Skip to main content

Dŵr- beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Yn gyffredinol, mae gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â phob agwedd ar ansawdd dŵr, adnoddau dŵr a'r diwydiant dŵr. Mae hyn yn ddarostyngedig i gymalau cadw yn Atodlen 7A i’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (GoWA 2006). Mae'n rhaid darllen cymhwysedd Senedd Cymru mewn perthynas â'r diwydiant dŵr yn arbennig gan ystyried y cymalau cadw yn adran C15 (dŵr a charthffosiaeth) o Atodlen 7A i GoWA 2006. Mae'r cymalau cadw hyn yn nodi nad oes gan Senedd Cymru gymhwysedd i wneud unrhyw beth sy'n ymwneud â’r canlynol:

  • penodi a rheoleiddio unrhyw ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth nad yw ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru (mewn geiriau eraill ymgymerwyr dŵr neu garthffosiaeth sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf o Loegr);
  • trwyddedu a rheoleiddio unrhyw gyflenwr dŵr (mae'r cymal cadw hwn yn ddarostyngedig i eithriad ar gyfer rheoleiddio trwyddedai dŵr neu garthffosiaeth mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig sy'n defnyddio system gyflenwi neu garthffosiaeth ymgymerwr dŵr neu garthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru – h.y. mae gan y Senedd gymhwysedd mewn perthynas â rheoleiddio trwyddedeion dŵr a charthffosiaeth sy'n defnyddio systemau ymgymerwyr sy'n gweithredu'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru).

Mae’r cymalau cadw hyn yn cydnabod bod y diwydiant dŵr wedi ei drefnu yn ôl ymgymerwyr nad yw eu hardaloedd penodi yn cyfateb i’r ffin ddaearyddol rhwng Cymru a Lloegr. Yn hytrach, mae ardaloedd rhai ymgymerwyr, megis Dŵr Cymru Welsh Water, ar ddwy ochr y ffin. Y bwriad yw i’r ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru gael eu llywodraethu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a chaiff y bwriad yma ei adlewyrchu’n gyffredinol hefyd yn y ffordd mae pwerau Gweinidogion wedi eu rhoi (hynny yw, mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau sy’n ymwneud ag unrhyw ymgymerwr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru).

Ym mis Tachwedd 2017 cytunodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar Brotocol Rhynglywodraethol ar Adnoddau Dŵr i ddiogelu adnoddau dŵr, cyflenwad dŵr ac ansawdd dŵr ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru a Lloegr. Daeth y Protocol i rym ar 1 Ebrill 2018 ac roedd yn cyd-daro â disodli pwerau ymyrryd blaenorol a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas ag arfer swyddogaethau yng Nghymru a gafodd effaith ar faterion sy'n ymwneud â dŵr.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
24 Mehefin 2021