant heb wneud cais am adolygiad o benderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod prawf, neu os yw'r tenant wedi gwneud cais am adolygiad a'r penderfyniad oedd i gadarnhau'r penderfyniad i ymestyn y cyfnod.
Sut y gall landlord gyflwyno achos adennill meddiant?
Gallai landlord ddod â thenantiaeth ragarweiniol i ben drwy gael a gweithredu gorchymyn llys i feddiannu'r annedd.
Er mwyn ennill meddiant o annedd sy'n destun tenantiaeth ragarweiniol, mae'n rhaid i landlord ddilyn gofynion gweithdrefnol penodol fel yr amlinellir yn adran 128 o Ddeddf Tai 1996. Os yw'r gofynion hyn wedi'u dilyn, mae'n rhaid i'r llys roi gorchymyn adennill meddiant os oes gofyn iddo wneud hynny (gweler adran 127 o Ddeddf Tai 1996). Serch hynny, gall tenant herio hyn o ganlyniad i'w hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Fodd bynnag, noder effaith Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 a'r goblygiadau ar gyfer cyfnodau rhybudd a gweithrediadau a gynhwysir yn Neddf y Coronafeirws 2020 fel y’i diweddarwyd gan Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021, O.S. 2021/708, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2021.
Pa effaith y caiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar denantiaethau rhagarweiniol?
Mae'r gyfraith mewn perthynas â thenantiaethau ar fin newid unwaith y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym yn llawn. Gweler: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.