Skip to main content

Bwyd - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Yn gyffredinol, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol i basio deddfau o ran pob agwedd ar fwyd a diod.

Mae hyn yn ddarostyngedig i’r cymalau cadw yn Atodlen 7A i’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006, megis ‘bwydydd lles’ (cynlluniau ar gyfer gwella maeth menywod beichiog, mamau a phlant a wnaed gan reoliadau o dan adran 13 o’r Deddf Nawdd Cymdeithasol 1988).

Mae’r gyfraith ddomestig ar fwyd a diogelwch bwyd yn deillio o’r ddeddfwriaeth sylfaenol (statudau) a wnaed gan Senedd y DU neu Senedd Cymru.

Cyn i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, roedd diogelwch bwyd yn bennaf ar sail yr UE. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn ystyried bod pwysigrwydd sicrhau diogelwch bwyd yn gofyn am ymagwedd gynhwysfawr ac integredig tuag at ddiogelwch bwyd a bod hyn yn galw am roi sylw i bob agwedd ar ddiogelwch bwyd ar lefel yr UE. Fodd bynnag, yr Aelod-wladwriaethau sy’n ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros orfodi darpariaethau perthnasol yr UE, a gellir gwneud hyn ar lefel genedlaethol, ar lefel ranbarthol neu ar lefel leol.

Felly, mae nifer o’r deddfau diogelwch bwyd allweddol sydd mewn grym ar hyn o bryd yng Nghymru yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Efallai bod y darpariaethau allweddol hynny wedi dod i rym yn awtomatig (bod yn ‘uniongyrchol gymwys’ neu â ‘chymhwysedd uniongyrchol’), neu gallent gael eu gorfodi o ganlyniad i weithredu deddfwriaeth y DU. Yn aml, bydd deddfwriaeth y DU ar ffurf is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Manylir ymhellach isod ar y deddfau UE allweddol sydd mewn grym yng Nghymru a deddfwriaeth weithredol y Deyrnas Unedig.

Er mwyn gweithredu cyfraith Ewropeaidd yng nghyfraith y DU, gall Gweinidogion Cymru ddibynnu ar y pwerau a roddir iddynt gan ‘orchmynion dynodi’. Math o ddeddfwriaeth yw’r rhain, a wneir gan Ei Fawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Nodir rhestr isod o’r gorchmynion dynodi allweddol mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd.

Ceir llawer iawn o is-ddeddfwriaeth ar fwyd a diogelwch bwyd yng Nghymru. Mae’r is-ddeddfwriaeth dan sylw yn aml yn gweithredu cyfraith yr UE ar ddiogelwch bwyd er nad yw hyn yn wir bob amser.

Cyn datganoli pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gynt) ym 1999, yr Ysgrifennydd Gwladol a wnâi is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd. Byddai’r ddeddfwriaeth yn cynnwys ac yn gymwys i bob rhan o Gymru a Lloegr. Os mai ar ddiogelwch bwyd yng Nghymru yn unig yr effeithiai’r is-ddeddfwriaeth, Ysgrifennydd Cymru yn gweithredu ar ei ben ei hun fyddai’n gwneud yr is-ddeddfwriaeth. Mae rhai o’r offerynnau hyn o’r cyfnod cyn datganoli yn parhau i fod mewn grym.

Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd yng Nghymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999 (drwy Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999). Drwy hynny, trosglwyddwyd nifer sylweddol o bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud is-ddeddfwriaeth o dan ddeddfwriaeth sylfaenol cyn 1999 i’r Cynulliad Cenedlaethol (gynt), er i’r Ysgrifennydd Gwladol barhau i arfer rhai swyddogaethau mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd.

Y Cynulliad Cenedlaethol a arferai’r pwerau gweithredol dros fwyd a diogelwch bwyd a drosglwyddwyd iddo o 1 Gorffennaf 1999 tan 25 Mai 2007 pan drosglwyddwyd ei bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ymhellach i Weinidogion Cymru wedi i’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym.

Dylid bod yn ofalus wrth ddarllen a chymhwyso deddfwriaeth sy’n ymwneud â bwyd a ddeddfwyd neu a wnaed cyn mis Mai 2007 mewn perthynas â Chymru.

Yn gyffredinol, dylid darllen cyfeiriadau at swyddogaethau’r ‘Ysgrifennydd Gwladol’ mewn statudau cyn 1 Gorffennaf 1999 sy’n ymwneud â bwyd a diogelwch bwyd yng Nghymru fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru. Deillia hyn o'r trosglwyddo swyddogaethau a nodir uchod.

Yn yr un modd, dylid darllen cyfeiriadau mewn statudau a ddeddfwyd rhwng Gorffennaf 1999 a Mai 2007 at swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru. 

Darpariaethau allweddol cyfraith ddomestig

Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985

Mae Rhan 1 o’r Deddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985 (Deddf 1985) yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion brys mewn perthynas â halogi bwyd. Mae adran 1 yn galluogi awdurdod dynodi i wneud gorchymyn brys mewn amgylchiadau sy’n bodoli, neu a allai fodoli, sy’n debygol o greu perygl i iechyd pobl oherwydd bwyd sydd, neu a all fod, neu a all ddod, yn anaddas i bobl ei fwyta. Gall y gorchymyn gynnwys gwaharddiadau brys. Bydd unrhyw un sy’n mynd yn groes i waharddiad brys, neu’n achosi neu’n caniatáu i unrhyw un arall wneud hynny, yn euog o drosedd.

Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod dynodi mewn perthynas â Chymru. Mae eu swyddogaethau o dan adran 1(1) o Deddf 1985 mewn perthynas â gwneud y gorchmynion brys i’w harfer yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Deddf Diogelwch Bwyd 1990

Mae Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Deddf 1990) yn gwneud darpariaeth sy’n berthnasol i fwyd a diogelwch bwyd yng Nghymru. Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch diogelwch bwyd yn gyffredinol ac am ddiogelu defnyddwyr.

Mae adrannau 7 ac 8 yn darparu ar gyfer troseddau peri i fwyd fod yn niweidiol i iechyd gyda’r bwriad o werthu’r cyfryw fwyd i bobl ei fwyta, a gwerthu bwyd nad yw’n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd. Mae adrannau 9 a 10 yn darparu ar gyfer arolygiadau o fwyd amheus a rhoi hysbysiadau gwella i berchennog busnes os nad yw’n cydymffurfio â rheoliadau. Mae adrannau 11 a 12 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion gwahardd, sydd i bob pwrpas yn gwahardd y perchnogion rhag parhau â’u busnes.

Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud is-ddeddfwriaeth o dan adrannau 16, 17, 26 a 48 o Deddf 1990. Pwerau yw’r rhain i lunio deddfwriaeth mewn perthynas â gorfodi darpariaethau’r UE ac mewn perthynas â diogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr:

  • mynnu, gwahardd neu reoleiddio presenoldeb sylwedd penodedig, neu sylwedd o ddosbarth penodol mewn bwyd neu ffynonellau bwyd, ac yn gyffredinol ar gyfer rheoleiddio cyfansoddiad bwyd,
  • sicrhau bod bwyd yn addas i bobl ei fwyta ac yn bodloni safonau microbiolegol a gaiff eu pennu,
  • mynnu, gwahardd neu reoleiddio’r defnydd o broses neu driniaeth wrth baratoi bwyd,
  • sicrhau bod amodau ac arferion hylan yn cael eu dilyn yng nghyswllt cyflawni gweithrediadau masnachol mewn perthynas â bwyd neu ffynonellau bwyd,
  • gosod gofynion neu waharddiadau, neu reoleiddio fel arall, y broses o labelu, marcio, cyflwyno neu hysbysebu bwyd,
  • unrhyw ddarpariaeth arall mewn perthynas â bwyd yr ymddengys ei bod yn angenrheidiol neu’n gyfleus i’r diben o sicrhau bod bwyd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd neu er budd iechyd y cyhoedd, neu er mwyn diogelu neu hybu buddiannau defnyddwyr.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud nifer o reoliadau o dan yr Ddeddf 1990 sy’n cynnwys amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gofynion ar gyfer labelu pysgod a darpariaethau ynghylch halogion mewn bwyd. Maent hefyd wedi defnyddio eu pwerau o dan yr Ddeddf 1990, ar y cyd â phwerau o dan adran 2(2) o’r
Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, i weithredu darpariaethau cyfraith yr UE mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd (er enghraifft, gweler Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006).

Deddf Safonau Bwyd 1999

Mae’r Deddf Safonau Bwyd 1999 (Deddf 1999) yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu’r Asiantaeth Safonau Bwyd at ddibenion cynnal y swyddogaethau a roddir iddi drwy neu o dan y Ddeddf. Prif amcan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau a allai godi mewn perthynas â bwyta bwyd (gan gynnwys risgiau a achosir gan y ffordd y caiff ei gynhyrchu neu ei gyflenwi) ac fel arall i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn adran anweinidogol o’r Llywodraeth.

Mae adran 6 o Deddf 1999 yn darparu bod gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd swyddogaeth i ddatblygu polisïau (neu gynorthwyo awdurdodau cyhoeddus eraill i ddatblygu polisïau) a darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae adran 6(2) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ofyn i’r Asiantaeth Safonau Bwyd arfer ei phwerau o dan adran 6 mewn perthynas ag unrhyw fater.

Yng nghyswllt Cymru, mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd swyddogaeth i ddatblygu polisïau a chynghori Gweinidogion Cymru mewn perthynas â pholisïau cyfansoddiad bwyd a labelu bwyd. Yn fwy cyffredinol, mae meysydd allweddol o waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn cynnwys:

  • diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro gweithredol, gan weithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru,
  • lleihau salwch a gludir mewn bwyd drwy weithio gydag awdurdodau diwydiant a gorfodaeth i gyfyngu ar halogiad,
  • sicrhau diogelwch bwyd,
  • cefnogi dewis defnyddwyr drwy roi cyngor ar labelu cywir ac ystyrlon a thrwy sicrhau bod gwybodaeth ar gael am faterion diogelwch bwyd, canlyniadau arolygon a gweithgarwch gorfodi.

Mae adrannau 2 a 3 o Deddf 1999 yn darparu y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd a rhwng wyth a deuddeg o aelodau eraill. O’r rhain, bydd un aelod yn cael ei benodi gan Weinidogion Cymru. Caiff y cadeirydd a’r is-gadeirydd eu penodi gan Weinidogion Cymru yn gweithredu ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban a gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Yr aelodau hyn yw’r Bwrdd, sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, gan sicrhau ei bod yn cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol er mwyn i’w phenderfyniadau neu ei gweithredoedd roi ystyriaeth briodol i gyngor gwyddonol, buddiannau defnyddwyr a ffactorau perthnasol eraill.

Mae adran 3 yn darparu bod prif weithredwr yn cael ei benodi ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd, i fod yn gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol. Hefyd, penodir cyfarwyddwr ar gyfer Cymru (a phenodir cyfarwyddwyr ar gyfer yr Alban ac ar gyfer Gogledd Iwerddon), sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol.

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013  

Daeth Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Deddf 2013) a’r Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 cysylltiedig i rym ar 28 Tachwedd 2013. Gyda’i gilydd, maent yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd statudol yng Nghymru, yn seiliedig i raddau helaeth ar gynllun gwirfoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd a oedd eisoes yn gweithredu yng Nghymru. Daeth y Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 i rym ar 28 Tachwedd 2016 ac maent yn gwneud darpariaeth bellach o ran hyrwyddo sgoriau hylendid yn unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.

Mae’r Ddeddf 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau porthladd lleol i archwilio a chynhyrchu sgoriau hylendid bwyd ar gyfer sefydliadau busnes bwyd yn eu hardaloedd, gan ddefnyddio meini prawf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Darperir sticer sy’n dangos y sgôr hylendid bwyd i weithredwr y sefydliad bwyd. Mae’n ofynnol i’r gweithredwr arddangos y sticer mewn un neu fwy o fannau dynodedig yn eu sefydliad ac i sicrhau bod unrhyw un sy’n gofyn am gadarnhad llafar o’r sgôr yn cael y wybodaeth honno. Mae hefyd yn ofynnol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi’r sgôr ar ei gwefan.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau porthladd orfodi’r gofynion.

Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn rhoi hawl i weithredwr sefydliad bwyd apelio yn erbyn sgôr hylendid bwyd y sefydliad a hawl i gyflwyno sylwadau yn ei chylch. Bydd unrhyw sylwadau a wnânt yn cael eu harddangos ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Hefyd, ar ôl rhoi tystiolaeth ei fod wedi cwblhau gwaith angenrheidiol, gall y gweithredwr ofyn am archwiliad ac asesiad pellach o safonau hylendid bwyd y sefydliad er mwyn ystyried a ddylai’r sgôr hylendid bwyd gael ei newid. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ac awdurdodau porthladd godi tâl ar y gweithredwr am yr ail arolygiad y gofynnir amdano.

Darpariaethau allweddol cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Mae diogelwch bwyd yn cael ei reoleiddio’n helaeth ar lefel yr UE. Hefyd, mae’r UE wedi sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop er mwyn darparu cyngor gwyddonol annibynnol a chyfathrebu clir i’r UE ac i’r Aelod-wladwriaethau ar risgiau diogelwch bwyd presennol a newydd.

Mae darpariaethau perthnasol cyfraith yr UE yn cynnwys:

• Rheoliad (CE) Rhif 178/2002 ar egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd a’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn mewn perthynas â materion diogelwch bwyd,

• Rheoliad (CE) Rhif 853/2004 sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer hylendid bwydydd,

• Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr.

Mae rhai o ddarpariaethau’r rheoliadau uchod yn ‘uniongyrchol gymwys’ o ran y modd y byddant yn dod i rym yng Nghymru heb fod angen deddfwriaeth y Deyrnas Unedig. Mae gofyn rhoi darpariaethau eraill mewn grym drwy weithredu deddfwriaeth ar lefel y DU.

Yn y cyd-destun hwn, mae adran 2(2) o’r Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn darparu bod gan Weinidogion Cymru bŵer, o ran y pynciau y cawsant eu ‘dynodi’ ar eu cyfer, i wneud is-ddeddfwriaeth i weithredu cyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Gellir dynodi Gweinidogion Cymru drwy Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, a elwir yn ‘orchymyn dynodi’. Bellach, dylid darllen gorchymyn dynodi a wnaed cyn mis Mai 2007 a ddynodai’r Cynulliad Cenedlaethol fel gorchymyn sy’n dynodi Gweinidogion Cymru. Deillia hyn o ganlyniad i baragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Mae’r gorchmynion dynodi mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd yn cynnwys:

Mae Gweinidogion Cymru (a chyn mis Mai 2007, y Cynulliad Cenedlaethol (gynt)) wedi arfer eu pwerau o dan adran 2(2) o’r Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 i wneud nifer o offerynnau statudol ar gyfer gweithredu cyfraith yr UE mewn perthynas â bwyd a diogelwch bwyd. Maent yn cynnwys:

Ers i’r Deddf Cymru 2017 ddod i rym, mae gan Weinidogion Cymru ddynodiad cyffredinol o dan adran 58B o’r Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Effaith hyn yw bod Gweinidogion Cymru yn gyffredinol yn cael eu trin fel petaent wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o’r Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ar gyfer meysydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Medi 2022