Skip to main content

Y sector rhentu preifat

Mae cryn dipyn o dai yn cael eu darparu ar gyfer tenantiaid drwy'r sector rhentu preifat. Efallai mai un neu ddau eiddo’n unig fydd gan landlordiaid preifat, neu efallai eu bod yn landlordiaid proffesiynol a bod ganddynt lawer o eiddo. Mae tenantiaid y sector rhentu yn amrywio’n eang, o fyfyrwyr i weithwyr proffesiynol.

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i ystyried sut y dylid mynd i'r afael ag anghenion tai eu hardal. Mae nifer o fentrau, gan gynnwys:

  • Fforymau landlordiaid
  • Asiantaethau gosod cymdeithasol
  • Trwyddedu tai amlfeddiannaeth
  • Defnyddio pwerau cyfreithiol i orfodi landlordiaid i wella safonau

Cyflwynodd Deddf Tai (Cymru) 2014 ddeddfwriaeth sy'n rheoleiddio'r sector rhentu preifat ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantau eiddo preswyl preifat gael eu cofrestru a/neu eu trwyddedu.

Rhentu Doeth Cymru yw'r awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan ac mae'n gyfrifol am sefydlu a chynnal cofrestr o wybodaeth am landlordiaid ac asiantau. Mae'n prosesu cofrestriadau landlordiaid, trwyddedau grantiau, ac yn darparu hyfforddiant i'r rhai sy'n ymwneud â'r farchnad rentu Mae Rhentu Doeth Cymru hefyd yn rhoi cyngor i'r rhai sy'n gosod neu'n rheoli eiddo ar rent yng Nghymru i'w cynorthwyo i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau y Deddf Tai (Cymru) 2014.
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Rhagfyr 2021