Mae mwy o amddiffyniad i denantiaid ar y gorwel, ond pa mor hir fydd rhaid aros?
Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Toby Girdler, Capital Law.
Yn ôl yn 2016, cyflwynwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd yn cynnig ailwampio’r system tai rhent yng Nghymru’n llwyr, gyda’r nod o wneud y broses yn fwy syml a rhoi gwell amddiffyniadau i landlordiaid a thenantiaid. Mae hi bellach yn 2021, ac nid yw’r Ddeddf mewn grym yn llawn o hyd. Er bod hyn yn rhwystredig i’r rhai sy’n aros yn eiddgar am orfodi’r Ddeddf, mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o amser i asesu’r Ddeddf. Mewn gwirionedd, maent eisoes wedi ei ddiwygio. Er bod y diwygiadau hyn yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad gwell i denantiaid, y cwestiwn allweddol yw pryd y bydd y Ddeddf mewn grym mewn gwirionedd?
(Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ei hun, gweler yma: https://law.gov.wales/cy/gwasanaethau-cyhoeddus/tai/dosbarthiadau-meddiannaeth)
Ar 23 Chwefror eleni, pasiodd Llywodraeth Cymru'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru). Cyflwynodd hyn nifer o newidiadau i’r Ddeddf arfaethedig, a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar roi’r amddiffyniad mwyaf posibl rhag landlordiaid i ddeiliaid contract meddiannaeth safonol (tenantiaid).
O dan adran 173 o’r Ddeddf, gall landlord roi hysbysiad i’w denant i ildio meddiant o’r eiddo ar ddyddiad penodedig. Er bod yn rhaid i’r cyfnod rhybudd hwn fod yn ddau fis o leiaf yn y Ddeddf wreiddiol, mae’r Bil wedi cynyddu’r cyfnod lleiaf hwn i chwe mis. At hynny, ni all y landlord roi hysbysiad o’r fath tan o leiaf chwe mis i mewn i gyfnod penodol y contract.
Mae hyn i bob pwrpas yn rhoi blwyddyn o ddiogelwch i denantiaid fwynhau eu heiddo, heb ofni rhybudd annisgwyl gan eu landlord, cyn belled â’u bod yn cydymffurfio â thelerau eu contract. Mae hyn yn amddiffyniad hanfodol, nid yn unig i sicrhau rhywfaint o sicrwydd i denantiaid, ond hefyd i atal landlordiaid rhag gwneud unrhyw ragdybiaethau annheg am eu tenantiaid yn nyddiau cynnar y contract.
Mae'r amddiffyniadau newydd hefyd wedi mynd i'r afael â chymalau terfynu mewn contractau. Mewn contractau cyfnod penodol o lai na dwy flynedd, ni chaniateir i’r landlord gynnwys cymal terfynu o gwbl. Yn ogystal â hyn, ni all y landlord roi unrhyw gymal terfynu ar waith tan o leiaf 18 mis i mewn i’r contract.
Ond peidiwch â meddwl bod landlordiaid wedi cael cam. Os yw’r tenant yn torri ei gontract, ni fydd y newidiadau newydd hyn yn berthnasol a bydd gan y landlord yr hawliau troi allan arferol.
Mae’r mesurau diogelu newydd hyn, yn ogystal â'r fframwaith diwygiedig a gyflwynwyd gan y Ddeddf ei hun, yn gam i’r cyfeiriad cywir ar gyfer system rentu sy’n deg ac yn dryloyw. Fodd bynnag, nid ydynt mewn grym eto, ac nid oes disgwyl iddynt fod tan y flwyddyn nesaf. Felly ble mae hynny'n gadael Cymru yn y cyfamser? Fel y mwyafrif o bethau, mae'r pandemig yn effeithio'n fawr ar y gyfraith yn y maes hwn.
Cyflwynodd Deddf Coronafeirws 2020 fesurau dros dro i fod ar waith yn ystod y pandemig, i sicrhau bod tenantiaid yn cael mwy o amddiffyniad rhag cael eu troi allan yn ystod cyfnod mor anodd a chymhleth.
Cyflwynodd y darpariaethau dros dro hyn, fel Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), gyfnod rhybudd lleiaf i landlordiaid o dri mis, yn hytrach na phedair wythnos.
Mewn datganiad diweddar, cyhoeddodd Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru, Julie James, estyniad arall i’r darpariaethau hyn, gan eu hymestyn hyd at ddiwedd 2021. Roedd hyn fwy na blwyddyn yn hwy nag y disgwyliwyd y byddai’r mesurau hyn yn para yn wreiddiol. Yn amlwg, y rheswm am hyn yw effaith barhaus COVID-19 ar ein bywydau ni i gyd. Fodd bynnag, mae’n ddealladwy ei bod yn rhwystredig i denantiaid yng Nghymru pan fo Deddf gliriach, sy’n rhoi gwell amddiffyniad iddynt, yn yr arfaeth. Yn bwysicach fyth, unwaith y bydd wedi'i chyflwyno, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn barhaol.
Yn amlwg, mae gweithredu a chymeradwyo Deddfau fel Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn cymryd amser. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd y Ddeddf, gyda diwygiadau a wneir gan y Bil, yn dod i rym yn ystod gwanwyn 2022. Os na chaiff darpariaethau’r coronafeirws eu hymestyn eto a’u bod yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn, gallai hyn o bosibl adael bwlch lletchwith lle gall landlordiaid ddychwelyd i reoliadau cychwynnol, llai effeithiol.
O safbwynt tenantiaid felly, mae hyn yn brawf amynedd. Ond gallant bellach edrych ymlaen at wanwyn y flwyddyn nesaf, a ddaw â’r diogelwch a’r amddiffyniad a addawyd i Gymru chwe blynedd yn ôl.