Pwyllgorau asesu rhenti
Mae'r Pwyllgor Asesu Rhenti yn dribiwnlys a sefydlir gan y gyfraith, o dan ddarpariaethau Deddf Rhenti 1977, sy'n cynnwys dau neu dri unigolyn. Mae’n ymdrin ag anghydfodau ynglŷn â rhenti teg a rhenti’r farchnad.
Rhoddir awdurdodaeth Pwyllgor Asesu Rhenti gan y deddfau canlynol:
- Deddf Rhenti 1977,
- Deddf Tai 1988, a
- Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol).
Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 yw’r rheoliadau sy'n llywodraethu'r tribiwnlys.
Caiff Pwyllgorau Asesu Rhenti eu sefydlu o dan adran 65 o Ddeddf Rhenti 1977, ac Atodlen 10 i'r ddeddf honno.
Rhenti Teg
Mae'r pwyllgor yn penderfynu beth yw rhent teg ar gyfer eiddo yn dilyn gwrthwynebiad un ai gan y landlord neu'r tenant i benderfyniad swyddog rhenti.
Mae adran 70 o Ddeddf Rhenti 1977 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog neu bwyllgor rhenti ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu rhent teg ar gyfer eiddo:
- Oedran, cymeriad, ardal a chyflwr yr eiddo
- Swm, safon a chyflwr unrhyw ddodrefn a ddarperir o dan y denantiaeth
Ymysg camau amrywiol eraill, bydd y pwyllgor yn ystyried p'un a fydd rhent tybiannol y farchnad yn cael ei addasu i adlewyrchu unrhyw welliannau gan y tenant sydd wedi'u gwneud i'r eiddo (oni bai am y rheini sy'n ofynnol yn ôl y cytundeb tenantiaeth). Bydd angen iddynt hefyd ystyried yr 'elfen prinder'. Mae hon yn berthnasol pan fo’r pwyllgor yn ystyried bod yr amodau canlynol wedi'u bodloni:
- bod nifer y bobl sy'n ceisio dod yn denantiaid tai annedd tebyg yn yr ardal, ar yr un telerau – oni bai am rent – â thenantiaeth yr eiddo dan sylw, yn sylweddol fwy na nifer y tai annedd o’r fath sydd ar gael i'w gosod
- bod y prinder wedi gwthio gwerthoedd rhenti cymaradwy y farchnad yn uwch na beth fyddent fel arall
Mae'r Llys Apêl wedi cadarnhau bod adran 70 yn darparu mai rhent teg yw rhent tybiannol y farchnad ar gyfer yr eiddo dan sylw heb yr "elfen prinder" (os oes un).
Unwaith y mae penderfyniad wedi'i wneud, bydd y clerc yn ysgrifennu at y partïon gan amgáu hysbysiad penderfynu sy'n eu hysbysu o'r rhent teg sydd wedi'i benderfynu gan y pwyllgor ac yn egluro'r cyfrifiad capio.
Gall parti apelio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) o dan adran 65A o Ddeddf Rhenti 1977, ond dim ond os yw'r parti'n ystyried bod y pwyllgor wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.
Mae gan bartïon cais hawl i fuddion darpariaethau Deddf Hawliau Dynol 1998.
Mae pob penderfyniad gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn agored i'r cyhoedd.
Gellir dod o hyd i ffurflenni cais a chanllawiau ar eu gwefan hefyd.
Rhenti’r Farchnad
Mae'r pwyllgor hefyd yn edrych ar amgylchiadau lle mae landlord o dan denantiaeth sicr neu denantiaeth gyfnodol fyrddaliadol sicr wedi rhoi hysbysiad i denant o'i fwriad i gynyddu'r rhent. Gellir dod o hyd i ffurflenni cais a chanllawiau ar wefan tribiwnlys eiddo preswyl.
Mae adran 65A o RA 1977 yn darparu y gellir apelio i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol ynglŷn â phenderfyniad pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd o dan Atodlen 10 y ddeddf honno. Nid yw hyn yn berthnasol os yw pwyllgor asesu rhenti yn arfer swyddogaethau tribiwnlys prisio lesddaliadau neu dribiwnlys eiddo preswyl. Mae'r Rheoliad Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 yn darparu, ymysg pethau eraill, ar gyfer y gweithdrefnau sydd i’w dilyn.