Skip to main content

Rhydd-ddaliad

Golyga perchnogaeth rhydd-ddaliad fod unigolyn yn berchen ar eiddo yn llwyr am gyfnod diderfyn. Yng Nghymru a Lloegr, bydd y rhan fwyaf o dai yn rhydd-ddaliadol. 

Mae yna sawl math o ystadau rhydd-ddaliadol. Dyma’r rhai mwyaf cyffredin: 

  • Ffi syml: sydd yn berchnogaeth absoliwt o'r tir i bob pwrpas
  • Ystâd am oes: sy'n golygu perchnogaeth am hyd bywyd y deiliad i bob pwrpas 

Nid oes angen i rydd-ddeiliad dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu ffioedd caniatâd, ond mae’n llwyr gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio eiddo. Mae rhydd-ddeiliad yn rhydd i werthu a throsglwyddo'r eiddo ar unrhyw adeg a gall hefyd roi prydles o'r eiddo cyfan neu ran ohono i unigolyn arall. 

Mae yna rai cyfyngiadau o hyd ar yr hyn y gall rhydd-ddeiliad ei wneud gyda'i eiddo a'i dir, gan fod caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer rhai gweithgareddau penodol ac mae'n rhaid iddynt fodloni rheoliadau adeiladu. Gall teitl cyfreithiol yr eiddo hefyd gynnwys cyfyngiadau ar y tir, a elwir yn gyfamodau, sy'n nodi sut y gellir defnyddio'r tir. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y gallai'r mwynfeydd a'r mwynau o dan yr eiddo fod wedi'u heithrio o fuddiannau'r rhydd-ddaliad ac wedi'u cadw gan berchennog blaenorol, a fyddai'n golygu y byddai ganddo hawl i'w cloddio ar unrhyw adeg. Gallai hyn hefyd gael effaith ar unrhyw gynlluniau datblygu ar gyfer yr eiddo a'r tir. 
 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
02 Rhagfyr 2021