Cyfyngiad ar Feddiant; Aros Gartref, Aros Gartref yn Ddiogel
Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Stephanie Pugh, Capital Law. Er gwybodaeth nid yw'r ddeddfwriaeth y cyfeirir ato yn yr erthygl hon mewn grym bellach, ond mae'r erthygl yn parhau i fod ar gael am resymau diddordeb
Mae gan denantiaid ddyletswydd gyfreithiol i'w landlord, sy'n codi o statud a'u cytundeb tenantiaeth, i dalu rhent a glynu at holl delerau eraill eu tenantiaeth (fel sydd gan landlordiaid i denantiaid, i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol nhw). Er ei bod fel arfer er budd y ddau barti i ddod o hyd i ddatrysiad ar gyfer achosion o dorri cytundeb a rhent heb ei dalu, pan fo materion yn arbennig o annifyr ac yn ailddigwydd, mae'n gyffredin i landlordiaid fod eisiau cymryd y cam mwy difrifol o droi allan.
Wrth i ni ddechrau ar flwyddyn y pandemig, cafodd y byd ei herio i ailystyried sut mae cymdeithas yn gweithio. Collwyd swyddi, torrwyd cyflogau, ac, o ganlyniad, er mai ‘Aros Gartref’ oedd arwyddair y pandemig cynnar, gwnaeth llawer gael trafferth yn deall sut y gallent ariannu'r cartrefi roeddent wedi'u cyfyngu iddynt.
Anogwyd landlordiaid gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu ymagwedd ‘gadarnhaol’, ‘ragweithiol’ a ‘chefnogol’ i'w rôl, gan eu cyfarwyddo i ddarparu’r ‘hyblygrwydd mwyaf’ drwy gydol yr argyfwng. Er y gellir dadlau yr oedd yn sefyllfa anlwcus i landlordiaid, daeth amddiffyn tenantiaid yn angenrheidiol, gan fod methu taliadau rhent yn rhywbeth anochel a daeth troi allan yn ganlyniad bygythiol.
Felly, fel ymateb gan Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, aeth Deddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”) (a'i diwygiadau hwyrach ymlaen) i'r afael â'r materion yn uniongyrchol.
Deddf y Coronafeirws – Darpariaethau Presennol
Cyflwynwyd y Ddeddf, sy'n berthnasol i bob landlord sydd wedi rhoi tenantiaethau o dan Ddeddf Rhenti 1977 a Deddfau Tai 1985, 1988 a 1996, ym mis Mawrth 2020. Drwy adran 81 o’r Ddeddf, ac Atodlen 29 iddi, ymestynnwyd y cyfnodau hysbysu gofynnol ar gyfer achosion cymryd meddiant mewn perthynas â thenantiaethau preswyl, gyda'r nod o beidio ag annog troi allan. Mae'r Ddeddf yn gosod isafswm cyfnod o chwe mis ar gyfer cyflwyno hysbysiadau mewn perthynas â phob tenantiaeth warchodedig, tenantiaeth statudol, tenantiaeth ddiogel, tenantiaeth sicr, tenantiaeth fyrddaliadol sicr, tenantiaeth ragarweiniol a thenantiaeth isradd. Mae eithriad priodol i hyn pan fydd yr hysbysiadau hynny yn ymwneud â throi allan neu weithrediadau eraill lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais domestig yn bryder hysbys.
I gychwyn, roedd hyn mewn grym tan fis Medi 2020, ond mae wedi cael ei ymestyn yn barhaus gan ddiwygiadau i'r Ddeddf, yn unol â gofynion natur barhaus y pandemig. Ar hyn o bryd, mae darpariaethau o'r fath mewn grym yng Nghymru tan 31 Rhagfyr 2021, pan fyddant yn cael eu trafod eto yn erbyn amgylchiadau presennol y pandemig.
Deddf y Coronafeirws – Llwyddiant?
Gwnaeth Julie James AS, Gweinidog Tai ar yr adeg y daeth y darpariaethau i rym, eu disgrifio fel hanfodol o ran ceisio ‘cynyddu sicrwydd a lleihau pryder’, gan sicrhau ‘bod llai o bobl yn wynebu cael eu troi allan … gyda mwy o amser i geisio cymorth i ddatrys unrhyw broblemau’. Mae'r Ddeddf wedi llwyddo i gyflawni'r nodau hyn ac mae'n parhau i wneud hynny.
Er mwyn lleihau'r pryder o golli cartref, mae'r Ddeddf yn cyflawni nifer o ganlyniadau cadarnhaol, o ganiatáu teulu i ganolbwyntio ar faterion eraill y gallant fod yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig, i leddfu'r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl y gallent fod eu hangen fel arall o ganlyniad i'r straen emosiynol a meddyliol a brofir wrth wynebu'r posibilrwydd o golli cartref.
Mae cyfnodau hysbysu hwy yn caniatáu mwy o amser i denantiaid ddod o hyd i lety mwy addas, gan gynyddu'r tebygolrwydd y bydd teuluoedd a chymunedau yn gallu aros gyda'i gilydd ar adeg mor anodd. Mae gan y Ddeddf y potensial i leihau nifer yr achosion o droi pobl allan i wynebu digartrefedd, a fydd, ar ben y buddion cymdeithasol niferus, yn amddiffyn gwasanaethau iechyd hanfodol ymhellach rhag iechyd gwael o ganlyniad i hynny, yn enwedig wrth i'r gaeaf agosáu.
Mae'r llwyddiant tymor hwyaf, fodd bynnag, yn sgil-gynnyrch y darpariaethau. Dyma yw'r anogaeth a'r dilysiant y gall landlordiaid, tenantiaid ac asiantaethau cymorth gydweithio i oresgyn a negodi materion cytundeb a thaliadau rhent wedi'u methu. Bydd yn cysylltu landlordiaid ag asiantaethau cymwynasgar, y gallent fod wedi'u hanwybyddu fel arall, ac mae’n eu hannog i fabwysiadu ymagwedd ryngweithiol tuag at anghysondebau tenantiaeth y gellir parhau â hi ar ôl y pandemig. O ganlyniad i hyn, dylai fod ffocws cryf ar atgyfnerthu asiantaethau o'r fath, gwrando ar anghenion landlordiaid a thenantiaid, a darparu gwasanaeth sy'n ymarferol. Dylai'r awdurdodau lleol, sydd bob amser wedi annog y math o gyfryngu sydd bron yn cael ei orfodi gan y Ddeddf, ddefnyddio'r amser hwn i berffeithio hynny. Os caiff ei weithredu'n iawn, gallai hyn arwain at newid parhaol i'r stereoteip o gydberthynas anghyfforddus rhwng landlordiaid a thenantiaid.
Deddf y Coronafeirws – Addewid Diogelwch yng Nghymru ar ôl y Cyfyngiadau Symud
Ni ellir dweud am ba mor hir bydd effeithiau'r pandemig yn para, ond nid yw ymagwedd amddiffynnol Llywodraeth Cymru tuag at denantiaid yn dangos unrhyw arwydd o ddiflannu. Mae'r rheolau wedi'u gosod i'w hadolygu'n barhaus yn sgil yr amgylchiadau sy'n berthnasol bryd hynny, gan gysylltu â rhanddeiliaid, landlordiaid, tenantiaid a'u cyrff perthnasol. Mae ailystyried y darpariaethau hyn yn rheolaidd wrth i'r pandemig fynd yn ei flaen yn hanfodol er mwyn parhau i leddfu trafferthion y rhai sy'n wynebu caledi ariannol ac i sicrhau, fel y cydnabuwyd gan y Gweinidogion sy'n llywio'r Ddeddf, nad oes bwlch yn yr amddiffyniad a roddir i denantiaid mewn amgylchiadau o’r fath sy'n newid yn barhaus.
Os effeithir arnoch gan y materion ariannol a drafodwyd drwy'r erthygl hon, gellir dod o hyd i gymorth ar wefan Llywodraeth Cymru.