Tynnu a chronni dŵr
Mae'r dudalen hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd y cynnwys yn cael ei ddiweddaru cyn bo hir.
Ar y cyfan mae’n anghyfreithlon tynnu dŵr a’i gronni heb drwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Tynnu dŵr yw’r broses o dynnu dŵr o ffynonellau naturiol fel afonydd, llynnoedd a dyfrhaenau. Defnyddir y rhan fwyaf o’r dŵr a dynnir yng Nghymru ar gyfer y cyflenwad dŵr cyhoeddus, gyda thynnu dŵr at ddibenion diwydiannol yn elfen sylweddol. Caiff ei reoleiddio drwy system o drwyddedu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Mae cronni yn golygu creu strwythur mewn dyfroedd mewndirol a allai newid lefel neu lif y dŵr yn barhaol neu dros dro. Mae’r strwythurau yn cynnwys:
- argae
- cored
- ysgol bysgod
- tyrbinau ynni dŵr
- llifddorau
- penstoc
- cwlfert
- clwydi loc
- wal gynnal
- ffos
- arglawdd cronfeydd
- gwyriadau dros dro yn ystod gwaith adeiladu
Rhaid ichi gael trwydded cronni cyn dechrau gwaith ar strwythur cronni dŵr, hyd yn oed mewn argyfwng, os nad oes eithriad mewn grym.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
09 Mehefin 2021