Skip to main content

Henebion cofrestredig

O dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, mae Gweinidogion Cymru, gan weithredu drwy Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn cynnal a chadw cofrestr o henebion o bwysigrwydd cenedlaethol.

Gall heneb fod fel a ganlyn:

  • adeilad, strwythur, ogof neu gloddion neu weddillion ohonynt; 
  • safle sy'n cynnwys cerbyd, llong, awyren neu strwythur symudol arall neu weddillion ohonynt; neu 
  • unrhyw beth neu grŵp o bethau sy'n tystio i weithgarwch dynol yn y gorffennol.

Mae hyn yn caniatáu cofrestru amrywiaeth eang o safleoedd archeolegol a hanesyddol. Mae rhai wedi eu claddu’n gyfan gwbl o dan y ddaear, a dim ond drwy waith cloddio archeolegol y byddwn yn dod i wybod amdanynt. Mae eraill yn llawer amlycach, ac yn amrywio o feddrodau a bryngeyrydd cynhanesyddol, adfeilion cestyll ac abatai canoloesol, i safleoedd diwydiannol a gweddillion milwrol o’r ugeinfed ganrif. Yn aml mae henebion cofrestredig ar ffurf cloddwaith neu mewn cyflwr adfeiliedig neu led-adfeiliedig. Gellir dod o hyd i'r meini prawf ar gyfer cofrestru henebion yn Atodiad A i Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021