Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
Beth yw'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl?
Mae Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru yn dribiwnlys annibynnol a sefydlwyd i ddatrys anghydfodau sy'n ymwneud ag eiddo preifat lesddaliadol ac ar rent. Mae'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn sefydliad statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Tai 2004. Mae'n cynnwys tri math o dribiwnlys, gyda phob un â’i swyddogaethau a’i gylch gwaith ei hun. Y tri math yw:
- y Pwyllgorau Asesu Rhenti
- y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau
- y Tribiwnlys Eiddo Preswyl
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ariannu a gweinyddu'r Tribiwnlys ond mae ei aelodau a'i benderfyniadau yn annibynnol oddi ar lywodraeth. Mae gan y tribiwnlys ddwy ran: yr ysgrifenyddiaeth ac aelodau'r tribiwnlys. Mae'r ddwy yn cydweithio yn ystod y broses hawlio ac apelio ond gan wneud tasgau gwahanol. Mae aelodau'r tribiwnlys (cyfreithiwr, prisiwr a lleygwr fel arfer) yn gwrando ar y ceisiadau a'r apeliadau ac yn penderfynu arnynt. Mae'r ysgrifenyddiaeth yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol sy'n ymwneud â phrosesu ceisiadau ac apeliadau. Penodir cyfreithwyr-aelodau Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru gan yr Arglwydd Ganghellor. Penodir yr aelodau proffesiynol a lleyg gan Weinidogion Cymru. Ni roddir tystiolaeth ar lw ac nid yw rheolau arferol llys yn berthnasol.
Mae cefndir deddfwriaethol y Tribiwnlys a'r modd y rhoddir ei bwerau yn gymhleth. Yn gyffredinol, rhoddir swyddogaethau deddfwriaethol drwy bwyllgor asesu rhenti, tribiwnlys prisio lesddaliadau neu dribiwnlys eiddo preswyl yn ôl y pwnc dan sylw. Fodd bynnag, hyd yn oed pan roddir swyddogaethau i dribiwnlys prisio lesddaliadau neu dribiwnlys eiddo preswyl, yn ymarferol arferir y swyddogaethau hyn gan bwyllgorau asesu rhenti. Mae gan bob pwyllgor a thribiwnlys ei awdurdodaeth, ei ddeddfwriaeth berthnasol, ei hawliau apelio at yr Uwch Dribiwnlys, a’i reolau gweithdrefnol ei hun.
Mae tribiwnlysoedd eiddo preswyl yn ymdrin â'r canlynol:
- Gorchmynion ac apeliadau rheoli anheddau gwag
- Gorchmynion ac apeliadau rheoli terfynol a dros dro
- Trwyddedu tai amlfeddiannaeth, trwyddedu detholus o eiddo preswyl arall, a thrwyddedu o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (mewn perthynas â Rhentu Doeth Cymru)
- System mesur iechyd a diogelwch tai (hysbysiadau gwella, gorchmynion gwahardd, camau unioni brys, gorchmynion dymchwel, a chyflawni gwaith ar fangreoedd anaddas)
- Cartrefi symudol, gan gynnwys safleoedd sipsiwn a theithwyr yr awdurdod lleol
Rhoddir awdurdodaeth tribiwnlysoedd eiddo preswyl gan y deddfau canlynol: Deddf Tai 1985, Deddf Tai 2004 a Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (er nad yw hon yn rhestr hollgynhwysol).
Sefydlwyd tribiwnlysoedd eiddo preswyl o dan adran 229 o HA 2004 sy'n darparu y gellir arfer awdurdodaeth a roddir i dribiwnlys eiddo preswyl gan bwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i RA 1977. Os caiff ei gyfansoddi felly gelwir pwyllgor asesu rhenti yn dribiwnlys eiddo preswyl.
Mae adran 231 o Ddeddf Tai 2004 yn darparu ar gyfer apeliadau gan dribiwnlys eiddo preswyl at yr Uwch Dribiwnlys o dan amgylchiadau penodol. Mae apeliadau o'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) yn mynd i'r Llys Apêl.
Ers gweithredu Deddf Tai (Cymru) 2014, mae gan dribiwnlysoedd eiddo preswyl swyddogaethau o fod yn gallu gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau awdurdod trwyddedu o dan Ran 1 o Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â chofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantau, yn ogystal â’r swyddogaeth o gyhoeddi gorchmynion atal rhent a gorchmynion ad-dalu rhent o dan y Rhan honno.