Skip to main content

Meddiannaeth yn rhinwedd swydd

Beth yw meddiannaeth yn rhinwedd swydd? 

Mae meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn codi pan fydd cyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogai fyw yn eiddo'r cyflogwr er mwyn i'r cyflogai gyflawni ei ddyletswyddau’n well. Mae meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn rhoi trwydded bersonol i'r cyflogai feddiannu'r eiddo am gyn hired ag y mae'r cyflogai yn cael ei gyflogi gan y cyflogwr. 

Prif nodweddion meddiannaeth yn rhinwedd swydd yw fel a ganlyn: 

  • Mae meddiannaeth yr eiddo wedi'i chysylltu'n agos â chyflogaeth y meddiannydd 
  • Mae gan y meddiannydd drwydded bersonol i feddiannu am gyn hired ag y mae'r cyflogai yn cael ei gyflogi gan y cyflogwr 
  • Mae'r feddiannaeth yn rhinwedd swydd yn dod i ben yn awtomatig pan ddaw'r contract cyflogaeth i ben 

O dan gytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd, mae'r cyflogai yn meddiannu'r eiddo fel trwyddedai, hyd yn oed os oes ganddo feddiant llwyr-gyfyngedig o'r eiddo. Ni all meddiannydd yn rhinwedd ei swydd fod yn denant. 

Cysylltiad rhwng cyflogaeth a meddiannaeth

Er mwyn i feddiannaeth yn rhinwedd swydd fodoli, mae'n rhaid cael cysylltiad cryf rhwng meddiannaeth y cyflogai o'r eiddo a chyflawni ei ddyletswyddau. Mae angen i un o'r canlynol fod yn berthnasol er mwyn i’r cysylltiad hwn fodoli: 

  • Mae'r feddiannaeth yn hanfodol er mwyn i’r cyflogai gyflawni ei ddyletswyddau. 
  • Mae'r contract cyflogaeth yn gofyn yn benodol i'r cyflogai fyw yn yr eiddo er mwyn i ddyletswyddau'r cyflogai gael eu cyflawni’n well, er nad yw hyn o reidrwydd yn hanfodol. 

Y prawf a gymhwysir gan y llysoedd yw p'un a yw meddiannaeth y cyflogai o "gymorth materol" i'r cyflogai wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau. 

Gall cyflogai sy'n meddiannu eiddo cyn cychwyn cyflogaeth fod yn feddiannydd yn rhinwedd ei swydd o hyd. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod yna gysylltiad ffeithiol digonol rhwng meddiannaeth yr eiddo a’r gyflogaeth a fyddai'n buddio o'r feddiannaeth honno. 

Gellid cael effaith ar y trefniant meddiannaeth yn rhinwedd swydd hefyd os yw dyletswyddau'r cyflogai yn newid yn ystod ei gyflogaeth. 

Mae meddiannydd yn rhinwedd ei swydd yn wahanol i gyflogai sydd â chaniatâd i fyw mewn eiddo y mae ei gyflogwr yn berchen arno fel rhan o becyn cyflog y cyflogai. 

Nid yw meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn buddio o sicrwydd deiliadaeth statudol gan ei bod yn drwydded yn hytrach na thenantiaeth. 

Dod â meddiannaeth yn rhinwedd swydd i ben

Mae cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd yn dod i ben yn awtomatig pan fydd y contract cyflogaeth yn dod i ben, fel arfer heb yr angen am hysbysiad ymadael. 

Mae hefyd yn bosibl i'r cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd gynnwys telerau penodol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod hysbysiad ymadael yn cael ei ddarparu.  Fodd bynnag, ni fydd y gofynion hysbysiad ymadael a amlinellir yn adran 5 o Ddeddf Gwarchodaeth Rhag Troi Allan 1977 yn berthnasol. 

Bydd y cytundeb meddiannaeth yn rhinwedd swydd hefyd yn dod i ben pan gaiff cyflogai ei ddiswyddo am dorri ei gontract. 

Os nad yw'r cyflogai yn gadael yr eiddo yn wirfoddol ar ddiwedd ei dymor cyflogaeth, byddai angen gorchymyn troi allan trwy lys. 

Os rhoddwyd y feddiannaeth yn rhinwedd swydd gan awdurdod lleol, a bod achos adennill meddiant, mae'n agored i'r meddiannydd godi amddiffynfeydd yn seiliedig ar ddyletswyddau cyfraith gyhoeddus awdurdodau lleol. Pan fo'r parti sy'n ceisio adennill meddiant o eiddo preswyl yn awdurdod lleol neu awdurdod cyhoeddus arall, gall meddiannydd godi'r cwestiwn o p'un a yw'n gymesur gwneud gorchymyn adennill meddiant yn seiliedig ar Erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Tenantiaeth yn rhinwedd swydd

Gallai tenantiaeth yn rhinwedd swydd godi pan fo cyflogai yn byw mewn llety a ddarperir gan ei gyflogwr, ond nid yw ei feddiannaeth wedi'i chysylltu’n ddigon agos â'i gyflogaeth i greu meddiannaeth yn rhinwedd swydd. 

Mae'n bosibl y bydd tenantiaeth yn rhinwedd swydd yn cael ei rhoi yn gyfnewid am wasanaethau cyflogai, heb i unrhyw rent fod yn daladwy. Nid oes gwahaniaeth rhwng tenantiaeth yn rhinwedd swydd a thenantiaeth gyffredin, oni bai am y ffaith mai'r cyflogwr yw'r landlord, a'r cyflogai yw'r tenant. 

Yn wahanol i feddiannaeth yn rhinwedd swydd, mae tenantiaeth yn rhoi buddiant i'r cyflogai yn yr eiddo, nid trwydded i'w feddiannu yn unig. Bydd tenantiaeth ond yn bodoli os oes gan y cyflogai feddiant llwyr-gyfyngedig o'r eiddo. Yn ychwanegol, nid yw'r denantiaeth yn dod i ben yn awtomatig pan ddaw'r gyflogaeth i ben, felly byddai angen i'r cyflogwr ddilyn y gweithdrefnau priodol i adennill meddiant gan ddibynnu ar y math o denantiaeth. Bydd y math o denantiaeth sydd gan y cyflogai yn dibynnu ar p'un a yw'r landlord/cyflogwr yn endid cyhoeddus neu breifat. 

Os yw'r cyflogwr yn landlord preifat, yna mae'n bosibl y byddai'r cyflogai yn gallu dadlau bod ganddo ddiogelwch ac y bydd o bosibl yn buddio o sicrwydd deiliadaeth preswyl o dan Ddeddf Tai 1988 fel tenantiaeth sicr

Os nad yw'r denantiaeth yn rhinwedd swydd yn denantiaeth sicr, neu denantiaeth fyrddaliadol sicr (er enghraifft, os nad oes rhent yn cael ei dalu neu fod lefel y rhent a delir yn is na'r trothwy isaf o dan Ddeddf Tai 1988), mae meddiannaeth y tenant yn debygol o fod fel tenant cyfraith gyffredin.  Bydd angen terfynu ei fuddiant o hyd yn unol â'r cytundeb tenantiaeth, neu drwy hysbysiad priodol i ymadael os yw'n denantiaeth gyfnodol, ac mewn ffordd sy’n cydymffurfio â'r gofynion o dan Ddeddf Gwarchodaeth Rhag Troi Allan 1977. 

Os yw cyflogwr yn landlord cyhoeddus, mae'r cyflogai yn fwy tebygol o allu dadlau bod ganddo denantiaeth ddiogel. Er enghraifft, yn achos Hughes v Greenwich LBC 26 HLR 99, roedd pennaeth yn byw yn ddi-rent mewn eiddo gerbron ysgol lle'r oedd yn addysgu. Nid oedd ei gontract cyflogaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw ar yr eiddo. Gwneid ei waith yn yr ysgol yn haws gan ei agosrwydd iddi, ond nid oedd yn hanfodol iddo fyw gerbron yr ysgol i gyflawni ei ddyletswyddau. Cydnabuwyd y pennaeth fel tenant diogel. 

Os nad oes gan y cyflogai feddiant llwyr-gyfyngedig, gan ei fod, er enghraifft, yn rhannu'r eiddo gyda chyflogeion eraill, ac nad yw'n feddiannydd yn rhinwedd ei swydd, yna mae'n debygol y bydd yn drwyddedai. 
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Ionawr 2022