Ai nawr yw'r Amser i Gwmnïau Dŵr wedi'u Preifateiddio dod yn Sefydliadau Nid-er-elw
Cafodd yr erthygl yma ei baratoi gan Jill Crawford, Irwin Mitchell.
Cyflwyniad – Ffocws ar y Diwydiant Dŵr Preifat
Nid oes amheuaeth bod y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr o dan bwysau.
Mae’r pwysau y mae’n ei wynebu yn niferus ynghyd â heriau i fynd i’r afael â dirywiad ein hafonydd a’n moroedd (a welir gan lawer i fod o ganlyniad i ollyngiadau cynyddol o garthffosiaeth amrwd gan gwmnïau dŵr), dwysáu amaethyddiaeth a newid mewn defnydd tir a phoblogaeth ddynol sy’n ehangu’n barhaus, heb sôn am sychder a llifogydd y gellir eu priodoli i newid hinsawdd. Mae’r ffocws yn y cyfryngau ar gwmnïau dŵr wedi’u preifateiddio yn talu cyflogau a bonysau gwerth miliynau o bunnoedd i’w huwch gyfarwyddwyr a’u prif weithredwyr heb sôn am eu cyfranddalwyr sy’n cynnwys buddsoddwyr tramor yn bennaf, wedi golygu bod cwmnïau dŵr wedi’u preifateiddio wedi dod o dan y llach, yn enwedig o’u cymharu ag adroddiadau o gwtogi ar fuddsoddiad mewn seilwaith.
Er i Water UK adrodd yn 2019 bod y diwydiant dŵr wedi gwario tua £150 biliwn ers preifateiddio yn gwella pibellau, gorsafoedd pwmpio, carthffosydd a chanolfannau trin. Mewn cyferbyniad, adroddodd yr FT fod cwmnïau dŵr a charthffosiaeth wedi lleihau buddsoddiad mewn seilwaith hanfodol gymaint ag un rhan o bump yn y 30 mlynedd ers preifateiddio, a chafwyd y cwtogi ar fuddsoddiad mwyaf eithafol mewn rhwydweithiau dŵr gwastraff a charthffosiaeth yn ôl data a ryddhawyd gan OFWAT i grŵp ymgyrchu Windrush Against Sewage Pollution. Mae hyn er gwaethaf cynnydd o 31 y cant mewn termau real mewn biliau dŵr ers y 1990au.
Ychwaneger bod adroddiad diweddar yn tynnu sylw at y ffaith bod cwmnïau dŵr wedi pwmpio carthffosiaeth amrwd i’n hafonydd a’n moroedd ers 2016 am fwy na naw miliwn o oriau sy’n cyfateb i 1076 o flynyddoedd a gallwch ddeall pam mae’r diwydiant dŵr dan y llach. Er bod cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael gollwng carthion amrwd mewn rhai amgylchiadau drwy ‘orlifoedd carthffosydd cyfun’ mae ymchwiliadau Windrush Against Sewage ac ymchwiliad diweddar a gynhaliwyd gan Dispatches yn datgelu bod cwmnïau dŵr yn gollwng carthion o bibellau nas caniateir, gan wneud nifer o’r gollyngiadau hyn yn anghyfreithlon.
Galwad am Newid i Strwythur Cwmnïau
Bu galw gan ymgyrchwyr fel Fergal Sharkey ac UNSAIN i’r diwydiant dŵr gael ei ail-wladoli yn y frwydr i atal llygredd dyfrffyrdd a moroedd a chafwyd llawer o feirniadaeth na ddylai cyfranddalwyr, prif weithredwyr ac uwch reolwyr elwa’n ariannol ar yr hyn sydd yn nwydd hanfodol y mae holl fywyd y ddaear yn dibynnu arno, a bod angen mwy o fuddsoddiad i fynd i’r afael â’r heriau a’r pwysau niferus ar ein hamgylchedd dŵr.
A yw Sefydliad Nid-er-elw yn well ar gyfer yr Amgylchedd Dŵr
Ond a yw'n well mewn gwirionedd i'r amgylchedd dŵr ac i bobl pe bai ein diwydiannau dŵr yn cael eu hail-wladoli neu, er enghraifft, i gwmnïau dŵr ddod yn sefydliad nid-er-elw fel Dŵr Cymru.
Mae’r erthygl hon yn edrych yn gryno iawn ar sefydliad dielw fel Dŵr Cymru ac a fyddai’r amgylchedd dŵr a phobl yn elwa mwy pe bai’n rhaid i bob cwmni dŵr weithredu fel y model hwn. Fodd bynnag, yn amlwg byddai angen cynnal dadansoddiad manylach i nodi gwir fanteision ac anfanteision y ddau fodel.
Dŵr Cymru
Mae Dŵr Cymru yn eiddo i Glas Cymru, sef cwmni un pwrpas a ffurfiwyd yn 2001 i fod yn berchennog ar Dŵr Cymru a’i ariannu a’i reoli. Mae'n gyfyngedig drwy warant ac oherwydd hyn, nid oes ganddo unrhyw gyfranddalwyr, ac oherwydd nad oes ganddo gyfranddalwyr, mae unrhyw arian dros ben yn cael ei ail-fuddsoddi yn Dŵr Cymru. Adroddir, dros yr 21 mlynedd diwethaf, bod mwy na £440 miliwn, a fyddai wedi cael ei ddosbarthu i gyfranddalwyr pe bai Dŵr Cymru wedi aros yn gwmni rhestredig, wedi caniatáu lefelau uwch o fuddsoddiad. Mae'n gwasanaethu poblogaeth o dair miliwn o bobl ac yn cyflenwi dŵr i ardal fawr o Gymru.
Mewn nodyn addawol yn 2021, cafodd Dŵr Cymru y sgôr pedair seren uchaf, ar ôl cyrraedd neu ragori ar dargedau ar gyfer ei berfformiad amgylcheddol. Cynhelir yr asesiad a elwir yn Asesiad Perfformiad Amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn 2022, dyma’r cwmni dŵr â’r sgôr uchaf ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid yn dilyn ymchwil cwsmeriaid ledled y DU.
Fodd bynnag, er bod Dŵr Cymru wedi ennill yr anrhydeddau hyn, rhaid gwrthbwyso hyn yn erbyn cefndir o feirniadaeth y mae wedi’i hwynebu, rhywfaint ohono’n debyg iawn i’r feirniadaeth o gwmnïau dŵr wedi’u preifateiddio.
Amlygodd adroddiad gan Bwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y Senedd y ffaith bod Dŵr Cymru yn gollwng carthion heb eu trin drwy ddraeniau gorlif storm yn union fel y mae cwmnïau preifat yn ei wneud pan fydd eu gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn cael eu llethu â dŵr ar ôl glaw trwm.
Nododd y pwyllgor yn 2020 y cafwyd dros 105,000 o achosion o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i afonydd Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd â phryder pa mor aml y cafwyd y gollyngiadau hyn ond eu bod wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; “Dylai gorlifoedd stormydd weithredu’n anaml ac mewn achosion o dywydd eithriadol - ond nid dyna sy’n digwydd. Yn lle hynny, rydym yn gweld nifer y digwyddiadau'n cynyddu'n sylweddol a cheir adroddiadau cyson am garthffosiaeth yn ein hafonydd.
Mewn ergyd arall i gymwysterau amgylcheddol Dŵr Cymru ym mis Ebrill, amlygodd Panorama’r BBC fod Dŵr Cymru yn un o’r troseddwyr gwaethaf ymhlith cwmnïau dŵr y DU am ddympio carthion heb eu trin.
Ymateb Dŵr Cymru i feirniadaeth fu dweud “Mae’r rhwydwaith yr ydym wedi ei etifeddu yn un cyfunol, mae’n cymryd glaw o ffyrdd, iardiau, a thoeau yn ogystal â charthion o gartrefi a busnesau. Mae felly'n cynnwys gorlifoedd stormydd cyfunol sy'n chwarae rhan hanfodol wrth atal carthion rhag mynd i mewn i eiddo cwsmeriaid yn ystod cyfnodau o law trwm. Maent fel arfer yn rhyddhau dyfroedd storm i mewn i afonydd, neu i’r môr ac mae eu gweithrediad yn cael ei reoleiddio a’i fonitro’n agos gan ein rheolydd Cyfoeth Naturiol Cymru”. “Er bod ein gorlifoedd stormydd cyfun yn gweithredu’n bennaf fel y’u cynlluniwyd ac a ganiateir, rydym yn cydnabod, gyda deddfwriaeth amgylcheddol yn tynhau a disgwyliadau cwsmeriaid yn newid, bod angen gwneud mwy”
Galwodd Cyfoeth Naturiol Cymru, sef prif reoleiddiwr Dŵr Cymru ym mis Gorffennaf 2022, ar yr holl gwmnïau dŵr y mae’n ei reoleiddio i gymryd camau i weithredu a gwella ar ôl i’w adroddiadau perfformiad amgylcheddol blynyddol ar gwmnïau dŵr amlygu cynnydd mewn achosion o lygredd a gostyngiad mewn cydymffurfedd â thrwyddedau amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau carthion. Adroddodd hefyd am ddirywiad perfformiad Dŵr Cymru a arweiniodd at ei israddio o fod yn gwmni pedair seren flaenllaw yn y diwydiant yn 2021 i fod yn gwmni tair seren (cwmni da) yn 2022.
Casgliad
Ar yr olwg gyntaf, mae Dŵr Cymru drwy ei weithredoedd hefyd wedi ychwanegu at lygru ein hafonydd trwy ollyngiadau o garthion amrwd heb eu trin ac felly ar y sail honno gellid dweud nad yw’r model nid-er-elw o fudd i’n hamgylchedd dŵr mwy na system wedi'i phreifateiddio.
Fodd bynnag, mae llawer o heriau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw o ran y ffordd yr ydym yn rheoli ein dŵr, nid yn unig o safbwynt y diwydiant dŵr (er nad yw'n cael ei drafod yn yr erthygl hon) ond hefyd yn y ffordd yr ydym yn rheoli ein defnydd o dir, dwysáu cynyddol y diwydiant amaethyddol a newid hinsawdd.
Mae'r un heriau'n wynebu sector preifat y diwydiant dŵr a sefydliad nid-er-elw.
Mae buddsoddiad gan y diwydiant dŵr yn amlwg yn ffactor arwyddocaol i'r rheolyddion a hefyd i gyrff anllywodraethol a'r cyhoedd a cheir galwadau i'r diwydiant dŵr wneud mwy i allu delio â'r heriau hyn.
Gyda data a gynhyrchwyd gan Brifysgol Greenwich yn dangos bod naw cwmni dŵr a charthffosiaeth wedi'u preifateiddio yn Lloegr yn unig wedi talu cyfanswm o £18.9 biliwn mewn difidendau ers 2010 (cyfartaledd blynyddol o £1.6 biliwn), mae’n sicr yn codi’r cwestiwn oni ddylid buddsoddi'r arian hwn yn ôl yn y cwmnïau dŵr yn hytrach na llenwi pocedi buddsoddwyr?
Fodd bynnag, rhaid pwyllo, byddai angen gwneud dadansoddiad manwl (y tu hwnt i gylch gorchwyl yr erthygl hon) yn cymharu buddsoddiad cwmnïau wedi'u preifateiddio a sefydliadau nid-er-elw i ddod i gasgliad mwy cywir.