Tenantiaethau sicr
Beth yw tenantiaeth sicr?
Deddf Tai 1988 a gyflwynodd tenantiaethau sicr. Tenantiaethau sicr, a thenantiaethau byrddaliadol sicr, yw'r tenantiaethau safonol yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd. Bydd tenantiaeth sicr a roddir ar neu ar ôl 28 Chwefror 1997 yn denantiaeth fyrddaliadol sicr, ac eithrio pan fo'r landlord wedi rhoi hysbysiad i'r tenant yn datgan na fydd yn denantiaeth fyrddaliadol sicr. Gall tenantiaeth fyrddaliadol sicr a roddir ar neu ar ôl y dyddiad hwn fod un ai yn gyfnodol neu am gyfnod penodol.
Rhoddir tenantiaeth sicr o dan yr amgylchiadau canlynol:
- mae tŷ yn cael ei osod fel annedd ar wahân
- mae'r tenant, neu bob un o'r tenantiaid ar y cyd, yn unigolyn
- mae'r tenant, neu o leiaf un o'r tenantiaid ar y cyd, yn meddiannu'r annedd fel ei unig neu brif gartref
- nid yw'r denantiaeth yn un nad oedd modd iddi fod yn denantiaeth sicr (gweler Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988)
Mae Atodlen 1 yn cynnwys tenantiaethau a roddir gan landlordiaid penodol, er enghraifft awdurdodau lleol (ac eithrio cymdeithasau tai cwbl gydfeddiannol yng Nghymru) a thenantiaeth yr ymrwymwyd iddi cyn 15 Ionawr 1989 neu yn unol â chontract a wnaed cyn y dyddiad hwn.
Yn gyffredinol, mae gan denantiaid sicr ddiogelwch deiliadaeth, hawliau olyniaeth penodol, a hawliau penodol i aseinio eu tenantiaethau.
Rhoddir tenantiaethau sicr yn bennaf gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (a gofrestrwyd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996 (gweler adran C1A)).
Bydd y denantiaeth yn denantiaeth warchodedig pan ymrwymwyd iddi yn unol â chontract a wnaed cyn 15 Ionawr 1989 neu os yw'n cael ei rhoi i unigolyn (yn unigol neu ar y cyd) a oedd, yn syth cyn y rhoddwyd y denantiaeth, yn denant gwarchodedig neu statudol ac mae'n cael ei rhoi gan yr unigolyn a oedd y landlord ar y pryd (neu un o'r landlordiaid ar y cyd) o dan y denantiaeth warchodedig neu statudol (gweler adran 34 o Ddeddf Tai 1988).
Sut y gall landlord ddod â thenantiaeth sicr i ben?
Tenantiaeth sicr cyfnod penodol
Ac eithrio lle y gall landlord arddangos sail ar gyfer adennill meddiant yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988, mae gan denant yr hawl i aros yn yr eiddo ar ddiwedd y denantiaeth sicr cyfnod penodol.
Gall y landlord ond ddod â thenantiaeth sicr cyfnod penodol i ben yn ystod y tymor drwy wneud un o’r canlynol:
- cael a gweithredu gorchymyn adennill meddiant gan y llys ar seiliau penodol a nodwyd (gweler adran 7(6) o Ddeddf Tai 1988 ac Atodlen 2 i’r Ddeddf honno);
- cael gorchymyn israddio (gweler adran 6A o Ddeddf Tai 1988);
- yn achos tenantiaeth cyfnod penodol sy'n cynnwys pŵer ar gyfer y landlord i bennu'r denantiaeth mewn amgylchiadau penodol (er enghraifft, cymal terfynu), gweithredu'r pŵer hwnnw.
Trwy ddod â thenantiaeth cyfnod penodol i ben yn y ffordd hon, mae'r denantiaeth yn dod yn denantiaeth gyfnodol statudol ac mae dal angen gorchymyn llys i adennill meddiant (gweler adran 5(2) o Ddeddf Tai 1988).
Tenantiaeth gyfnodol sicr
Mewn perthynas â thenantiaeth gyfnodol sicr, caiff hysbysiad i ymadael a roddir gan y landlord ddim effaith.
Amlinellir y seiliau y gall landlord tenantiaeth gyfnodol sicr wneud cais i'r llys arnynt i gael gorchymyn adennill meddiant yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (gweler adran 5(1)(a) o Ddeddf Tai 1988).
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn rhestru'r seiliau y mae’n rhaid i’r llys orchymyn adennill meddiant arnynt os yw'n fodlon fod y sail wedi cael ei bodloni, yn amodol ar unrhyw amddiffyniad sydd ar gael i'r tenant yn seiliedig ar ei hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn rhestru'r seiliau y gallai'r llys orchymyn adennill meddiant oddi tanynt os yw'n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny.
Mae adran 7 o Ddeddf Tai 1988 yn ymwneud â gorchmynion adennill meddiant. Yn ogystal, ceir gofynion rhybudd a gweithdrefnau y mae angen i landlord eu dilyn wrth geisio adennill meddiant – gweler adrannau 8 ac 8A o Ddeddf Tai 1988. Fodd bynnag, noder effaith Deddf y Coronafeirws 2020 a Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) 2021, O.S. 2021/708, a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2021.
Pa effaith y caiff Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar denantiaethau sicr
Mae'r gyfraith mewn perthynas â thenantiaethau ar fin newid unwaith y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn dod i rym yn llawn. Gweler: Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.