Skip to main content

Estyniad i’r warchodaeth rhag cael eich troi allan o adeiladau preswyl yng Nghymru

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Nicola Lawrence a Llinos Davies, aelodau Tîm Datrys Anghydfodau Eiddo yn Geldards LLP.

 

Yn ddiweddar, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi bod gwarchodaeth rhag troi allan i denantiaid preswyl yng Nghymru wedi'i hehangu nes 30 Mehefin 2021.  

Daw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (“y Rheoliadau”) i rym ar 1 Ebrill 2021. 

Mae'r Rheoliadau'n adnewyddu Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

Effaith y Rheoliadau yw atal swyddogion gorfodi rhag mynd i dŷ preswyl yng Nghymru at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant neu adferiad, neu gyflwyno hysbysiad o droi allan, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol a nodwyd, nes 30 Mehefin 2021. 

Mae'r Rheoliadau'n mabwysiadu'r un eithriadau â'r rheoliadau blaenorol, sef y gall achosion o droi allan gael eu cyflawni o hyd lle mae llys yn fodlon bod yr hysbysiad, y gwrit neu'r warant yn ymwneud â gorchymyn adennill meddiant wedi'i wneud yn erbyn tresmaswyr sy'n unigolion anhysbys, neu y mae'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â'r seiliau canlynol:

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol o dan adran 84A o Ddeddf Tai 1985
  • Sail 2 (niwsans) neu Sail 2A (cam-drin domestig) yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1985
  • Sail 7 (marwolaeth tenant heb unrhyw hawl olynu) (cyhyd â bod yr unigolyn sy'n mynychu wedi cymryd camau i fodloni ei hun bod yr eiddo'n wag)
  • Sail 7A (ymddygiad gwrthgymdeithasol)
  • Sail 14 (niwsans) neu Sail 14A (cam-drin domestig) yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988
  • Achos 2 (niwsans) yn Atodlen 15 i Ddeddf Rhent 1977

Bwriad y ddogfen hon yw gweithredu fel trosolwg yn unig o'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ar 25 Mawrth 2021. Nid oes modd derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gyfanrwydd neu gywirdeb y nodyn briffio hwn a dylai cyngor proffesiynol gael ei geisio mewn perthynas ag unrhyw fater penodol. Partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yw Geldards LLP sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (OC313172) ac mae’r cwmni wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae rhestr o aelodau Geldards LLP ar gael i'w gweld yn eu swyddfa gofrestredig yn 4 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ. Maent yn defnyddio'r gair 'partner' i gyfeirio at aelod o'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu gyflogai sydd â statws a chymwysterau cyfwerth.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2022