Skip to main content

Gorchymyn Ad-dalu Rhent

Darparwyd yr erthygl hon gan gyfrannwr i'r wefan.  Unrhyw farn a fynegir yw barn yr unigolion eu hunain ac nid Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Stephanie Pugh, Capital Law.

 

Cyflwynwyd gorchmynion ad-dalu rhent am y tro cyntaf o dan Ddeddf Tai 2004. Mae gorchymyn ad-dalu rhent yn orchymyn a wneir mewn perthynas ag annedd sy’n ei gwneud yn ofynnol i landlord dalu dyfarniad i’r ymgeisydd (y tenant neu’r awdurdod tai lleol) o ganlyniad i drosedd a gyflawnwyd ar adeg pan osodwyd yr eiddo i’r tenant. 

Mae trosedd, at ddiben Deddf Tai 2014, wedi’i chyflawni pan fo landlord yn cyflawni dyletswyddau o’r math a gyflawnir fel landlord, megis casglu rhent a threfnu atgyweiriadau neu waith cynnal a chadw, heb gael trwydded sy’n ofynnol o dan Ddeddf Tai 2004. 

Ceisiadau, Dyfarniadau a Diben 

Mae'n rhaid gwneud cais o fewn 12 mis i ddyddiad y drosedd ac mae'r dyfarniad a delir yn amrywio. Uchafswm yr hawliad y gellir ei wneud o dan orchymyn ad-dalu rhent yw 12 mis o rent, a defnyddir hwn mewn amgylchiadau o dorri darpariaethau’n ddifrifol, tra bydd toriadau llai difrifol yn arwain at ad-daliad rhent am gyfnod llai. Mae’r taliad hefyd yn dibynnu ar ymddygiad y partïon, lle mae landlordiaid cydweithredol yn derbyn cosb lai a thenantiaid cyfeiliornus yn derbyn dyfarniad llai. Ymdrinnir â cheisiadau o’r fath gan y Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru), sef tribiwnlys annibynnol ar gyfer datrys anghydfodau sy’n ymwneud ag eiddo rhent preifat ac eiddo lesddaliadol. Mae ceisiadau a wneir gan denantiaid, ac nid awdurdodau trwyddedu neu awdurdodau lleol, yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord fod wedi derbyn euogfarn o drosedd drwyddedu gyntaf cyn y gall y tribiwnlys adolygu'r cais.

Mae’r darpariaethau hyn yn ychwanegol at y rhyddhad amgen o orchymyn atal rhent ar gyfer troseddau a gyflawnir o dan ddarpariaethau Rhentu Doeth Cymru. Mae hyn yn atal tenantiaid rhag talu rhent am gyfnod pan fo landlord eu hannedd rhent heb drwydded.

Mae argaeledd gorchmynion ad-dalu rhent nid yn unig yn atal landlordiaid rhag torri darpariaethau trwyddedu, ond maent hefyd yn cael yr effaith o annog tenantiaid i godi llais yn erbyn drygioni ac yn caniatáu iddynt deimlo eu bod yn cael eu digolledu pan fydd hynny'n digwydd. Gellir gwneud gorchymyn ad-dalu rhent yn erbyn landlord yn ogystal â gosod dirwy pan ganfyddir bod landlord yn gweithredu heb drwydded, gan gynyddu eu heffeithiolrwydd ymhellach. 

Diwygio

Mae'r system bresennol yn un cyfartal ac yn effeithiol, mae'r darpariaethau'n ddigon hyblyg i ymateb yn gymesur i'r drosedd a gyflawnwyd, a gellir eu lliniaru neu eu gwaethygu ymhellach yn dibynnu ar gydweithrediad ac agwedd y partïon. Serch hynny, gellir gwneud gwelliannau.
Yn 2016, gwnaeth Deddf Tai a Chynllunio 2016, a oedd yn berthnasol i denantiaethau yn Lloegr yn unig, y broses ar gyfer gwneud cais am orchmynion ad-dalu rhent yn gyflymach ac yn fwy hygyrch. Cyflwynodd hyn droseddau pellach y gellir gwneud gorchymyn ad-dalu rhent yn eu sgil. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ailfynediad treisgar;
  • Troi allan anghyfreithlon a/neu aflonyddu;
  • Methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella a gyflwynwyd iddynt;
  • Methu â chydymffurfio â gorchymyn gwahardd a gyflwynwyd iddynt;
  • Torri gorchymyn gwahardd.

At hynny, mae Deddf Tai a Chynllunio 2016 yn caniatáu i denant unigol wneud cais am orchymyn ad-dalu rhent yn dilyn un o’r troseddau uchod, neu ddiffyg trwydded, heb i’r awdurdod trwyddedu lleol neu’r awdurdod tai erlyn y landlord yn gyntaf am dorri darpariaethau trwyddedu. Ehangodd hyn yn sylweddol y cwmpas lle gellid digolledu tenantiaid am gamweddau yn eu herbyn ac anfonodd neges glir i landlordiaid fod dyletswydd arnynt i’w tenantiaid i weithredu mewn modd proffesiynol sy’n parchu’r gyfraith. Darparodd Deddf 2016 gymorth mawr o ran unioni cydbwysedd pŵer rhwng landlordiaid a’u tenantiaid.

Mae’r cwmpas ar gyfer hawlio gorchymyn ad-dalu rhent yn Lloegr yn eang ac mae’n cynnwys bron pob amgylchiad lle mae’r landlord naill ai wedi torri darpariaethau trwyddedu neu wedi cyflawni cam difrifol yn erbyn ei denantiaid. Byddai’r darpariaethau hyn yn arwyddocaol i denantiaid Cymru, a dylid gweithredu darpariaethau tebyg yma.

Gwneir gorchymyn ad-dalu rhent i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl, trwy ffurflen gais sydd i'w weld yma: https://tribiwnlyseiddopreswyl.llyw.cymru/sites/residentialproperty/files/2021-08/HWA6-cy.pdf. Os oes angen cyngor arnoch ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu Rentu Doeth Cymru a chael cyngor am ddim gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Tachwedd 2022