Cynnyrch bron 20 mlynedd o waith – Asesu effaith Safonau Ansawdd Tai Cymru
Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Toby Girdler, Capital Law.
Yn ôl yn 2002, teimlodd Llywodraeth Cymru y dylai awdurdodau lleol a chymdeithasau tai fod â safon ar gyfer cynnal eu heiddo. Cyflwynwyd Safonau Ansawdd Tai Cymru er mwyn gosod y safon ar gyfer tai cymdeithasol, ac i sicrhau eu bod yn cael eu hadeiladu a'u cynnal yn unol ag ansawdd derbyniol ar gyfer unrhyw feddiannydd damcaniaethol. Pedair blynedd ar bymtheg yn ddiweddarach, rydym yn ystyried y safonau hyn ac yn asesu a ydynt wedi bod yn llwyddiannus mewn gwirionedd.
Mae'r safonau'n cynnwys saith categori, wedi'u rhannu’n 42 o elfennau unigol yr asesir eiddo yn eu herbyn. Mae'r categorïau fel a ganlyn. Mae'n rhaid i dai:
- fod mewn cyflwr da
- bod yn saff a diogel
- cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd, a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
- cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- bod wedi’u rheoli’n dda (o ran tai wedi’u rhentu)
- bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
- bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rhai sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau
Mae'r 42 o elfennau'n cwmpasu sawl agwedd benodol arall. Mae'r rhain yn cynnwys pa mor fodern yw'r cyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi, pa mor hygyrch yw'r eiddo, a gofynion adeileddol amrywiol. Mae'n rhestr helaeth sy'n sicrhau yr ystyrir anghenion y tenant o bob safbwynt. Fodd bynnag, adlewyrchir natur helaeth y safonau hyn yn yr amser y mae wedi'i gymryd i'w gweithredu.
Yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Safonau Ansawdd Tai Cymru trwy ddau fath allweddol o gyllid: y Lwfans Atgyweiriadau Mawr a chyllid llenwi bwlch (Taliadau Gwaddoli). Mae’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr yn mynd i'r awdurdodau lleol sy'n rheoli ac yn cynnal tai cyngor. Rhoddir cyllid llenwi bwlch (Taliadau Gwaddoli) i gymdeithasau tai sydd wedi caffael tai cyngor gan yr awdurdodau lleol. Mae'r cyllid yn mynd tuag at wella'r cartrefi hyn, er mwyn cydymffurfio â'r safonau.
Nid yw'r safonau wedi'u cyflwyno'n swyddogol fel deddf yng Nghymru. Yr hyn sy’n agosaf at orfodi cyfreithiol yw adran 111 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rhoddodd hon y pŵer i Weinidogion Cymru osod ac adolygu safonau ar gyfer awdurdodau tai lleol. Er ei bod yn debyg mai cymheiriad ymhlyg oedd yn yr adran hon at Safonau Ansawdd Tai Cymru, ni chafodd eu nodi'n benodol. Felly, o ystyried y diffyg hwn o ran gorfodi clir, pa mor effeithiol fu'r safonau hyn o ran gwella tai cymdeithasol Cymru?
Atebwyd y cwestiwn hwn gan werthusiad diweddar a gynhaliwyd gan Three Dragons, Cyngor Da a Phrifysgol Ulster ar ran Llywodraeth Cymru. Yn yr adroddiad, maent yn rhoi dadansoddiad ystadegol o'r effaith y mae Safonau Ansawdd Tai Cymru wedi'i chael ac yn nodi sut y gellir eu gwella mewn fersiwn ddiweddaredig.
Yn ôl yr arolwg eiddo ‘Byw yng Nghymru’ a gynhaliwyd yn 2004, dim ond 0.8% o'r holl dai cymdeithasol oedd yn cydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru. Yn 2008, roedd hyn ond wedi cynyddu i 6%. Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2019, roedd ymchwil yn awgrymu bod 93% o'r holl anheddau cymdeithasol bellach yn cydymffurfio â'r safonau. Mae hyn yn gynnydd sylweddol iawn mewn cyfnod eithaf byr, sy'n dweud llawer am effeithiolrwydd Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Nid yn unig yw'r ystadegyn yn drawiadol, mae'n bwysig. Nid yw galw am dai cymdeithasol yng Nghymru erioed wedi bod yn uwch, gyda thua 67,000 o aelwydydd ar y rhestr aros ar hyn o bryd. Felly, mae'n hanfodol i sicrhau bod y tai hyn yn lleoedd lle gall meddianwyr deimlo'n ddiogel ac fel bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.
Felly, beth oedd casgliad y gwerthusiad? Yn fyr, mae'r data'n awgrymu bod Safonau Ansawdd Tai Cymru wedi bod yn llwyddiannus, a dylai unrhyw ddiweddariad canlynol fod ar ffurf debyg. Mae gwelliannau i'w gwneud, yn enwedig ynglŷn â bodloni targedau datgarboneiddio cenedlaethol a sicrhau cyflenwad band eang dibynadwy i denantiaid. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'r safonau'n gweithio a byddant yn parhau i fod yn gymwys.
Y terfyn amser ar gyfer cydymffurfedd gorfodol gan yr holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'i estyn sawl gwaith. Er bod gofyn bellach i'r rhan fwyaf gydymffurfio, mae gan nifer fach tan 31 Rhagfyr 2021 i godi ansawdd eu heiddo hyd at y safonau.
Mae Safonau Ansawdd Tai Cymru wedi bod yn sicrwydd i'w groesawu yng Nghymru, a byddant yn parhau felly, y cynhelir tai cymdeithasol ar safon dderbyniol.