Skip to main content

Tribiwnlysoedd prisio lesddaliadau

Mae Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau yn ymdrin â'r canlynol: 

  1. Anghydfodau lesddaliadau (gan gynnwys yr hawl i reoli, taliadau gweinyddu amrywiol, fforffediadau, yswiriant, amrywio prydlesi hir ar fflatiau, penodi rheolwr a thaliadau ystadau) 
  2. Taliadau gwasanaeth amrywiol ar gyfer lesddaliadau a hepgor gofynion ymgynghori ar daliadau gwasanaeth
  3. Rhyddfreinio lesddaliadau ac estyniadau i brydlesau ar gyfer tai a fflatiau 
  4. Ceisiadau cymdeithasau tenantiaid am gydnabyddiaeth

Rhoddir awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau gan y deddfau canlynol: Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967, Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, Deddf Landlord a Thenant 1987, Deddf Landlord a Thenant 1985 a Deddf Tai 1996 (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol).

Sefydlwyd tribiwnlysoedd prisio lesddaliadau o dan adran 173 o CLRA 2002 sy'n darparu y gellir arfer awdurdodaeth a roddir i dribiwnlys prisio lesddaliadau gan bwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i RA 1977. Os caiff ei gyfansoddi felly gelwir pwyllgor asesu rhenti yn dribiwnlys prisio lesddaliadau.

Mae adran 175 o CLRA 2002 yn darparu ar gyfer apeliadau gan dribiwnlys prisio lesddaliadau at yr Uwch Dribiwnlys, o dan amgylchiadau penodol.

Mae adran 174 o, ac Atodlen 12 i, CLRA 2002 yn ymwneud â gweithdrefnau'r tribiwnlysoedd prisio lesddaliadau, fel y mae Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004.

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 yw’r rheoliadau sy'n llywodraethu'r tribiwnlys.

Gellir dod o hyd i ffurflenni cais a chanllawiau yma. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau hefyd yn rhoi canllawiau manwl pellach yma. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Ionawr 2022