Skip to main content

Adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.

Mae’r term ‘adnoddau dŵr’ yn golygu dŵr sydd wedi ei gynnwys mewn ffynonellau cyflenwi (dyfroedd mewndirol neu haenau tanddaearol a allai gynnwys dŵr). Mae’r ochr adnoddau dŵr yn cwmpasu’r gyfraith ynglŷn â chadwraeth, casglu, paratoi, defnyddio a gwaredu dŵr i gynnal defnydd pobl a gwarchod ansawdd yr amgylchedd. Mae’n cynnwys rheoli llygredd dŵr a gwarchod a gwella ansawdd dŵr. Yn gyffredinol mae wedi’i ddatganoli ac yn rhan o gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Arolygiaeth Dŵr Yfed

Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed yn rhoi sicrwydd annibynnol fod cyflenwadau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn ddiogel. Ei phrif waith yw gwneud yn siŵr fod cwmnïau dŵr yn cyflenwi dŵr yfed diogel sy’n dderbyniol i gwsmeriaid ac yn cyrraedd safonau cyfreithiol. Mae'r safonau cyfreithiol ar gyfer dŵr yfed yn dod yn uniongyrchol dan gyfraith Ewrop. Gweinidogion Cymru sy’n penodi’r Prif Arolygwr Dŵr Yfed.

Ceir cryn dipyn o ddeddfwriaeth yr UE ym maes ansawdd dŵr. Mae'r gwefan Comisiwn Ewropeaidd yn gynnwys mwy o wybodaeth am gyfraith yr UE ac effaith ymadael â’r UE.

Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Diben y Gyfarwyddeb yw sefydlu fframwaith ar gyfer diogelu dyfroedd wyneb mewndirol (afonydd a llynnoedd), dyfroedd trawsnewidiol (aberoedd), dyfroedd arfordirol a dŵr daear.  Mae'r Gyfarwyddeb yn gofyn am sefydlu ardaloedd basn afon, a chynllun rheoli basn afon ar gyfer pob un o'r rhain a fydd yn cynnwys amcanion a mesurau i'w dilyn ar gyfer yr ardaloedd.

Rhoddir effaith i'r Gyfarwyddeb yng Nghymru yn bennaf drwy’r Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, sy'n gosod swyddogaethau a dyletswyddau amrywiol ar Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru. O ran ardaloedd trawsffiniol fel Basn Gwy, ceir rhwymedigaethau ar y cyd ar gyfer CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd, a Llywodraethau Cymru a'r DU.

Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn ategol at gyfarwyddebau eraill sy’n rheoli’r amgylchedd dŵr. Mae’r rhain yn cynnwys yr Dŵr Gwastraff Trefol a’r Parthau Perygl Nitradau, a fabwysiadwyd, ill dau, ym 1991, a’r  Ansawdd dŵr ymdrochi, a ddiwygiwyd yn 2006.

Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol

Mae’r Gyfarwyddeb hon yn gofyn am gasglu a thrin dŵr gwastraff trefol. Y nod yw gwarchod yr amgylchedd rhag effeithiau andwyol gollyngiadau dŵr gwastraff trefol a gollyngiadau o sectorau diwydiant penodol. Rhoddir effaith i'r Gyfarwyddeb yng Nghymru drwy’r Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994.

Gyfarwyddeb Nitradau

Mae’r Gyfarwyddeb hon yn ei gwneud yn ofyniad i ganfod dŵr sydd wedi ei lygru, neu sydd mewn perygl o gael ei lygru, gan nitradau a dynodi ardaloedd sy’n agored i lygredd nitradau, lle mae rhaglenni gweithredu yn cael eu cynnal i reoli llygredd. Y nod yw gwarchod ansawdd y dŵr drwy rwystro nitradau o ffynonellau amaethyddol rhag llygru dŵr tir a dŵr wyneb a hybu arferion ffermio da. Rhoddir effaith i'r Gyfarwyddeb yng Nghymru drwy’r  Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013.     

Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi

Mae’r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau fonitro ac asesu ansawdd dŵr ymdrochi a rheolaeth traethau, drwy’r hyn a elwir yn broffiliau dŵr trochi. Nod y gyfarwyddeb yw gwarchod iechyd pobl ac ansawdd dŵr. Rhoddir effaith i'r Gyfarwyddeb yng Nghymru drwy’r Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013.

Gyfarwyddeb Dŵr Yfed

Mae'r Gyfarwyddeb hon yn ymwneud ag ansawdd dŵr i’w yfed gan bobl. Ei amcan yw diogelu iechyd pobl rhag effeithiau andwyol unrhyw achos o halogi dŵr i’w yfed gan bobl trwy sicrhau ei fod yn iachus ac yn lân. Rhoddir effaith i'r Gyfarwyddeb yng Nghymru drwy’r Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018 a Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021