Skip to main content

Tŷ Amlfeddiannaeth

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Stephanie Pugh, Capital Law.

 

Mae tŷ amlfeddiannaeth yn dŷ neu fflat sydd wedi'i feddiannu gan o leiaf dri thenant sy'n ffurfio mwy nag un aelwyd (un teulu, neu un unigolyn), lle mae'r tenantiaid yn rhannu'r un gegin, ystafell ymolchi neu doiled. 

Mae'r gyfraith sy'n rheoli gweithrediad tai amlfeddiannaeth wedi'i chynnwys yn y Ddeddf Tai 2004. Mae’r ddeddf hon yn gosod cyfrifoldebau cyfreithiol ychwanegol ar landlordiaid tai amlfeddiannaeth, megis bodloni gofynion iechyd a diogelwch ychwanegol, a pheidio â gorlenwi'r eiddo, sef testun yr erthygl hon.

Gorlenwi: y gwir plaen

Daw achosion o orlenwi i’r amlwg os nad oes modd  bodloni'r naill neu'r llall o'r safonau dwy ystafell wely:

  • Safon yr ystafell: bydd yn cael ei thorri pan fydd yn rhaid i ddau denant nad ydynt o’r un rhyw gysgu yn yr un ystafell, (nid yw hyn yn cynnwys plant dan ddeg oed neu gyplau priod/cyplau sy'n cyd-fyw). 
  • Safon y lle: bydd yn cael ei thorri pan fydd nifer y bobl sy'n rhannu'r ystafell wely yn fwy na'r nifer a ganiateir, o ystyried nifer yr ystafelloedd gwely sydd ar gael a’u harwynebedd llawr.

Mae effaith gorlenwi'n sylweddol ac ni ddylid ei thanamcangyfrif na'i hanwybyddu. Mae effeithiau byw mewn cartref gorlawn ar iechyd wedi dod i'r amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig. Mae hylendid personol, hylendid y cartref a sicrhau gofod personol wedi bod yn ganolbwynt ymgyrch y Llywodraeth i ddod â'r pandemig i ben. Fodd bynnag, mae effeithiau gorlenwi yn mynd ymhell y tu hwnt i ledaeniad cyflym salwch.

Datgelodd adroddiad gan y GIG yn 2019 fod cysylltiad uniongyrchol rhwng gorlenwi yn y cartref â chynnydd mewn trais domestig a materion iechyd meddwl megis straen, camddefnyddio alcohol ac iselder. Gwelwyd bod mwy o risg o straen ac iselder ymhlith pobl ifanc a bod diffyg preifatrwydd mewn cartref gorlawn yn rhwystr sylweddol i ddatblygiad plant. Hefyd, mae pobl ifanc sy'n byw mewn cartref anhrefnus  a gorlawn yn fwy tebygol o fod yn ddigartref yn y dyfodol, ac nid oes angen esbonio  effeithiau hynny ar iechyd a lles. 

Rheoliadau Cyfredol: diogelu ein lleoedd 

Mae Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 yn ei gwneud yn orfodol i landlordiaid tai amlfeddiannaeth gael trwydded er mwyn rhentu'r eiddo. Mae trwyddedu'n ofynnol yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, sef; pan mae gan yr eiddo o leiaf dri llawr; pan mae'n cynnwys pum unigolyn neu fwy; pan mae dwy aelwyd neu fwy yn byw ynddo ac mae tenantiaid yn rhannu cyfleusterau toiled, ystafell ymolchi neu gegin. Bydd landlordiaid sy'n methu â chael trwydded yn wynebu’r  canlyniadau, trwy gael eu herlyn neu’u dirwyo a gall tenantiaid tai amlfeddiannaeth didrwydded hefyd wneud cais i dribiwnlys i adennill eu rhent. At hyn, mae'r Ddeddf Tai 2004 yn rhoi awdurdod i gynghorau lleol fynnu bod y gofynion trwyddedu yn cael eu rhoi ar waith yn achos tai amlfeddiannaeth llai mewn ardaloedd lle mae risg uchel o orlenwi neu lle mae gorlenwi'n gyffredin. 

Nid yw meini prawf mor eang yn rhoi'r cyfle i landlordiaid tai amlfeddiannaeth ddianc rhag cael trwydded. Mae'r broses drwyddedu yn caniatáu i awdurdodau lleol fonitro'r eiddo cyn cyhoeddi'r drwydded i sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch yn cael eu bodloni ac yn caniatáu i’r cyngor lleol ddirymu trwydded os yw'n ystyried bod tŷ amlfeddiannaeth yn cael ei reoli'n wael a'i orlenwi. Bydd trwydded tŷ amlfeddiannaeth yn cael ei dirymu nes bod y materion yn cael eu datrys neu y ceisir rheolaeth briodol. Os nad oes modd datrys y mater cyn pen 12 mis, gall yr  awdurdod lleol wneud gorchymyn rheoli terfynol a fydd yn gosod rheolaeth fwy hirdymor yr eiddo yn nwylo'r awdurdod.

Mae'r darpariaethau yn ychwanegol i reoliadau cyffredinol y cynllun, Rhentu Doeth Cymru, a gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy'n cyflwyno cofrestriad gorfodol, hyfforddiant ac asesiad unigolion 'addas a phriodol' ar holl landlordiaid y sector rhentu preifat.

Cynnig ar gyfer Diwygiad: gorfodi'r rheolau

Mae'r llywodraeth o'r farn bod Deddf Tai 2004 a'r diwygiadau diweddaraf wedi helpu i "fynd i'r afael â'r broblem o orlenwi a rheoli eiddo yn wael", ond mae'r broblem yn bodoli o hyd. Gellir, a dylid, gwneud gwelliannau. 

Fodd bynnag, nid tynhau'r rheoliadau trwyddedu sy’n ymwneud â thai amlfeddiannaeth yw’r ffordd ymlaen. Mae'r broses drwyddedu bresennol yn gofyn am weithlu sylweddol yn yr awdurdodau lleol, a bydd tynhau'r rheoliadau yn gosod mwy o straen ar awdurdodau lleol, gan arafu'r weithdrefn gyfredol a chynyddu costau. 

Yn lle hynny, gellir cyflwyno  gwelliannau trwy orfodi'r rheoliadau presennol mewn ffordd rymus ac yn amlach, gan wneud defnydd ymarferol o'r ôl-effeithiau sy’n bodoli eisoes pan fydd landlordiaid yn torri'r gofynion trwyddedu neu pan ddaw achosion o orlenwi i’r amlwg.

Byddai gorfodi'r rheolau yn fwy llym nid yn unig yn arwain at godi ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y mater ond bydd hefyd yn annog y bobl sy'n byw mewn cartrefi rhent anfoddhaol gorlawn i godi eu lleisiau, a theimlo’n ffyddiog  y bydd y materion yn cael eu datrys ac na ddylai unrhyw un fodloni ar byw mewn cartref sy'n peryglu eich iechyd na'ch hapusrwydd. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2022