Skip to main content

Apeliadau rheoliadau adeiladu

Os yw ceisydd yn credu bod un o ofynion y Rheoliadau Adeiladu yn rhy llethol, neu'n amhriodol, o fewn amgylchiadau penodol ei gais neu ei waith adeiladu, mae ganddo'r hawl i gwneud cais i awdurdod lleol naill ai i lacio neu i gael gwared ar y gofyniad.

Os bydd yr awdurdod lleol yn gwrthod y cais i lacio neu gael gwared ar y gofyniad, mae gan y ceisydd hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad hwnnw o fewn mis i ddyddiad cael eu hysbysu ohono.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021