Taliadau gweinyddol
Beth yw taliadau gweinyddol?
Diffinnir taliadau gweinyddol ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 11 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 fel a ganlyn:
“swm sy'n daladwy gan denant mewn annedd fel rhan o rent, neu yn ychwanegol ato, sy'n daladwy, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol –
(a) ar gyfer neu mewn cysylltiad â chael cymeradwyaeth o dan ei brydles, neu geisiadau am gymeradwyaeth o'r fath;
(b) ar gyfer neu mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth neu ddogfennau gan neu ar ran y landlord neu unigolyn sy'n barti i'w brydles ac eithrio fel landlord neu denant;
(c) o ran methiant gan y tenant i wneud taliad erbyn y dyddiad dyledus i'r landlord neu unigolyn sy'n barti i'w brydles ac eithrio fel landlord neu denant; neu
(d) mewn perthynas â thoriad (neu doriad honedig) o gyfamod neu amod yn ei brydles.”
Enghraifft o roi cymeradwyaeth neu gais yw lle rhoddir cydsyniad landlord mewn perthynas â gwerthiant, lle y nodir gofyniad o'r fath yn y brydles.
Pwysigrwydd rhesymoldeb
Mae'n rhaid i daliadau gweinyddol fod yn rhesymol.
Pan fo'r tâl gweinyddol yn amrywiol ac mae'r tenant yn credu bod y swm yn afresymol, gall y tenant herio tâl gweinyddol drwy wneud cais i'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau i ddechrau. Os yw'r tâl hwn un ai'n benodedig yn y brydles neu fod y brydles yn cynnwys fformiwla i gyfrifo'r tâl gweinyddol, ac mae'r tenant yn credu bod y tâl gweinyddol yn afresymol, yna gall y tenant wneud cais i'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau i amrywio'r brydles.
Nid yw tenant yn gallu herio tâl gweinyddol dan yr amgylchiadau canlynol:
- mae mater wedi cael ei gytuno neu ei dderbyn gan y tenant;
- mae mater wedi cael, neu am gael, ei gyfeirio am gyflafareddiad neu wedi cael ei benderfynu gan gyflafareddiad a chytunodd y tenant i fynd i gyflafareddiad ar ôl i'r anghytuno ynglŷn â'r tâl gweinyddol godi; neu
- mae mater wedi'i benderfynu gan lys.
Beth ddylai gyd-fynd ag archeb am dâl gweinyddol?
Wrth gyflwyno archeb am daliadau gweinyddol, mae'n rhaid darparu tenant â chrynodeb sy'n amlinellu hawliau a rhwymedigaethau'r tenant mewn perthynas â thaliadau gweinyddol yn gryno. Os nad yw’r crynodeb hwn yn cael ei anfon at denant gydag archeb, gall y tenant gadw tâl gweinyddol yn ôl.
Mae yna ffurf ragnodedig ar archeb y mae'n rhaid ei defnyddio – gweler y cynnwys rhagnodedig ar gyfer crynodeb o hawliau a rhwymedigaethau tenantiaid o ran taliadau gweinyddol. Mae'n rhaid iddi fod yn eglur ar ffurf teip neu brint o o leiaf deg pwynt (Rheoliad 2 o Reoliadau Taliadau Gweinyddol (Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2007). Mae'n rhaid i archeb am dâl gweinyddol hefyd gynnwys cyfeiriad y landlord yn unol ag adran 47 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987.
Bydd tenant gyda thenantiaeth fyrddaliadol sicr yn y sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) Cymru 2019 a bydd taliadau penodol i'r landlord wedi'u gwahardd.