Awdurdodau lleol
Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau disgresiwn eang i ddarparu llety tai o dan adran 9 o Ddeddf Tai 1985 (HA 1985). Nid oes rheidrwydd arnynt i ddal stoc tai ac o ganlyniad trosglwyddodd nifer o awdurdodau lleol eu stoc tai i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ("RSLs"). Pan fo awdurdodau lleol yn penderfynu darparu tai cymdeithasol eu hunain, mae Rhan 6 o Ddeddf Tai 1996 (HA 1996) yn gymwys.
Dyraniad
Mae adran 159 o HA 1996 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â darpariaethau Rhan 6 o'r ddeddf honno wrth ddyrannu tai.
Mae adran 167 o HA 1996 yn darparu bod yn rhaid i bob awdurdod lleol gael cynllun dyrannu i gyd-fynd â’r tai sydd i'w dyrannu. Hefyd, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru ganllawiau statudol o dan adran 169 ym mis Mawrth 2016 o dan yr enw 'Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd'. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried y Cod Canllawiau hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 6 o HA 1996.
Mae’r Cod Canllawiau i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cymhwysedd
Wrth ystyried cais am ddyrannu llety rhaid i awdurdod lleol benderfynu a yw'r ceisydd yn gymwys. Mae adran 160A o Ddeddf Tai 1996 yn darparu na fydd awdurdod lleol yn dyrannu tai i:
- (a) person o dramor sy'n anghymwys i gael dyraniad o lety tai yn rhinwedd is-adran (3) neu (5), sef:
- person sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 ; a
- dosbarthiadau eraill o bersonau o dramor nad ydynt yn gymwys i ddyrannu tai fel y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol drwy reoliadau ragnodi
- (b) i berson y mae'r awdurdod wedi penderfynu ei fod i'w drin fel pe bai'n anghymwys ar gyfer dyraniad o'r fath yn rhinwedd is-adran (7), sef;
- person sy'n euog o ymddygiad annerbyniol yn ddigon difrifol i'w gwneud yn anaddas i fod yn denant i'r awdurdod ; a
- o dan yr amgylchiadau ar yr adeg yr ystyrir bod y cais yn anaddas i fod yn denant i'r awdurdod oherwydd eu hymddygiad
- (c) i ddau berson neu ragor ar y cyd os yw unrhyw un ohonynt yn berson a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b)
Mae adran 160A(3) yn darparu nad yw person sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i gael llety tai oni bai ei fod yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan Weinidogion Cymru fel pe bai'n gymwys mewn rheoliadau. Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 yw'r rheoliadau perthnasol yng Nghymru.
Nid yw Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 yn gymwys yng Nghymru erbyn hyn. Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn ymdrin â digartrefedd ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gartrefu rhai pobl.
Mae'r Cod Canllawiau hefyd yn darparu canllawiau mewn perthynas â chymhwysedd.
Safonau
Mae Rhan 4 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (HWA 2014) yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru bennu safonau sydd i'w bodloni gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad â;
- ansawdd llety
- rhent ar gyfer llety o'r fath; a
- taliadau gwasanaeth ar gyfer llety o'r fath.
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas â'r safonau hyn. Mae rhai pwerau ymyrryd ar gael hefyd i Weinidogion Cymru os ydynt o'r farn bod awdurdod lleol wedi methu neu'n debygol o fethu â chyrraedd safon. Rhaid iddynt roi hysbysiad rhybuddio sy'n gosod y canlynol:
- (a) y rhesymau pam eu bod wedi eu bodloni bod y seiliau'n bodoli
- (b) y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd i ymdrin â'r seiliau dros ymyrryd
- (c) o fewn pa gyfnod y mae'r camau i'w cymryd gan yr awdurdod
- (d) y camau y maent yn bwriadu eu cymryd os yw'r awdurdod yn methu â chymryd y camau gofynnol.
Pan nad yw awdurdod lleol wedi cydymffurfio â'r hysbysiad rhybuddio, nodir pwerau ymyrryd sydd ar gael gan Weinidogion Cymru yn Adrannau 120 i 125 o HWA 2014.
Caniatâd i waredu tir
Mae gwahanol rannau o Ddeddf Tai 1996 sy'n gymwys mewn perthynas â gwaredu tir.
- Mae adran 32 o HA 1985 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol gael caniatâd Gweinidogion Cymru er mwyn gwaredu tir a ddelir at ddibenion llety (o dan Ran 2 o HA 1985) (ac eithrio mewn amgylchiadau penodol).
- Mae Rhan 43 o HA 1985 hefyd yn darparu bod angen caniatâd Gweinidogion Cymru er mwyn gwaredu tir nad yw’n cael ei ddal at ddibenion llety, ond sy'n cael ei osod ar denantiaeth ddiogel neu ragarweiniol, neu os oes les wedi ei rhoi o ganlyniad i'r hawl i brynu.
Caniateir rhoi caniatâd o dan adrannau 32 neu 43 naill ai'n gyffredinol mewn perthynas â phob tŷ a thir. Caniateir rhoi caniatâd yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Ceir ystyriaethau statudol penodol y dylid eu cofio wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd o dan yr adrannau hyn ai peidio, ac a ddylid gosod amodau ar y caniatâd ai peidio (gweler adrannau 34 a 43 o HA 1985).
Dylid nodi bod yna sefyllfaoedd eraill lle y bo’n rhaid i awdurdod lleol gael caniatâd Gweinidogion Cymru i waredu tir mewn ffyrdd penodol, er enghraifft adran 133 o HA 1988 (angen caniatâd ar gyfer rhai gwarediadau dilynol) ac adran 25 o'r Deddf Llywodraeth Leol 1988. Bydd yr angen am ganiatâd yn dibynnu ar ffeithiau pob achos unigol.
Cyllid tai
Hyd at 2015, gweithredodd un ar ddeg o awdurdodau landlordiaid Yng Nghymru o fewn system Cymhorthdal Cyfrifon Refeniw Tai (HRAS) ganolog.
Daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb ym mis Mawrth 2015 i ganiatáu i bob Cyngor sydd â stoc tai yng Nghymru adael y system a byddai Cynghorau yn hytrach yn dod yn gyfrifol am hunan-ariannu.
Mae Rhan 5 o Ddeddf Tai Cymru 2014 ("HWA 2014") yn darparu ar gyfer system hunangyllidol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae adran 131 yn diddymu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Yn gryno, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ddefnyddio’u rhent i gyllido eu stoc tai bellach.
Diddymwyd Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai o 20 Mawrth 2019 yng Nghymru ac mae cytundebau gwirfoddol a wnaed gan awdurdodau lleol wedi dod i ben, neu wrthi'n cael eu terfynu.
Yn hanesyddol, roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gytuno i 'gap benthyca' ar eu gwariant mewn perthynas â stoc tai newydd. Yn 2019, codwyd y cap benthyca.
Cedwir y ddyletswydd ar awdurdod tai lleol i gadw “Cyfrif Refeniw Tai” o dan adran 74 o Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Bydd y cyfrif yn cynnwys gwybodaeth ariannol mewn perthynas â thai neu adeiladau a ddarperir, tir a gafaelir, tai a brynir a materion eraill a restrir yn adran 74(1). Mae adran 76 yn rhoi dyletswydd ar awdurdod tai lleol i sicrhau nad yw’r cyfrif ar gyfer y flwyddyn yn dangos balans debyd. Mae Atodlen 4 i’r Ddeddf honno yn ymdrin â chadw’r Cyfrif.
Ymhellach, gall awdurdod tai lleol gadw Cyfrif Atgyweiriadau Tai, os yw’n ofynnol iddo gadw Cyfrif Refeniw Tai (adran 77). Unwaith eto, rhaid i’r awdurdod sicrhau credydau digonol i’r cyfrif er mwyn sicrhau nad yw’r cyfrif yn dangos balans debyd ar gyfer unrhyw flwyddyn (adran 77(4)).
Heriau cyfraith gyhoeddus
Mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i heriau cyfraith gyhoeddus drwy adolygiad barnwrol.
Dylid nodi hefyd fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystyried cwynion ynghylch awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.