Skip to main content

Cyflwyniad i bwerau

A yw hyn o fewn y pwerau?

Mae angen ystyried mater pwerau pan fydd corff neu sefydliad cyhoeddus yn gwneud unrhyw beth. Boed yn Senedd Cymru yn pasio Deddf neu’n awdurdod cynllunio lleol yn rhoi caniatâd cynllunio, mae’n rhaid i’r sefydliad neu’r corff fod â’r pŵer i allu gwneud hynny. Heb y pŵer byddai cam gweithredu’r sefydliad neu’r corff yn annilys a byddai’n agored i gael ei herio.

Wrth ystyried a all Senedd Cymru basio deddfwriaeth ar fater penodol, rydym yn gofyn a yw’r mater o fewn ei gymhwysedd deddfwriaethol. Ffordd arall yw hyn o ofyn a oes gan Senedd Cymru bŵer i basio deddf ar y mater hwn. Os nad yw Deddf o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, nid yw’r ddeddf sy’n dilyn yn ddeddf ddilys. Am rhagor o wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol ymwelwch a meysydd sydd wediu datganoli.

Yn yr un modd, os yw Senedd Cymru yn rhoi pŵer drwy Ddeddf Senedd Cymru i Weinidogion Cymru neu gorff cyhoeddus, mae eu gweithredoedd wedi’u cyfyngu gan delerau’r pŵer a roddwyd.

Yn ogystal â rhannu pŵer deddfwriaethol, mae’r broses ddatganoli wedi arwain at drosglwyddo llawer o bwerau gweithredol (mewn geiriau eraill, pwerau a roddwyd gan y Senedd i lywodraethu) i Gymru.

Mae yna sawl ffynhonnell o bŵer yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu isod.

Pwerau statudol

At ddibenion ymarferol, dyma’r ffynhonnell o bŵer fwyaf a phwysicaf. Mae’r rhan fwyaf o drefniadau gweinyddu’r llywodraeth a gweinyddu cyhoeddus yn dibynnu ar y defnydd o bwerau statudol i raddau helaeth. Mae pwerau statudol yn cael eu cyflwyno gan Ddeddfau Seneddol DU neu Ddeddfau Senedd Cymru neu Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru blaenorol, a chan is-ddeddfwriaeth mewn rhai amgylchiadau. Mae Senedd y DU a Senedd Cymru yn gosod dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus yn rheolaidd hefyd. Y gwahaniaeth rhwng y ddau, yn syml, yw bod pŵer yn galluogi rhywun i wneud rhywbeth, a dyletswydd yn ei gwneud hi’n ofynnol iddynt wneud rhywbeth.

Mae’r ffaith bod rhai meysydd wedi’u datganoli yng Nghymru yn golygu y gallai pwerau yng Nghymru deillio o fynonellau sy'n wahanol i Loegr:

  • Mae llawer o bwerau statudol yn dal i gael eu cyflwyno’n uniongyrchol ar gyrff cyhoeddus Cymru drwy Ddeddf Senedd y DU. Mae hyn yn wir am feysydd y gyfraith nad ydynt wedi’u datganoli i Gymru. Fodd bynnag, hyd yn oed mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, mae yna bwerau sy’n deillio o Ddeddfau Seneddol oedd yn bodoli’n barod neu o Ddeddfau Seneddol o’r cyfnod cyn datganoli a basiwyd gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd). (Gweler Senedd a Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am sut mae’r Senedd yn dal i ddeddfu ar rai materion datganoledig, a’r defnydd o gynigion cydsyniad deddfwriaethol).
  • Mae nifer cynyddol o bwerau statudol yn deillio o Ddeddfau’r Senedd Cymru a Deddfau a Mesurau blaenorol y Cynulliad, gyd â’r un statws cyfreithiol â Deddfau Seneddol (cyn belled â’u bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol wrth gwrs).
  • Mae pwerau eraill yn deillio o is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan naill ai Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Senedd Cymru, Ddeddf y Cynulliad neu Fesur y Cynulliad. Defnyddiwyd rhai o’r pwerau hyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond ers hynny maent wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru fel rhan o’r broses ddatganoli. (Gweler Datganoli ‘gweithrediaeth’ (1998-2007) i gael rhagor o wybodaeth am sut mae pwerau gweithredol wedi cael eu trosglwyddo i Gymru gan ddefnyddio gorchmynion trosglwyddo swyddogaethau.)

Pŵer y Goron

Mewn perthynas â materion cyfreithiol, mae’r 'Goron' yn cyfeirio at y brenin sy'n teyrnasu yn rhinwedd ei allu fel y sofran, a chanddo awdurdod goruchaf. O dan y gyfraith gyffredin, mae gan y Goron bŵer i wneud popeth y gall person naturiol ei wneud. Er enghraifft, y pŵer i ymrwymo i gontractau, i gyflogi unigolion ac i brynu a gwerthu eiddo. Yn gyffredinol, mae Gweinidogion yn gweithredu’r pwerau hyn ar ran y Goron. Fodd bynnag, mae yna gyfyngiadau ar y ffordd y gall Gweinidogion ddefnyddio’r pwerau hyn. Mae gofyn iddynt hefyd weithredu’r pwerau yn unol â rheolau cyfraith weinyddol, ac os ydynt yn methu dilyn y rheolau hynny gall eu gweithredoedd fod yn destun adolygiad barnwrol gan y llysoedd. Ymwelwch â thudalen rheolau cyfraith weinyddoli i gael rhagor o wybodaeth.

Mae ffynhonnell bŵer hefyd o’r enw yr Uchelfraint Frenhinol. Set o bwerau yw'r Uchelfraint Frenhinol y gellir eu defnyddio gan y Goron (h.y. y Brenin) yn unig. Mae’r pwerau hyn wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd o ganlyniad i gael eu cyfyngu gan statud neu benderfyniadau barnwrol. Mae ffynonellau pŵer Uchelfraint Frenhinol sy’n weddill yn gymharol gyfyng, ac yn cynnwys materion fel pŵer i gyhoeddi rhyfel, pŵer i alw a diddymu’r Senedd a’r pŵer i roi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddfau Seneddol a Deddfau’r Senedd Cymru.

Gall Gweinidogion y DU a’r Alban weithredu pwerau Uchelfraint Brenhinol ar ran y Goron ond o dan y trefniadau cyfansoddiadol cyfredol ni all Gweinidogion Cymru wneud hynny. Fodd bynnag, mae Ei Fawrhydi yn gofyn am gyngor gan y Prif Weinidog ynghylch arfer pwerau Uchelfraint Brenhinol mewn perthynas â Chymru.

Rhoddwyd pŵer eang iawn, fodd bynnag, i Weinidogion Cymru o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud unrhyw beth yr ystyriant sy’n briodol i hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol Cymru.

Ers i Ddeddf Cymru 2017 gael ei phasio, gall Gweinidogion Cymru hefyd gyflawni swyddogaethau gweinidogol gweithredol yn rhinwedd trosglwyddo swyddogaethau o dan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017). Cyfeirir at y swyddogaethau hyn weithiau fel swyddogaethau 'math cyfraith gyffredin', oherwydd maent yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud pethau y gall unigolyn naturiol ei wneud, fel ymrwymo i gontract, cael tir a thynnu gwariant. Fodd bynnag, rhaid i'r swyddogaethau hyn gael eu gweithredu o fewn gallu datganoledig, hynny yw, rhaid i bob swyddogaeth (neu'r weithred o gyflawni'r swyddogaeth mewn modd arbennig) allu cael ei rhoi i Weinidogion Cymru drwy ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan Senedd Cymru.

Pwerau corfforaethol

Mae llawer o gyrff cyhoeddus yn endidau corfforaethol. Mae’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn gorfforaethau statudol, hynny yw corfforaethau a sefydlwyd drwy Ddeddf y Senedd neu Senedd Cymru. Dim ond y pwerau a roddwyd iddo drwy'r Ddeddf sydd gan gorfforaeth statudol, yn cynnwys unrhyw beth sy’n gymharol gysylltiedig â’r pwerau hynny.

Mae rhai cyrff cyhoeddus yn cael eu gwneud yn gorfforaethau drwy Siarter Frenhinol (enghraifft o ddefnyddio’r Uchelfraint Frenhinol). Mae cwmpas pwerau corff a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol wedi’i nodi yn y siarter ei hun. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft o gorff a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol.

Pan fo gan gorff cyhoeddus o’r natur hwn bŵer i greu is-gorfforaeth (e.e. cwmni cyfyngedig drwy warant sydd ag amcanion penodol) mae’r is-gorfforaeth hefyd wedi’i gyfyngu gan y pwerau a roddwyd ar ei riant-gorfforaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
04 Hydref 2023