Skip to main content

Dŵr

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Gellir categoreiddio’r gyfraith mewn perthynas â dŵr yn fras yn ôl y diwydiant dŵr ac adnoddau dŵr, gan gynnwys ansawdd dŵr.

Mae cyfraith y diwydiant dŵr yn canolbwyntio ar reoleiddio ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth. Ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth yw’r cwmnïau sy'n darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth. Mae'r ardaloedd a gwmpesir gan rai ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth yn pontio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw ymgymerwr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.

Mae cyfraith adnoddau dŵr yn ymwneud â ffynonellau cyflenwad dŵr. Gall y rhain fod yn ddyfroedd mewndirol neu’n strata tanddaearol. Mae'r gyfraith yn cwmpasu cadwraeth, casglu, paratoi, defnyddio a gwaredu’r adnoddau hyn, a diogelu eu hansawdd.

Mae Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd yn gosod fframwaith ar gyfer gwarchod a gwella'r amgylchedd dŵr. Mae cyfraith yr UE hefyd yn cynnwys safonau dŵr yfed, casglu a thrin dŵr gwastraff trefol, diogelu dŵr rhag cael ei lygru gan nitradau a ddefnyddir mewn amaethyddiaeth ac ansawdd dŵr ymdrochi. Gweler rhagor o wybodaeth am gyfraith yr UE ac effaith ymadael â’r UE yma.

Mae'r adran hon hefyd yn ymdrin â'r gyfraith ar echdynnu dŵr, sef y broses o dynnu dŵr o ffynonellau naturiol fel dyfroedd a llynnoedd.

 

Deddfwriaeth dŵr allweddol
Rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-deddfwriaeth allweddol
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
12 Hydref 2021