Skip to main content

Lesddaliad

Beth yw lesddaliad hir? 

Mae lesddaliad hir yn fuddiant mewn tir sy'n rhoi meddiant llwyr-gyfyngedig o eiddo i denant am gyfnod penodol, fel arfer am fwy na 21 mlynedd. Mae tymor y brydles yn gostwng mewn hyd gyda phob blwyddyn sy'n mynd heibio ac yn creu hawliau a chyfrifoldebau gwahanol ar ran y landlord a'r tenant. Mae'r hawliau sydd gan denant o dan brydles hir yn llawer mwy na'r rhai sydd gan denantiaid eraill o dan fathau eraill o denantiaethau.

Rhoddir buddiannau lesddaliadol fel arfer ar gyfer fflatiau mewn blociau pwrpasol, tai wedi'u trosi, neu uwchben eiddo masnachol. Mae perchnogaeth lesddaliad fel arfer yn cynnwys popeth o fewn waliau'r fflat, gan gynnwys estyll llawr a phlastr i waliau a nenfydau, ond gan eithrio'r waliau allanol ac adeileddol. Mae'r landlord yn berchen ar adeiledd a rhannau cyffredin yr adeilad. Mae'r landlord fel arfer yn gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio'r adeilad a chaiff costau eu hadfer gan y tenantiaid drwy dâl gwasanaeth. Gweler: Tâl Gwasanaeth. Weithiau, mae premiwm yn daladwy i'r landlord (neu'r tenant presennol ar aseiniad) i brynu'r brydles, yn ogystal â rhent tir isel blynyddol, sy'n daladwy gan y tenant ar ddyddiad penodol, yn dilyn cyflwyno archeb ragnodedig gan y landlord. Yng Nghymru, manylir ar y ffurf hysbysu ragnodedig ar hysbysiad yn Rheoliadau Landlord a Thenant (Hysbysu o Rent) (Cymru) 2005.

A yw'r tenant yn 'berchen' ar y tir? 

Nid yw tenant o dan brydles hir yn 'berchen' ar y tir ac mae perchnogaeth teitl y rhydd-ddaliad yn aros gyda'r landlord. Ar ddiwedd cyfnod y brydles, oni bai fod teitl y rhydd-ddaliad yn cael ei brynu gan y tenant (gweler rhyddfreinio) neu fod cyfnod y brydles yn cael ei ymestyn, daw'r hen deitl i ben. 

Beth yw prydles? 

Prydles yw contract rhwng y tenant a'r landlord. Gall geiriad prydlesi ar gyfer eiddo gwahanol amrywio a gallent gynnwys rhwymedigaethau gwahanol, er y bydd llawer o'r rhwymedigaethau safonol yn debyg. Gall prydlesi hefyd osod amodau penodol ar ddefnydd a meddiant eiddo. Pan gaiff eiddo lesddaliadol ei werthu, mae'r holl hawliau a chyfrifoldebau yn cael eu trosglwyddo i'r prynwr, sydd wedyn yn dod yn denant o dan y brydles. Rhwymedigaethau enghreifftiol y gallwch ddisgwyl eu gweld mewn prydles hir (enghreifftiol ac nid hollgynhwysol) 

Rhwymedigaethau'r tenant: 

  • Talu'r premiwm (os yw'n berthnasol)
  • Talu'r rhent tir blynyddol
  • Talu tâl gwasanaeth 
  • Cadw'r eiddo hyd at safon y cytunwyd arni rhwng y partïon o safbwynt atgyweiriadau, addurniadau a chyflwr 
  • Peidio â gwneud addasiadau (fe ganiateir hyn weithiau os ceir cydsyniad y landlord) 
  • Peidio ag aseinio'r brydles lawn oni bai y bodlonir amodau penodol
  • Peidio ag isosod yr eiddo llawn oni bai y bodlonir amodau penodol
  • Dychwelyd yr eiddo i'r landlord ar ddiwedd y tymor yn y cyflwr sy'n ofynnol gan y brydles

Rhwymedigaethau''r landlord

  • Caniatáu mwynhad mewn heddwch o'r eiddo i'r tenant (h.y. hawl i fyw yn yr eiddo heb ymyrraeth afresymol gan y landlord) 
  • Darparu gwasanaethau sy'n ymwneud â rhannau cymunedol o adeilad neu ystâd (os yw'n berthnasol, megis prydles hir ar fflat mewn adeilad ar ystâd)
  • Sicrhau bod pob prydles mewn adeilad, a roddwyd am gyfnod gwreiddiol o dros 21 mlynedd, yn cael ei gwneud ar yr un telerau i raddau helaeth 
  • Yswirio'r eiddo ar gost y tenant drwy rent yswiriant (os cyfrifoldeb y landlord ydyw)
  • Adfer yr eiddo os caiff ei ddifrodi neu ei ddinistrio gan risg a yswirir (os cyfrifoldeb y landlord ydyw) 
  • Gorfodi rheoliadau yn erbyn tenant o'r adeilad gyda phrydles a roddwyd am gyfnod gwreiddiol o 21 mlynedd ar gais tenant arall mewn adeilad.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
03 Rhagfyr 2021