Hysbysiadau
Gall landlordiaid geisio meddiannu eiddo am amryw o resymau, er enghraifft os oes ôl-ddyledion rhent neu os yw'r tenant yn methu talu rhent pellach.
O dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae'n rhaid i landlordiaid roi rhybudd cyn y gallant wneud cais i'r llys droi'r tenant allan.
Gellir defnyddio hysbysiad adran 21 neu adran 8, neu'r ddau, pan fo gan denant denantiaeth fyrddaliadol sicr. Gellir defnyddio hysbysiad adran 8 os yw tenant wedi torri telerau'r denantiaeth.
Ni ellir cyflwyno hysbysiadau adran 21 os yw'r canlynol yn berthnasol:
- Mae'n llai na phedwar mis ers i'r denantiaeth ddechrau, neu fod y cyfnod penodol heb ddod i ben, oni bai fod yna gymal yn y contract sy'n caniatáu ar gyfer hyn
- Mae'r eiddo wedi'i gategoreiddio fel tŷ amlfeddiannaeth ac nid oes ganddo drwydded tŷ amlfeddiannaeth gan y cyngor
- Mae'r denantiaeth wedi dechrau ar ôl mis Ebrill 2007 ac nid yw blaendal y tenant mewn cynllun diogelu blaendal
- Mae'r denantiaeth wedi dechrau ar ôl mis Tachwedd 2016 ac nid yw'r landlord yn gofrestredig neu nid oes ganddo'r drwydded briodol
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn diwygio'r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â throi allan pan ddaw i rym. Bydd yn cynyddu'r cyfnod ar ddechrau tenantiaeth newydd pan na ellir cyflwyno hysbysiad landlord am chwe mis. Bydd hefyd yn cynyddu’r cyfnod rhybudd byrraf sy'n rhaid i landlord ei roi wrth geisio dod â chontract i ben pan nad yw’r telerau wedi’u torri o ddau fis i chwe mis. Wedi'u cyfuno, bydd y newidiadau hyn yn darparu 12 mis o sicrwydd meddiannaeth i ddeiliaid contractau pan nad oes achos o dorri contract.
Bydd hawliau eiddo landlordiaid yn parhau i gael eu diogelu drwy gadw eu gallu i gyflwyno hysbysiad cymryd meddiant gyda chyfnod rhybudd byrrach – un mis – os yw'r contract wedi'i dorri.
Gweler Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 am fwy o wybodaeth.
Diweddariad cyfreithiol ar y coronafeirws
Cafodd Deddf y Coronafeirws 2020 Gydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020 a daeth i rym ar 26 Mawrth 2020. Pasiwyd Deddf y Coronafeirws 2020 fel mesur brys mewn ymateb i ledaeniad salwch y coronafeirws (COVID-19).
Yng Nghymru, bydd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Estyn Cyfnod Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021 mewn grym tan 30 Medi 2021. Mae'r rheoliadau hyn yn golygu bod angen chwe mis o rybudd ar gyfer hysbysiadau a gyflwynir mewn perthynas â'r rhan fwyaf o denantiaethau (oni bai am achosion lle mae'r sail ar gyfer yr hysbysiad yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais domestig). Mae'r cyfnodau rhybudd hirach hyn wedi cael eu cyflwyno mewn ymateb i'r pandemig a'r risg i iechyd y cyhoedd os caiff niferoedd uwch o bobl eu troi allan i wynebu digartrefedd.