Tenantiaethau preswyl
Mae yna amryw o fathau o denantiaethau preswyl sydd ar gael gan ddibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos, megis pwy yw'r landlord a phryd rhoddwyd y denantiaeth. Mae'n hanfodol gwahaniaethu rhwng y mathau gwahanol hyn o denantiaethau gan fod y prosesau ynghylch ymrwymo i denantiaeth a'i therfynu yn wahanol. Y prif fathau o denantiaethau preswyl yw:
- Tenantiaeth ddiogel
- Tenantiaeth isradd
- Tenantiaeth ragarweiniol
- Tenantiaeth sicr
- Tenantiaeth fyrddaliadol sicr
Bydd y gyfraith sy'n ymwneud â thenantiaethau preswyl yng Nghymru yn newid unwaith y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
10 Ionawr 2022