Skip to main content

Cymdeithasau Tai – Cartrefi'r Dyfodol i Gymru?

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Kate Evans, Capital Law. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyhoeddiad ei safon newydd, Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021: Mannau a Chartrefi Prydferth, ar 17 Awst 2021. Yma, mae Kate Evans – o dîm Adeiladu, Ynni a Phrosiectau Capital Law – yn crynhoi beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y sector tai cymdeithasol. 

 

Bydd y safon yn cael ei chymhwyso yn llawn i bob cynllun tai fforddiadwy a ariennir gan y cyhoedd a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ar y cam "cysyniad", i'w graffu yn dechnegol o 1 Hydref 2021. Mae'n cwmpasu safonau gofod, y gallu i dai newydd "drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit", a lleihau’r defnydd o garbon yn ystod y broses adeiladu a phan fydd pobl yn byw yn y tai. 

O dan y safon newydd, mae'n rhaid i dai newydd fodloni'r canlynol: 

  • Cyflawni Tystysgrif Perfformiad Ynni A drwy'r safon ofynnol ar gyfer adeiladwaith. 
  • Peidio â defnyddio boeleri sy'n defnyddio tanwydd ffosil i ddarparu dŵr poeth domestig a gwresogi gofodau. 
  • Bydd cynigion gwahanol yn dderbyniol lle y gellir arddangos gan ardystiad annibynnol fod galw am ynni yr adeilad wedi cael ei leihau yn unol â'r Hierarchiaeth Ynni ar gyfer Cynllunio ym Mholisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru. 
  •  Asesiad o risg gorboethi yn seiliedig ar fethodoleg TM59 y Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) (ar gyfer 'adeiladau Categori 1') sy'n arddangos cydymffurfedd â meini prawf cydymffurfedd TM59 CIBSE ar gyfer fflatiau a thai nad oes ganddynt ddwy agwedd baralel neu fwy i hwyluso trawsawyru. 

Ac mae angen rhoi ystyriaeth i’r canlynol: 

  • Asesu a lleihau carbon ymlaen llaw ac ymgorfforedig yn ystod y camau cynllunio ac adeiladu, ac wrth gynnal gwaith adnewyddu. 
  • Gwerthuso'r potensial ar gyfer ailddefnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes, nodi deunyddiau sydd wedi'u hailddefnyddio a'u hailgylchu, a sicrhau y gellir addasu, ailddefnyddio neu ddadadeiladu adeiladau ac y gellir ailddefnyddio neu ailgylchu deunyddiau wedi'u hadfer ar ddiwedd eu hoes. 
  • Mwyafu’r defnydd effeithlon o bren yn y broses adeiladu er mwyn cynyddu’r carbon a gaiff ei storio mewn cynhyrchion pren a gynaeafir yng Nghymru. 
  • Lleihau carbon gweithredol drwy leihau'r galw am ynni gweithredol a, lle bo'n briodol, defnyddio ynni adnewyddadwy ar y safle. 
  • Sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gyfer casglu deunydd ailgylchadwy allweddol a storio gwastraff bwyd mewn cartrefi. 
  • Ymgymryd â'r asesiad fel y'i hadeiladwyd o garbon gydol oes a gwerthusiad ar ôl deiliadaeth o berfformiad yr adeilad mewn perthynas â bwriad y cynllun. 
  • Defnyddio cynlluniau niwtraleiddio cadarn i symud i garbon gydol oes sero-net unwaith y mae carbon ymlaen llaw, ymgorfforedig a gweithredol wedi'i leihau. 

Mae'n bwysig nodi y bydd ond yn ofynnol i gartrefi fforddiadwy newydd a ddarperir drwy gytundebau cynllunio (o dan adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) ac amodau cynllunio fodloni "gofynion gofod" Atodiad A ac Atodiad B ar gyfer cytundebau yr ymrwymir iddynt ar ôl 1 Hydref 2021, er bod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd yn adolygu hyn yn rheolaidd. Nid yw'r safon ar hyn o bryd yn berthnasol i ddatblygwyr preifat, ond uchelgais Llywodraeth Cymru yw bod datblygwyr preifat yn ei mabwysiadu erbyn 2025. 

Mae'r safon hon, er ei bod ychydig yn gyfyngedig o safbwynt y gallu i’w chymhwyso’n llawn ar hyn o bryd, yn ddatganiad mentrus ar gyfer Llywodraeth Cymru i'w wneud o ran gosod y meincnod ar gyfer datgarboneiddio’r stoc o dai cymdeithasol ar raddfa fawr yng Nghymru. Mae'n ddatganiad o fwriad y llywodraeth i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a lleihau ôl troed carbon tai, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am 10% o'r holl allyriadau carbon yng Nghymru. 

Bydd yn ddiddorol gweld maes o law p'un a fydd y safon yn dod yn berthnasol i'r holl fathau o ddatblygwyr, a ph'un a fydd meini prawf a restrir ar hyn o bryd fel "ystyriaeth" yn unig yn cael eu symud i'r categori gorfodol, wrth i farchnad Cymru am ddulliau modern o adeiladu a chynhyrchu pren barhau i aeddfedu. 

Mae gan dîm Adeiladu, Ynni a Phrosiectau neilltuedig Capital Law, ynghyd â'r tîm cymdeithas tai, brofiad o roi cyngor sy'n cwmpasu'r meysydd a nodwyd yn yr erthygl hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os hoffech drafod sut mae'r safon hon yn effeithio ar ddarpariaeth arfaethedig eich cymdeithas o stoc dai, yna cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at k.evans@capitallaw.co.uk

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2022