Skip to main content

Cartrefi Cynnes Cymru; Y Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Stephanie Pugh, Capital Law.

 

Yn unol ag addewid Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd erbyn 2035, cyhoeddwyd y Cynllun Ymdopi â Thywydd Oer (“y Cynllun”) ym mis Rhagfyr 2021. 

Gyda’r argyfwng ynni cenedlaethol yn amcangyfrif y bydd prisiau ynni domestig yn codi hyd at 50% erbyn y gwanwyn, ni fu erioed mor bwysig i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad i nodi, blaenoriaethu ac amddiffyn y bobl hynny sy’n agored i effeithiau cartref oer. Mae'r Cynllun yn addo hyn yn union, gyda'i ffocws triphlyg;

  1.  Rhoi cyngor a chymorth i aelwydydd sy’n agored i niwed ac ar incwm is i gefnogi deiliaid tai i baratoi’n well ar gyfer tywydd oer.
  2. Helpu deiliaid tai incwm isel i gynnal/gwella effeithlonrwydd ynni a thermol eu cartrefi, a;
  3. Gweithio gyda phartneriaid i gydgysylltu gwasanaethau cyngor a chymorth yn well i aelwydydd sy’n agored i niwed ac ar incwm is er mwyn lleihau’r risg o salwch y gellir ei osgoi o ganlyniad i fyw mewn cartref oer.

Y Gwirionedd Iasoer: effeithiau cartref oer

Tynnodd adroddiad yn 2019 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sylw at effeithiau amrywiol cartrefi oer a llaith ar ein hiechyd. Yn ôl yr adroddiad, yn ystod misoedd y gaeaf, mae clefydau anadlol a chardiofasgwlaidd yn gyfrifol am dros hanner marwolaethau ychwanegol y gaeaf. Gellir cysylltu'r ddau gymhlethdod iechyd â thymheredd corff is yn uniongyrchol. Canfuwyd hefyd fod mathau eraill o salwch, megis dementia a phroblemau iechyd meddwl, ymhlith prif achosion marwolaethau ychwanegol y gaeaf, sy'n gysylltiedig ag effeithiau cartref oer. 

Bydd y Cynllun yn blaenoriaethu’r bobl hynny y credir eu bod fwyaf agored i risgiau’r uchod, sef:

  • Person 60 oed a throsodd
  • Plentyn dibynnol neu blant o dan 16 oed 
  • Person sengl o dan 25 oed
  • Person sy'n byw gyda salwch tymor hir neu sy'n anabl

Wrth edrych yn benodol ar realiti llym yr argyfwng ynni ar ei ben ei hun, amcangyfrifir y gellir priodoli tua 10% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf â thlodi tanwydd yn uniongyrchol, ac nid oerfel anochel y gaeaf yn unig.

Mesurau Presennol Llywodraeth Cymru i Frwydro yn erbyn Cartrefi Oer

Bydd y bobl hynny sy’n agored i niwed yng Nghymru yn buddio o Gynlluniau Llywodraeth y DU, megis Taliadau Tywydd Oer, y Taliad Tanwydd Gaeaf, a’r gostyngiad Cartrefi Cynnes.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau cymorth ychwanegol i’r bobl hynny sy’n dioddef o gartrefi oer yng Nghymru.

Gall pobl yng Nghymru sy’n profi caledi ariannol gael mynediad at Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru (“y Gronfa”), pan na allant ddiwallu eu hanghenion o ran bwyd, nwy neu drydan drwy Daliad Cymorth mewn Argyfwng. Mae'r gronfa hefyd yn ymestyn i achosion lle na ellir fforddio talu ffi galw am beiriannydd Diogelwch Nwy a chostau mân atgyweiriadau, trwy Daliad Cymorth i Unigolion. Mae'r ddau daliad yn grantiau nad oes angen eu had-dalu, sydd ar gael ar ôl bodloni'r meini prawf yma.

At hynny, bydd y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf, a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn ei gwneud yn bosibl i bobl gymwys yng Nghymru hawlio taliad untro o £100 oddi wrth eu hawdurdod lleol, i’w helpu i dalu eu biliau tanwydd gaeaf cynyddol. 

Mae gan awdurdodau tai a’u timau datblygu cymunedol rôl hollbwysig i’w chwarae wrth dynnu sylw tenantiaid at y cynlluniau hyn a’u helpu i ymgeisio am y darpariaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu.

Wrth i ni edrych tuag at 2035 …

Wrth symud ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig nifer o gamau gweithredu ac ymrwymiadau er mwyn ei gwneud yn bosibl cyflawni amcanion y Cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’r angen i baratoi ar gyfer tywydd oer, er mwyn galluogi pobl sy'n agored i niwed i gael mynediad at gyngor cartref cynnes effeithiol a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
  • Cydgysylltu camau gweithredu i sicrhau mewnfuddsoddiad ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni domestig. 
  • Gwella mynediad at effeithlonrwydd ynni cartref i bobl sydd mewn perygl o salwch y gellir ei osgoi, ond nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd.
  • Cyfeirio aelwydydd sydd mewn ôl-ddyled wrth dalu eu biliau ynni at gynlluniau sy’n cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref i leihau cost yr ynni sydd ei angen i gynnal tymheredd diogel;
  • Cydgysylltu camau gweithredu rhwng cyflenwyr ynni’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i wella gwydnwch i dywydd oer.
  • Annog landlordiaid yn y sector tai cymdeithasol a’r sector rhentu preifat i annog tenantiaid i roi gwybod am faterion cynnal a chadw. Dylai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fod yn annog tenantiaid i roi gwybod am faterion cynnal a chadw, a rhaid rhoi blaenoriaeth i bob mater cynnal a chadw sy'n effeithio ar effeithlonrwydd thermol.

Gyda chynlluniau niferus ar waith, a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i’w gwella ymhellach, dylai’r bobl hynny yr ystyrir eu bod fwyaf agored i gartrefi oer fod yn dawel eu meddwl wrth inni lywio drwy’r argyfwng ynni. 

I'r bobl hynny sydd mewn angen, ceir mynediad i'r Taliad Tanwydd Gaeaf ar dudalen we eich awdurdodau lleol. Gweler dolen Gronfa Ddewisol Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2022