Tai cymdeithasol
Trosolwg
Tai cymdeithasol yw darparu tai ar brisiau fforddiadwy i’r rheiny na allant fforddio rhentu neu brynu cartref ar y farchnad agored.
Gellir darparu tai gan yr awdurdod lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu sefydliadau nid-er-elw eraill. Gellir rhoi’r hawl i feddiannu cartrefi drwy gytundebau sy'n ymwneud â thenantiaethau preswyl. Mae yna hefyd amryw o gynlluniau perchnogaeth cartrefi ar gael, gan gynnwys Cymorth Prynu, Rhanberchnogaeth a Rhent yn Gyntaf.
Llywodraethir tai cymdeithasol gan y gyfraith i sicrhau eu fforddiadwyedd a’u hansawdd. Datblygwyd y Fframwaith Rheoleiddiol (2017) mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys tenantiaid. Fe’i gweithredwyd yn wreiddiol yn 2017 ac, ar ôl adolygiad canolraddol, cyhoeddwyd safonau diwygiedig yn 2018. Mae proses ymgynghori bellach ar waith ac mae safonau wedi'u diweddaru a fframwaith newydd yn debygol o gael eu gweithredu yn 2021. Nod y fframwaith yw sicrhau bod Cymru yn parhau i fod â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi'u llywodraethu'n dda, gyda thenantiaid yn aros wrth wraidd y rheoliadau ar gyfer gwell atebolrwydd a thryloywder.
Gosododd Llywodraeth Cymru nod ar gyfer yr holl gartrefi cymdeithasol i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Rhoddwyd dyddiad targed o fis Rhagfyr 2020 i'r holl ddarparwyr i sicrhau bod yr holl dai yn bodloni'r safonau hynny. Fodd bynnag, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar waith arfaethedig a raglennir ac mae estyniad y tu hwnt i'r dyddiad cau wedi'i gytuno gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol lle bo angen.
O dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996, Gweinidogion Cymru sy'n cofrestru a rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae hyn yn caniatáu Gweinidogion Cymru i roi canllawiau ac yn gosod safonau sy'n berthnasol i’r canlynol:
- Rheoli llety ar ffurf tai gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (a gyflwynwyd gan Fesur Tai (Cymru) 2011;
- Llywodraethu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, a rheolaeth ariannol mewn cysylltiad â nhw;
- Cwynion a pherfformiad; a
- Chadarnhau a chynnal hyfywedd ariannol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
Nid oes angen i awdurdodau lleol gofrestru gyda Gweinidogion Cymru er y gallant osod safonau i'w bodloni a gallant ymyrryd os nad yw safonau mewn cysylltiad â’r ansawdd a rhent, neu daliadau gwasanaeth sy'n ymwneud â llety, yn cael eu bodloni.
Mae Deddf Tai 1985 yn galluogi awdurdodau lleol i gynnal trosglwyddiadau gwirfoddol o stoc â thenantiaid i landlordiaid eraill fel modd o sicrhau buddsoddiad ar gyfer gwella tai cymdeithasol. Roedd y trosglwyddiadau’n gofyn am gytundeb y mwyafrif o'r tenantiaid, a fyddai wedi cael eu hymgynghori cyn dechrau'r broses waredu, a chydsyniad Gweinidogion Cymru. Ffurfiwyd sawl landlord cymdeithasol cofrestredig yn benodol at y diben hwn.
Cyflwynwyd Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 i leihau rheolaeth llywodraeth leol a chanolog dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae'n galluogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i allu parhau i gael mynediad at gyllid preifat i ategu grantiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Ar ben hynny, mae'n rhoi rhyddid pellach o ran y ffaith nad oes angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar landlordiaid cymdeithasol cofrestredig cyn eu bod yn gwerthu eiddo bellach – mae ond angen iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru eu bod yn gwneud hynny.
Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 yn galluogi tenantiaid tai cymdeithasol nad ydynt yn fodlon ar eu landlordiaid i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.