Tai amlfeddiannaeth
Mae tai amlfeddiannaeth ("HMOs") yn darparu ffynhonnell llety ar gyfer grwpiau penodol yn y sector rhentu preifat.
Yn gyffredinol, gellir ystyried unrhyw eiddo sy'n gartref i dri neu fwy o bobl nad ydynt yn gysylltiedig, sy'n ffurfio mwy na dwy aelwyd, yn dŷ amlfeddiannaeth.
Mae Rhan 2 o'r Deddf Tai 2004 (HA 2004) yn ymwneud â thai amlfeddiannaeth. Mae'n darparu ar gyfer trwyddedu tai amlfeddiannaeth a threfniadau eraill mewn amgylchiadau penodol lle y bydd pobl yn rhannu cyfleusterau, er enghraifft, lle y caiff ystafelloedd mewn tŷ eu gosod a lle y rhennir y cyfleusterau eraill, neu lety gwely a brecwast.
Diffinnir tai amlfeddiannaeth yn adran 254 o HA 2004. Mae adeilad, neu ran o adeilad, yn dŷ amlfeddiannaeth os yw'n bodloni un o nifer o brofion:
- y prawf 'safonol',
- y prawf 'fflat annibynnol',
- neu'r prawf 'adeilad wedi'i addasu'
Os oes datganiad HMO mewn grym (o dan Adran 255) neu os yw'n floc o fflatiau wedi'u haddasu sy'n bodloni gofynion penodol y mae Adran 257 yn gymwys iddynt, caiff ei ystyried hefyd yn Dŷ Amlfeddiannaeth.
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol weithredu cynllun trwyddedu mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth penodol risg uchel, gweler adrannau 55 a 61 o HA 2004 a'r Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a wnaed o dan adran 55(3). Gall awdurdod lleol lunio ei gynllun ei hun hefyd ar gyfer tai amlfeddiannaeth eraill os y mae’n dynodi ei ardal, neu ran o'i ardal yn ddarostyngedig i drwyddedau ychwanegol (gweler adrannau 56 a 57 o HA 2004).
Gall trwyddedau gynnwys amodau, a bydd eu torri’n drosedd. Gweler adrannau 72 i 75 o HA 2004 mewn perthynas â gorfodi.
Trwyddedu dethol
Mae Rhan 3 o HA 2004 yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun trwyddedu dethol, lle y mae'n rhaid i bob landlord preifat mewn ardal ddynodedig i fod yn drwyddedig. Mae trwyddedu dethol yn canolbwyntio ar ardaloedd lle y mae’r galw am dai yn isel ac ardaloedd sy'n dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol (adran 80 o HA 2004). Mae'n rhaid i awdurdod ymgynghori â Gweinidogion Cymru a chael eu cymeradwyaeth cyn gweithredu cynllun trwyddedu dethol mewn ardal ddynodedig.
Gall trwyddedau gynnwys amodau, a bydd eu torri’n drosedd. Gweler adrannau 95 i 98 o HA 2004 mewn perthynas â gorfodi.