Skip to main content

Dosbarthiadau meddiannaeth

Bydd hawliau a rhwymedigaethau unigolyn sy'n meddiannu cartref yn dibynnu ar ba fath o feddiannaeth sydd ganddo. Mae'r prif ddosbarthiadau meddiannaeth fel a ganlyn: 

  • Rhydd-ddaliad – perchenogaeth lwyr ac am byth ar eiddo, sydd o bosibl yn amodol ar gyfyngiadau penodol, gan ddibynnu ar y teitl cyfreithiol i’r eiddo a deddfwriaeth benodol. Gellir ond effeithio ar yr hawl i feddiannu eiddo rhydd-ddaliadol mewn amgylchiadau cyfyngedig (e.e. prynu gorfodol a/neu adfeddiannaeth). 
  • Cyfunddaliad – rhydd-ddaliad ar y cyd lle amlinellir yr hawliau a rhwymedigaethau mewn datganiad cymuned cyfunddaliad ar wahân. 
  • Lesddaliad hir – prydles a roddir am dymor o 21 mlynedd neu fwy pan gaiff ei chreu i ddechrau a lle mae premiwm a rhent tir yn cael eu talu fel arfer. Mae'n rhoi mwy o sicrwydd a hawliau mwy sylweddol na gosodiadau tymor byr. 
  • Tenantiaethau preswyl – un ai cyfnodol neu am gyfnod penodol yn gyfnewid am daliadau rhent. 
  • Trwydded i feddiannu - nid yw'n creu unrhyw ystâd neu fuddiant yn y tir. 

Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, unwaith y caiff ei deddfu'n llawn, yn creu dosbarth newydd o feddiannaeth ar gyfer y rheiny o dan denantiaeth neu drwydded yng Nghymru, a elwir yn "gontract meddiannaeth". 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
01 Rhagfyr 2021