Skip to main content

Tai - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Am beth mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol?

O dan Adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a gyflwynwyd gan Ddeddf Cymru 2017, gall Senedd Cymru ond wneud deddfau sydd o fewn ei chymhwysedd deddfwriaethol. Mae Adran 108A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn amlinellu'r prawf am gymhwysedd deddfwriaethol. Mae'r ddarpariaeth y tu hwnt i'r cymhwysedd o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae'n ymestyn i fannau heblaw am Gymru a Lloegr yn unig; 
  • Mae'n berthnasol mewn ffordd arall nag mewn perthynas â Chymru neu'n rhoi, gosod, addasu neu dynnu (neu'n rhoi pŵer i roi, gosod, addasu neu dynnu) swyddogaethau sy'n weithredol mewn ffordd arall nag mewn perthynas â Chymru; 
  • Mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r materion a gedwir yn ôl yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; neu
  • Mae'n torri unrhyw un o'r cyfyngiadau a restrir yn Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 

Os yw'r darpariaethau y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol, yna ni fydd Senedd Cymru yn gallu deddfu arnynt. 

Ni restrir tai yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel mater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU.

Gall Senedd Cymru ddeddfu ym mhob maes ar destun tai. 

Er bod y pŵer i ddeddfu yn y maes hwn yn eang iawn, mae Senedd y DU yn gallu pasio deddfau ar gyfer Cymru sy'n ymwneud â thai o hyd, ar yr amod ei bod yn cael cydsyniad Senedd Cymru.

Mae gan Weinidogion Cymru nifer o swyddogaethau gweithredol yn y maes hwn, gydag enghraifft nodedig yn bŵer i ddiwygio’r disgrifiad o bobl ddigartref sydd ag angen blaenoriaethol am dai o dan Adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014


 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Rhagfyr 2021