Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Nod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (y Ddeddf) yw symleiddio'r broses o rentu cartref yng Nghymru a darparu partïon â mwy o wybodaeth ynglŷn â'u hawliau a rhwymedigaethau. Mae'r Ddeddf bellach mewn grym yn rhannol, at ddiben gwneud rheoliadau a chyhoeddi canllawiau. Unwaith y caiff ei deddfu'n llawn, bydd y Ddeddf yn creu system hollol newydd ar gyfer tenantiaethau preswyl yng Nghymru. Bwriedir iddi ddisodli'r trefniadau tenantiaethau diogel, sicr, byrddaliadol sicr a deiliadaethau amaethyddol sicr sydd yn gweithredu o dan Ddeddf Tai 1985 a Deddf Tai 1988 ar hyn o bryd. Ni fydd effaith o hyd ar denantiaethau o dan Ddeddf Rhent 1977 a Deddf Rhent (Amaethyddiaeth) 1976.
Rhagwelir y bydd darpariaethau gweddilliol y Ddeddf yn cael eu dwyn i rym yn llawn yn ystod gwanwyn 2022.
Contract meddiannaeth
Unwaith mae'r Ddeddf ar waith, bydd y rhan fwyaf o'r tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy'n bodoli eisoes yn cael eu trosi yn gontractau meddiannaeth. Bydd y contract meddiannaeth yn eistedd ar ben tenantiaeth neu drwydded a bydd yn amlinellu hawliau a rhwymedigaethau pob parti.
Mae'r Ddeddf yn cyflwyno'r cysyniad o 'landlord' a 'deiliad contract', a fydd yn ymrwymo i gontract meddiannaeth gyda'i gilydd. Bydd landlordiaid hefyd yn cael eu grwpio yn un o ddau grŵp:
- Landlordiaid cymunedol (fel y’i diffinnir gan adran 9 o’r Ddeddf ac sy'n cynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig)
- Landlordiaid preifat (unrhyw landlord yng Nghymru nad yw'n landlord cymunedol)
Ceir dau fath o gontract meddiannaeth: 'contract diogel' a 'chontract safonol'. Gall contractau safonol fod am gyfnod penodol neu’n gyfnodol; mae contractau diogel bob tro yn gyfnodol. Bydd y math o gontract meddiannaeth sydd ar waith yn dibynnu ar p'un a yw'r eiddo yn perchen i landlord cymunedol neu landlord preifat.
Yn gyffredinol, bydd contract diogel yn cael ei ddefnyddio gan landlordiaid cymunedol a bydd contractau safonol yn cael eu defnyddio gan landlordiaid preifat, ond ceir eithriadau i hyn sydd wedi'u cynnwys o fewn y Ddeddf (adran 11 ac Atodlen 2).
Bydd tenantiaethau rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig yn 'gontract safonol' a gyflwynir gan landlord cymunedol.
O dan adran 31 o’r Ddeddf, bydd pob landlord yn gorfod cyflwyno deiliaid contractau â datganiad ysgrifenedig o'u contract meddiannaeth o fewn 14 diwrnod o ddeiliad y contract yn cael hawl i feddiannu'r annedd. O dan adrannau 34 a 35 o’r Ddeddf, os nad oes un gan ddeiliad y contract, gall ofyn i'r landlord am ddatganiad o'r fath. Os nad yw un yn cael ei darparu ar ei gyfer ar ôl gwneud cais, neu fod y manylion yn anorffenedig, gall wneud cais i'r llys osod telerau’r contract iddo. Ni ellir gorfodi'r contract meddiannaeth nes bod y landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.
Os oes newid yn hunaniaeth deiliad y contract, mae'n rhaid i'r landlord roi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract o fewn 14 diwrnod i'r newid neu (os yw'n hwyrach) i'r landlord gael ei hysbysu o'r newid. O fewn 14 diwrnod, mae'n rhaid i landlord hefyd ddarparu deiliad y contract â chyfeiriad lle y gellir anfon unrhyw ddogfennau ar gyfer y landlord.
Mae'r landlord yn agored i dalu iawndal o hyd at ddau fis o rent i ddeiliad y contract am fethu cyflwyno'r datganiad ysgrifenedig o'r contract, os yw manylion yn anghywir, neu os yw’n methu darparu cyfeiriad lle y gellir anfon gwybodaeth. Bydd llog yn daladwy mewn amgylchiadau penodol.
Mae adrannau 18 hyd at 29 o'r Ddeddf yn darparu telerau rhagnodedig y mae'n rhaid i gontract meddiannaeth eu cynnwys neu y gall contract o’r fath eu cynnwys. O dan y Ddeddf hon, bydd pob amod o fewn contract yn perthyn i un o bedwar categori:
- Telerau allweddol – mae'n rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract meddiannaeth ac maent yn unigryw i'r contract unigol, megis cyfeiriad yr eiddo, y dyddiad meddiannu a swm y rhent. Mae materion allweddol pellach yn berthnasol i gontractau safonol yn unig: p'un a yw'r contract yn gyfnodol neu am gyfnod penodol, y tymor y mae wedi ei wneud ar ei gyfer os yw am gyfnod penodol, ac unrhyw gyfnodau pan nad yw deiliad y contract â hawl i feddiannu'r eiddo fel cartref.
- Telerau sylfaenol – mae'r rhain yn amlinellu hawliau a rhwymedigaethau sylfaenol y landlord a deiliad y contract ac mae'n rhaid iddynt gael eu hymgorffori mewn contract meddiannaeth – er enghraifft, telerau sy’n gysylltiedig â thalu blaendaliadau. Mae yna rai darpariaethau sylfaenol y gellir eu haddasu neu eu gadael, os bydd y landlord a deiliad y contract yn cytuno ac ar yr amod bod peidio â'u hymgorffori neu eu haddasu yn gwella sefyllfa deiliad y contract.
- Telerau atodol – mae'r telerau hyn yn cael eu mewnosod yn awtomatig ym mhob contract neu fathau penodol o gontract ac maent yn ymwneud â materion megis cynnal a chadw'r eiddo. Gall partïon gytuno y bydd darpariaeth atodol yn cael ei chynnwys mewn contract gydag addasiadau neu, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, gallant gytuno i eithrio darpariaethau.
- Telerau ychwanegol – gellir mewnosod y rhain i'r contract meddiannaeth os bydd y landlord a deiliad y contract yn cytuno. Gellir defnyddio'r telerau hyn i gwmpasu materion penodol, megis cadw anifeiliaid anwes yn yr eiddo.
Bydd datganiadau contract ysgrifenedig enghreifftiol yn cael eu cyhoeddi gan Weinidogion Cymru a byddant ar gael i landlordiaid. Bydd y datganiadau ysgrifenedig hyn yn cynnwys y darpariaethau sylfaenol ac atodol hynny sy'n berthnasol i bob ffurf o gontract heb eu haddasu.
Sut fath o denantiaeth neu drwydded yw contract meddiannaeth?
Mae adran 7 (2) – (3) o'r Ddeddf yn amlinellu’r mathau o denantiaethau a thrwyddedau sydd yn gontractau meddiannaeth. Mae tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:
- Mae rhent neu ystyriaeth arall (megis darparu gwasanaeth) yn daladwy oddi tani
- Caiff ei gwneud rhwng landlord ac unigolyn (neu ddau unigolyn neu fwy, y mae o leiaf un ohonynt yn unigolyn)
- Mae'n rhoi'r hawl i'r unigolyn/unigolion feddiannu annedd fel cartref
Mae Atodlen 2 i'r Ddeddf yn cynnwys yr eithriadau canlynol i adran 7:
- Mae Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Ddeddf yn cadarnhau y gall tenantiaethau a thrwyddedau penodol nad ydynt o fewn adran 7 (2) – (3) fod yn gontractau meddiannaeth os rhoddir hysbysiad gan y landlord i ddeiliad y contract i gadarnhau mai dyma yw'r achos. Byddai tenantiaeth neu drwydded yn y categori hwn yn denantiaeth neu drwydded lle nad oes rhent neu ystyriaeth arall yn daladwy.
- Mae Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn cadarnhau nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol o fewn adran 7 yn gontractau meddiannaeth o hyd oni bai y rhoddir hysbysiad gan y landlord i ddeiliad y contract. Mae'r mathau o denantiaethau neu drwyddedau yn y categori hwn yn cynnwys eiddo i'w gosod ar gyfer gwyliau.
- Mae Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn cadarnhau nad yw tenantiaethau a thrwyddedau penodol sydd, ar yr olwg gyntaf ar y Ddeddf, o fewn adran 7, byth yn gontractau meddiannaeth. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys tenantiaeth neu drwydded a ddarperir i'r rheiny sydd o dan 18 oed, tenantiaeth amaethyddol, tenantiaeth busnes, tenantiaeth busnes fferm, tenantiaeth hir am gyfnod penodol sy'n fwy na 21 mlynedd, a thenantiaeth ddiogel sy'n denantiaeth cymdeithas tai.
- Mae Rhannau 4 a 5 o Atodlen 2 i’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i gontractau sy'n ymwneud â digartrefedd a llety â chymorth.
Er mwyn ystyried p'un a yw tenantiaeth yn dod o dan adran 7 o’r Ddeddf, mae'n bwysig cofio'r gwahaniaeth rhwng tenantiaethau a thrwyddedau. Tenantiaeth yw caniatáu hawl i feddiant llwyr-gyfyngedig o dir am gyfnod penderfynadwy a bydd yn cynnwys talu rhent. I'r gwrthwyneb, mae trwydded yn syml yn ganiatâd ar gyfer trwyddedai i wneud rhywbeth ar eiddo'r trwyddedwr, ac nid yw'n caniatáu meddiant llwyr-gyfyngedig. (gweler: Trwyddedau).
Contract diogel
Mae'r contract diogel wedi'i fodelu ar y denantiaeth ddiogel bresennol a roddir gan awdurdodau lleol. Yn gyffredinol, gall y landlord ond derfynu'r contract am reswm penodol.
Bydd y rhan fwyaf o landlordiaid cymunedol yn ymrwymo i gontractau diogel gyda'u tenantiaid. Mae hyn yn darparu'r sicrwydd meddiannaeth cryfaf i ddeiliad y contract. Gall landlordiaid cymunedol ond ymrwymo i gontractau safonol mewn amgylchiadau cyfyngedig.
Contract safonol
Mae gan gontractau safonol hawliau tebyg i'r rhai sydd gan denantiaid byrddaliadol sicr, gan fod gan y tenantiaid denantiaeth a ddiogelir am gyfnod cyfyngedig. Gall y landlord ddod â'r contract i ben gydag achos, neu heb achos, ar ôl cyfnod penodol gyda hysbysiad.
Bydd landlordiaid preifat fel arfer yn ymrwymo i gontractau safonol, ond gallant benderfynu ymrwymo i gontract diogel.
O dan adran 184 o’r Ddeddf, ar ddiwedd contract safonol cyfnod penodol, bydd y meddiannydd yn cael contract safonol cyfnodol newydd yn awtomatig os ef yw meddiannydd yr eiddo o hyd, ar delerau ac amodau tebyg i'r contract cyfnod penodol blaenorol.
Bydd tenantiaethau rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig yn 'gontract safonol'.
Mae tenantiaethau rhagarweiniol yn gontractau cyfnodol safonol am gyfnod o 12 mis sy'n caniatáu landlord cymunedol i wirio a fydd deiliad contract yn gallu cynnal contract diogel. Ar ôl 12 mis, bydd tenantiaeth ragarweiniol yn dod yn gontract diogel oni bai fod y landlord yn ceisio am estyniad, gan gyflwyno hysbysiad yn unol ag Atodlen 7 i’r Ddeddf. Os nad yw deiliad y contract yn cytuno â phenderfyniad y landlord i ymestyn y denantiaeth ragarweiniol, gall wneud cais i lys adolygu'r penderfyniad.
Mae contractau safonol ymddygiad gwaharddedig yn cyfateb yn fras i denantiaethau isradd. Bydd llys yn gallu gosod y contract hwn pan fydd landlord yn gwneud cais am orchymyn o dan adran 116 i ddod â'r denantiaeth ddiogel i ben o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os gwneir gorchymyn o'r fath, bydd deiliad y contract yn ddarostyngedig i gyfnod prawf o 12 mis cyn bod y contract yn newid yn ôl i gontract diogel. Os oes gan y landlord bryderon parhaus yn ystod y cyfnod prawf, yna gall geisio am estyniad o'r cyfnod prawf am hyd at uchafswm o 18 mis. Os nad yw deiliad y contract yn cytuno â phenderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod prawf, gall wneud cais i lys adolygu'r penderfyniad.
Blaendaliadau
Yn unol â'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â thenantiaethau byrddaliadol sicr, mae adrannau 45 (1) a (2) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid diogelu pob blaendal a ddelir o dan bob contract meddiannaeth gyda chynllun blaendal awdurdodedig o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn. Mae’n rhaid rhoi gwybodaeth ragnodedig ynglŷn â'r cynllun sy'n diogelu'r blaendal, sut mae'r cynllun yn gweithio, a'i hawliau i ddeiliad y contract hefyd. Os nad yw landlord yn cydymffurfio â'r gofynion hyn, ni fydd ganddo hawl i roi hysbysiad cymryd meddiant neu weithredu hysbysiad terfynu.
Contract ar y cyd
O dan adran 49 o’r Ddeddf, gall unigolion wneud cais i gael eu hychwanegu fel deiliaid contract ar y cyd ym mhob math o gontract gyda chydsyniad y landlord. O dan adran 50 o’r Ddeddf, nid oes gan y landlord hawl i wrthod y cydsyniad hwn yn afresymol.
Bydd deiliad contract ar y cyd yn gallu gadael contract heb ei derfynu yn ei gyfanrwydd. Mewn contractau diogel, gall un neu fwy o ddeiliaid contract ar y cyd dynnu'n ôl o'r contract drwy roi hysbysiad i'r landlord a’r deiliad arall / deiliaid eraill i'r contract ar y cyd. Mae darpariaethau tebyg yn bodoli mewn perthynas â chontract safonol cyfnodol; fodd bynnag, mewn contract safonol cyfnod penodol, caiff deiliad contract ar y cyd ond hawl i dynnu'n ôl os yw'r contract ei hun yn darparu ar gyfer hynny.
Gellir hefyd ychwanegu deiliaid contract ar y cyd newydd heb ddod â'r contract presennol i ben. O dan adran 52 o’r Ddeddf, os bydd deiliad contract ar y cyd yn marw, mae'r deiliad/deiliaid contract ar y cyd sydd ar ôl yn aros yn atebol o dan y contract, ond maent hefyd yn etifeddu'r hawliau a ddarperir gan y contract hwnnw yn llawn.
O dan adran 231 o’r Ddeddf, mae yna hefyd gyfyngiad ar ddeiliaid contract ar y cyd yn terfynu'r denantiaeth mewn ffordd sy'n amddifadu deiliaid contract ar y cyd eraill o'r denantiaeth honno gan fod angen cydsyniad pawb i wneud hynny.
Delio
O dan adran 57 (1) o’r Ddeddf, ni chaiff deiliad contract "ddelio" â’i gontract meddiannaeth mewn unrhyw ffordd na chaniateir gan y contract ei hun neu orchymyn eiddo teuluol. Mae "delio" yn cynnwys creu is-denantiaeth neu is-drwydded, trosglwyddo'r contract i rywun arall, neu gael morgais ar yr annedd. O dan adran 57 o’r Ddeddf, bydd deiliad contract sy'n delio y tu allan i delerau'r contract, neu heb gydsyniad y landlord, yn torri’r contract ac ni fydd y trafodiad yn rhwymol ar y landlord.
O dan adrannau 58 a 84 o’r Ddeddf, os yw'r contract meddiannaeth yn caniatáu delio yn amodol ar gydsyniad y landlord, ni all y landlord ddal cydsyniad yn ôl yn afresymol neu wneud cydsyniad yn amodol ar amodau afresymol. Mae Atodlen 6 i’r Ddeddf yn amlinellu materion penodol sy'n berthnasol wrth ystyried rhesymoldeb.
Mae yna ddau brif fath o ddelio:
- Contract isfeddiannaeth: nid oes darpariaeth sylfaenol yn y Ddeddf ar gyfer deiliad contract i gael yr hawl i ymrwymo i gontract isfeddiannaeth gydag unigolyn arall. Fodd bynnag, gallai'r partïon gytuno i ychwanegu'r hawl hon i gontract fel amod ychwanegol. Y “prif gontract” fyddai'r enw ar y contract pennaf. Y deiliad contract o dan y contract isfeddiannaeth yw'r "is-ddeiliad".
- Trosglwyddo: mae'r Ddeddf yn amlinellu'r materion ffurfiol a phrosesau ar gyfer trosglwyddo contract meddiannaeth o ddeiliad contract i unigolyn arall, neu drosglwyddiad gan ddeiliad contract ar y cyd o hawliau a rhwymedigaethau'r unigolyn hwnnw o dan gontract meddiannaeth. Mae cyn-ddeiliad y contract yn aros yn atebol ar gyfer toriadau a ddigwyddir cyn i'r trosglwyddo ddigwydd. Mae'n rhaid llofnodi neu weithredu trosglwyddiad contract meddiannaeth gan bob parti i'r trosglwyddiad. Mae adran 72 o'r Ddeddf yn darparu nad oes angen i'r trosglwyddiad fod drwy weithred.
Olyniaeth
Mae'r Ddeddf hefyd yn newid y rheolau ar olyniaeth ar gyfer deiliaid unigol contractau. O dan gontract meddiannaeth, os yw deiliad contract unigol yn marw a bod yna rywun sy'n goroesi deiliad y contract ac sy'n gymwys i gymryd lle neu 'olynu' deiliad y contract, yna bydd y sawl sy'n goroesi yn olynu i'r contract meddiannaeth.
Mae yna ddau fath o olynwyr: olynwyr 'â blaenoriaeth' ac olynwyr 'wrth gefn'. Bydd olynwr â blaenoriaeth yn olynu hyd yn oed os bydd olynwyr wrth gefn yn bodoli. Os oes mwy nag un olynydd â blaenoriaeth, pennir yr olynydd gan adran 78 o’r Ddeddf.
Bydd tenantiaeth yn cael ei throsglwyddo i olynydd wrth gefn os nad oes olynydd â blaenoriaeth yn bodoli. Mae yna ddau gategori o olynwyr wrth gefn: aelodau teuluol a gofalwyr. Os oes yna fwy nag un olynydd wrth gefn, pennir yr olynydd o dan adran 78 o’r Ddeddf.
Os yw olynydd wrth gefn yn olynu i'r contract meddiannaeth, ni ellir bod olyniaeth bellach. Pan fydd olynydd â blaenoriaeth yn marw, ac mae unigolion sy’n gymwys i olynu fel olynydd wrth gefn i'r contract, gallai un o'r unigolion hynny olynu i'r contract. Fodd bynnag, ni ellir cael olyniaeth bellach ar ôl i'r unigolyn hwnnw olynu i'r contract.
Os bydd olynydd â blaenoriaeth yn olynu i gontract meddiannaeth ac yn dewis terfynu'r contract hwnnw o fewn y chwe mis cyntaf ers marwolaeth y deiliad contract blaenorol, bydd olynydd arall yn gymwys i olynu. Os ceir mwy nag un olynydd cymwys, penderfynir ar hyn unwaith yn rhagor o dan adran 78 o'r Ddeddf.
- Cydsyniad landlord Mae'r Ddeddf yn cyflwyno gweithdrefn ac amserlen ar gyfer y landlord i roi cydsyniad o dan gontract meddiannaeth. O dan adran 84, tybir bod y landlord wedi rhoi cydsyniad os nad yw'r weithdrefn yn cael ei dilyn yn llym. Mae'r weithdrefn yn berthnasol o ran unrhyw amod contract meddiannaeth sy'n caniatáu i rywbeth gael ei wneud gyda chydsyniad y landlord yn unig. Ni all y landlord wrthod cydsyniad yn afresymol neu osod amod afresymol. Mae'r weithdrefn ar gyfer cydsyniad landlord fel a ganlyn: Mae'n rhaid i'r landlord wneud cais am unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arno cyn y dyddiad sy’n 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y cais. Ni chaiff y landlord ofyn am wybodaeth ychwanegol ar ôl i'r cyfnod hwn ddod i ben.
- Mae'n rhaid i'r landlord un ai roi neu wrthod cydsyniad o fewn mis o'r diwrnod y gwneir y cais am gydsyniad, neu os oes gofyn am wybodaeth ychwanegol, y diwrnod y mae'n cael y wybodaeth. Os nad yw'r landlord yn ymateb erbyn diwedd y cyfnod hwn, tybir y bydd wedi rhoi cydsyniad.
Os bydd y landlord yn gwrthod rhoi cydsyniad neu'n rhoi cydsyniad yn amodol ar amodau, gall yr unigolyn a wnaeth gais am y cydsyniad ofyn am resymau dros y cydsyniad yn cael ei wrthod neu'r amodau. Os nad yw'r landlord yn darparu datganiad ysgrifenedig o'i resymau dros wrthod neu dros yr amodau o fewn mis o'r cais hwn, tybir bod y landlord wedi rhoi cydsyniad heb amodau.
Atgyweirio a chyflwr yr eiddo
Mae'r Ddeddf yn creu set newydd o safonau ar gyfer cyflwr yr eiddo â’r bwriad o sicrhau bod eiddo yn ffit i fod yn gartref ac yn rhydd rhag diffygion difrifol. Nid ydynt yn berthnasol i gontractau safonol cyfnod penodol sydd am fwy na saith mlynedd. Fodd bynnag, byddant yn berthnasol lle mae contract safonol am gyfnod penodol wedi dod i ben ac wedyn mae contract cyfnodol yn codi ar ddiwedd y cyfnod penodol. Mae'r safonau hyn yn cynnwys:
- Rhwymedigaeth gyffredinol ar bob landlord i sicrhau bod yr annedd yn ffit i fod yn gartref ar ddechrau'r contract a thrwy gydol yr amser mae'r contract yn weithredol (adran 91 o’r Ddeddf).
- Rhwymedigaeth ar landlordiaid i gadw'r adeiledd ac ochr allanol mewn cyflwr da a chadw gosodiadau ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy neu drydan, ar gyfer glanweithdra, ar gyfer cynhesu gofodau, a dŵr poeth mewn cyflwr da.
- Mae'n rhaid i'r landlord hefyd gwblhau unrhyw waith atgyweirio sy'n ofynnol gan adrannau 91 a 92 o’r Ddeddf.
O dan adran 95 o’r Ddeddf, nid oes atebolrwydd ar landlordiaid i wneud unrhyw waith os na allant wneud hynny gyda gwariant rhesymol, i atgyweirio difrod a achoswyd gan dân, storm, llifogydd neu ddamwain arall, i atgyweirio unrhyw beth y mae gan y tenant hawl i'w dynnu o'r safle, neu i atgyweirio unrhyw beth nad yw'n cael effaith ar fwynhad deiliad y contract o'r eiddo. O dan adran 96 o’r Ddeddf, nid yw'n ofynnol chwaith i landlordiaid wneud unrhyw waith sydd wedi’i achosi o ganlyniad i'r tenant yn achosi difrod neu beidio â gofalu mewn modd priodol am yr eiddo neu ei gynnwys.
O dan adran 97 o’r Ddeddf, mae gan landlordiaid amser rhesymol i gynnal gwaith unwaith maent yn dod yn ymwybodol bod gwaith yn angenrheidiol. Mae'n rhaid i landlordiaid roi 24 awr o rybudd i gael mynediad at eiddo at ddibenion cynnal atgyweiriadau o'r fath.
Os caiff unrhyw rai o'r telerau hyn eu torri, mae gan ddeiliad contract hawl i hawlio iawndal, cyflwyno hawliadau am anaf neu golled bersonol neu ddifrod i'r eiddo, a hawl i geisio perfformiad penodol (h.y. unioni’r toriad).
Dod â chontract meddiannaeth i ben
Gall deiliad y contract ddod â'r contract i ben yn gynnar drwy roi dim llai na phedair wythnos o rybudd i'r landlord o dan contract diogel a chontract safonol cyfnodol. Mae gallu deiliad y contract i ddod â'r contract i ben yn gynnar o dan gontract safonol cyfnod penodol yn dibynnu ar p'un a oes cymal terfynu yn y contract.
Er mwyn dod â chontract diogel i ben, mae'n rhaid i'r landlord wneud hawliad meddiant ar y seiliau a nodwyd ym Mhennod 3 o Ran 9 o’r Ddeddf.
Er mwyn dod â contract safonol i ben, mae'n rhaid i'r landlord roi rhybudd i ddeiliad y contract.
Gelwid hyn yn flaenorol yn hysbysiad adran 21, ac mae wedi cael ei ddiwygio gan y ddeddf fel a ganlyn:
- Bydd y cyfnod rhybudd byrraf y mae'n rhaid i landlord ei roi i ddeiliad contract o dan amodau 'dim bai' yn cael ei ymestyn o ddau fis i chwe mis.
- Ni fydd landlord yn gallu rhoi rhybudd o'r fath tan ar ôl pedwar mis ers i'r contract ddechrau. Os nad yw deiliad contract wedi cael ei ddarparu â datganiad ysgrifenedig o delerau ei gontract, ni all landlord roi rhybudd nes bod chwe mis ers dyddiad rhoi'r datganiad.
- Ni fydd landlord yn gallu rhoi rhybudd o'r fath oni bai ei fod wedi cydymffurfio â rhwymedigaethau penodol, gan gynnwys methu â darparu deiliad contract â datganiad ysgrifenedig o delerau ei gontract, cofrestriad, trwyddedu, a rheolau diogelu blaendal.
- Bydd cymalau terfynu landlordiaid ond yn gallu cael eu hymgorffori o fewn contract meddiannaeth os oes gan y contract gyfnod penodol o ddwy flynedd neu fwy. Ni fydd landlord yn gallu gweithredu cymal terfynu o fewn y 18 mis cyntaf o feddiant.
Hawliadau meddiant
Gall landlord gyhoeddi hawliad meddiant yn erbyn deiliad y contract o ran pob contract meddiannaeth; fodd bynnag, mae'r ddeddf yn gosod gofynion a chyfyngiadau penodol ar landlord cyn y bydd y llys yn defnyddio ei bwerau i wneud gorchymyn adennill meddiant. Os bydd y landlord yn gwneud hawliad meddiant ar sail torri contract, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant oni bai ei fod yn ystyried ei fod yn rhesymol gwneud hynny. Ceir gweithdrefnau ar wahân ar gyfer gwneud hawliad meddiant ar 'seiliau absoliwt’ yn dibynnu ar bu’n a yw'r contract yn gontract diogel neu'n gontract safonol.
Mae'r ddeddf yn gwneud darpariaeth bod deiliaid contractau safonol yn cael eu diogelu rhag unrhyw landlord sy'n ceisio gwneud 'hawliad meddiant er mwyn dial'. Golyga hyn, os yw'r llys yn fodlon bod landlord wedi gwneud hawliad meddiant er mwyn osgoi cydymffurfio â rhwymedigaethau contractiol, y gall y llys wrthod gwneud gorchymyn adennill meddiant.
Nid yw'n ofynnol bod landlord yn gneud cais i'r llys am feddiant os bydd deiliad contract wedi gadael yr annedd. Nodir y weithdrefn o ran gadael eiddo ym Mhennod 13 o Ran 9 o’r Ddeddf.
Mae'n ofynnol bod y landlord yn rhoi rhybudd yn y ffurf ragnodedig a gwneud ymholiadau lle amheuir bod rhywun wedi gadael yr eiddo yn ystod y cyfnod rhybudd o bedair wythnos, ac wedi hynny gall y landlord feddiannu’r annedd. Gall deiliad contract wneud cais i'r llys o fewn chwe mis o'r dyddiad y rhoddir rhybudd gan y landlord, ar y sail na roddwyd rhybudd, na wnaed unrhyw ymholiadau priodol, fod yr eiddo heb ei adael ond bod gan ddeiliad y contract reswm da dros beidio ag ymateb i'r hysbysiad, neu nad oedd gan y landlord amodau rhesymol i gredu bod yr eiddo wedi cael ei adael. Gall y llys orchymyn y landlord i ganiatáu deiliad y contract yn ôl i mewn i'r eiddo, darparu llety arall, neu unrhyw gam unioni arall y mae’n ystyried ei fod yn addas.