Skip to main content

Bwyd

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae bwyd (a diod) yn bwnc datganoledig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys meysydd fel diogelwch bwyd a labelu bwyd. Mae’r rhan fwyaf o swyddogaethau mewn perthynas â chyfraith bwyd bellach yn gyfrifoldeb Gweinidogion Cymru. Gan fod llawer o’r gyfraith yn y maes hwn yn deillio o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd,  rhan bwysig o’u rôl yw gwneud rheoliadau at ddiben gweithredu cyfreithiau bwyd yr UE yng Nghymru.

Mae Senedd Cymru wedi defnyddio ei phwerau deddfu i basio Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Mae hyn yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd. Mae sefydliadau bwyd yn cael eu hasesu gan eu hawdurdod lleol ac mae’n ofynnol iddynt arddangos sticer sy’n dangos eu sgôr hylendid bwyd.

Deddfwriaeth bwyd allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-deddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
21 Hydref 2021