Awgrymiadau ar gyfer defnyddio deddfwriaeth
Gall person fod yn darllen deddfwriaeth i ddod o hyd i ateb i gwestiwn penodol, neu i gael gwybod yn fwy cyffredinol pa gyfraith sy'n berthnasol i sefyllfa benodol. Beth bynnag yw'r rheswm, nid yw edrych ar ddeddfwriaeth yn hawdd bob amser, hyd yn oed i gyfreithwyr hyfforddedig. Dyma rai awgrymiadau all fod o gymorth i'r rhai sy'n ceisio ffeindio'u ffordd o gwmpas y 'Llyfr Statud'.
Awgrym 1: Dod o hyd i'r ddeddfwriaeth gywir
Efallai mai'r her gyntaf fydd gwybod pa ddeddfwriaeth i'w darllen. Cofiwch, efallai y bydd angen i chi edrych ar y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is-ddeddfwriaeth er mwyn cael ateb llawn.
Efallai y bydd mwy nag un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol yn berthnasol. Gan ddibynnu ar y pwnc, efallai y bydd angen i chi edrych ar ddeddfwriaeth y DU a deddfwriaeth Cymru, a hyd yn oed ar ddeddfwriaeth yr UE.
Caiff deddfwriaeth ei threfnu a'i rhifo yn gronolegol ac nid oes mynegai o ddeddfwriaeth Cymru (na'r DU) yn ôl pwnc, ond bydd teitl a thudalen gynnwys darn o ddeddfwriaeth yn rhoi syniad bras o'r pwnc dan sylw. Oherwydd bod cymaint o ddeddfwriaeth a perthynas gymhleth yn aml rhwng y gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth, efallai y bydd angen amynedd a dyfalbarhad er mwyn canfod yr holl ddeddfwriaeth sy'n berthnasol.
Awgrym 2: Estyniad a chymhwysiad
Fel rheol mae deddfwriaeth fel arfer yn nodi pa rannau o'r DU y mae'n cael effaith. Mewn geiriau eraill, bydd yn datgan ei bod yn ffurfio rhan o gyfraith rhannau penodedig o'r DU. Mae 'Cymru a Lloegr' yn un rhan o'r DU i'r dibenion hyn, gan fod Cymru a Lloegr yn rhannu system gyfreithiol (neu awdurdodaeth). Y rhannau eraill o'r DU yw'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Os nad yw Deddf Seneddol yn dweud unrhyw beth am ei hestyniad bydd yn oblygedig fel arfer ei bod yn estyn i'r DU gyfan. Mae Deddfau’r (a Mesurau) Senedd i gyd yn estyn i Gymru a Lloegr (a dim ond i Loegr a Chymru y gallant estyn).
Ond gall Deddf hefyd ddweud, naill ai'n ddatganedig neu’n oblygedig, i ba rannau o'r DU y mae'n 'gymwys' iddynt, ac mae hyn yn ddryslyd. Yn yr achos hwn, caiff Cymru ei thrin ar wahân i Loegr. Gall Deddf Seneddol fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, neu mewn perthynas â Lloegr yn unig. Efallai mai dim ond yng Nghymru y bydd rhai rhannau o'r ddeddf yn gymwys, a rhannau eraill yn gymwys i Loegr yn unig, ac yn y blaen. Os nad yw Deddf yn dweud dim am ei chymhwysiad, fel arfer bydd yn oblygedig ei bod yn gymwys i'r DU gyfan (neu i'r cyfan o'r rhannau hynny o'r DU y mae'n estyn iddynt). Dim ond mewn perthynas â Chymru y gall Deddf Senedd Cymru fod yn gymwys, er nad yw hynny o anghenraid yn golygu nad yw'n gallu cael unrhyw effaith y tu allan i Gymru.
Mae'n bwysig iawn felly deall estyniad a chymhwysiad darpariaeth. Er mwyn bod yn gymwys i Gymru, rhaid i'r ddeddfwriaeth 'estyn' i Gymru a Lloegr, a 'chymhwyso' mewn perthynas â Chymru. Mewn Deddf Seneddol mae'r darpariaethau am estyniad i’w gweld tua diwedd prif gorff y ddeddfwriaeth fel arfer, yn union cyn yr Atodlenni (os oes rhai). Gall darpariaethau am gymhwysiad ymddangos drwy'r Ddeddf i gyd yn hytrach na bod wedi eu casglu mewn un lle penodol, a gall fod naill ai'n amlwg (e.e. "Mae'r adran hon yn gymwys i Gymru'n unig") neu’n oblygedig (e.e. adran sy'n sôn am awdurdodau lleol yng Nghymru). Nid yw Deddfau’r Senedd yn cynnwys darpariaethau am eu hestyniad gan mai dim ond i Gymru a Lloegr y gallant estyn ac ar y cyfan nid oes ganddynt ddarpariaethau datganedig am y Ddeddf yn gymwys i Gymru (eto gan mai dim ond mewn perthynas â Chymru y gallant fod yn gymwys).
Awgrym 3: Ydy'r ddeddfwriaeth mewn grym?
Os nad yw Deddf yn nodi dyddiad penodol pan y daeth i rym (neu'n weithredol) bydd wedi dod i rym ar y dyddiad y cafodd Gydsyniad Brenhinol. Fodd bynnag, mae'n gyffredin bod Deddf yn nodi (mewn adran tua diwedd y Ddeddf fel arfer o'r enw 'Cychwyn' neu 'Dod i rym') dyddiad penodol pryd y bydd yn dod i rym a/neu i ddarparu ei bod yn dod i rym ar ddyddiad i'w nodi mewn is-ddeddfwriaeth (y cyfeirir atynt fel 'Gorchmynion Cychwyn'). Yr enw a roddir ar y dyddiad pan ddaw darpariaeth i rym yw ei 'dyddiad cychwyn'.
Gydag is-ddeddfwriaeth mae'r dyddiad y daw i rym wedi'i nodi ar gychwyn yr offeryn statudol.
Gall gwahanol ddarpariaethau o fewn Deddf ddod i rym ar wahanol adegau, ond bydd darn o is-ddeddfwriaeth yn dod i rym i gyd ar yr un pryd fel arfer.
Pan fyddwch yn gwybod beth yw dyddiad cychwyn y ddarpariaeth y mae gennych ddiddordeb ynddi, rhaid i chi wedyn sefydlu a oes unrhyw ddarpariaethau trosiannol i'w hystyried. Er enghraifft, gall bod darpariaethau trosiannol os cafodd y ddeddfwriaeth ei gweithredu i ddisodli neu ei ddiwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ar yr un pwnc. Mae'r darpariaethau trosiannol yn nodi'r amgylchiadau lle mae'r hen ddeddfwriaeth yn dal yn gymwys, a'r amgylchiadau lle mae'r ddeddfwriaeth newydd yn gymwys yn ei lle. Pwrpas arall sydd gan ddarpariaethau trosiannol yw cadw sefyllfa fel y mae - er enghraifft, i sicrhau bod person sydd wedi'i drwyddedu dan gynllun trwyddedu sy'n bodoli eisoes yn parhau i fod wedi'i drwyddedu os bydd deddfwriaeth newydd yn sefydlu cynllun trwyddedu yn ei le.
Os caiff Deddf ei diwygio, bydd y Ddeddf sy'n diwygio yn nodi'r dyddiad y bydd y diwygiadau'n dod i rym (ac eto, efallai y bydd darpariaethau trosiannol yn manylu sut y bydd y diwygiadau'n dod yn weithredol). Am ragor o wybodaeth am ddiwygiadau, gweler Awgrym 4.
Os nad oes angen y ddeddfwriaeth bellach, gall gael ei diddymu (ac felly bydd yn peidio â chael unrhyw effaith). Gall deddfwriaeth gael ei diddymu, er enghraifft, am nad yw bellach yn adlewyrchu polisi'r llywodraeth neu am ei bod yn cael ei disodli gan ddeddfwriaeth newydd. Gall diddymiad effeithio ar ddarn o ddeddfwriaeth yn ei gyfanrwydd, neu fel sy'n briodol, dim ond ar y rhannau hynny o'r ddeddfwriaeth nad oes eu hangen bellach. Mae diddymiad yn cael ei weithredu gan ddarn diweddarach o ddeddfwriaeth fel arfer.
Awgrym 4: Gwyliwch am ddiwygiadau
Wrth ddarllen darn o ddeddfwriaeth, cadwch mewn cof y gall fod wedi'i gael ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth ddiweddarach. Mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn darllen y fersiwn ddiweddaraf. Os oes arnoch angen gwybod beth oedd y ddeddfwriaeth yn ei dweud ar ryw adeg benodol, efallai y bydd angen i chi fynd ati i edrych pryd y daeth y diwygiadau i rym (gan gadw mewn cof unrhyw ddarpariaethau trosiannol - gweler Awgrym 3).
Yn gyffredinol, dim ond Deddf arall sy'n gallu diwygio Deddfau. Fel arfer dim ond gan ddarn arall o is-ddeddfwriaeth a wneir dan yr un Ddeddf y gellir diwygio is-ddeddfwriaeth. Bydd y Ddeddf neu'r is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio yn nodi'r diwygiadau sydd i'w gwneud, fel arfer drwy ddisgrifio'n fanwl iawn pa eiriau sydd i'w dileu neu sydd i'w hychwanegu at y testun gwreiddiol. Pan fydd y Ddeddf neu'r is-ddeddfwriaeth sy'n diwygio yn dod i rym, mae'r pethau a ddilëwyd a'r pethau a ychwanegwyd yn dod yn weithredol yn y ddeddfwriaeth wreiddiol a'r fersiwn ddiwygiedig sy'n dod yn gyfraith o hynny ymlaen.
Mae'n help mawr cael argraffiad wedi'i ddiweddaru o'r ddeddfwriaeth wreiddiol yn ymgorffori'r diwygiadau sydd wedi cael eu gwneud. Yn y DU, hyd yn ddiweddar dim ond gan gyhoeddwyr masnachol am bris yr oedd modd cael gwasanaeth cynhwysfawr yn cyhoeddi deddfwriaeth wedi'i diweddaru. Mae'r sefyllfa'n gwella erbyn hyn yn sgil gwelliannau i wefan yr Archifau Cenedlaethol deddfwriaeth.gov.uk. Mae'r wefan eisoes yn darparu mynediad am ddim i holl ddeddfwriaeth y DU (a Chymru), ond mae gwaith yn mynd yn ei flaen er mwyn sicrhau y bydd y fersiwn ddiweddaraf o bob deddfwriaeth ar gael yn y pen draw. Yn y cyfamser, edrychwch ar y wefan am y blwch gwybodaeth pinc sy'n amlygu a oes diwygiadau wedi eu gwneud i'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei ddangos ond sydd heb eu hymgorffori i'r testun hyd yma (gan olygu y bydd rhaid i chi ymgynghori â'r ddeddfwriaeth diwygio i gael y darlun llawn).
Mae'n werth nodi’r confensiwn rhifo lle mae darpariaethau ychwanegol yn cael eu cynnwys mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes. Caiff adrannau ac is-adrannau mewn deddfwriaeth eu rhifo'n ddilyniannol (1, 2, 3) a defnyddir llythrennau'n ddilyniannol ar gyfer paragraffau (a, b, c). Er mwyn osgoi gorfod ail-rifo darpariaethau sy'n bodoli eisoes, caiff darpariaethau newydd eu mewnosod gyda llythyren ychwanegol. Er enghraifft, byddai is-adran wedi'i hychwanegu rhwng (1) a (2) yn cael y rhif (1A) a byddai paragraff newydd wedi’i ychwanegu cyn (a) yn (za).
Awgrym 5: Ystyriwch unrhyw gyfraith gyffredin berthnasol
Efallai mai mewn cyfraith gyffredin y mae'r ateb rydych yn chwilio amdano, yn hytrach na mewn deddfwriaeth. Hyd yn oed os oes yna ddeddfwriaeth berthnasol, cofiwch y gall fod cyfraith achos ar gael sy'n helpu i esbonio ystyr y ddeddfwriaeth neu ei heffaith. Gall y gyfraith achos ymdrin yn benodol â'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth, neu gall gynnwys datganiadau mwy cyffredinol am sut y dylid dehongli deddfwriaeth.
Er enghraifft, ceir cyfeiriadau’n aml mewn deddfwriaeth at berson sy'n 'preswylio fel arfer' mewn gwlad neu ardal er mwyn i'r gyfraith fod yn gymwys i'r person hwnnw. Gan fod cymhlethdodau niferus ynghylch y cwestiwn a yw rhywun yn preswylio yn rhywle fel arfer, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain wedi cael eu hystyried gan y llysoedd, mae deddfwriaeth yn defnyddio'r term hwnnw heb esboniad pellach, gan ddibynnu ar yr hyn sy'n cael ei ddweud ar y mater yn nedfrydau'r llysoedd yn hytrach na cheisio diffinio'r cysyniad mewn modd sy'n ymdrin â phob posibilrwydd.
Fel gyda chyfraith y DU a Chymru, mae cyfraith achos yn dylanwadu ar ystyr ac effaith cyfraith yr UE hefyd yn yr achos hwn yn deillio o Lys Cyfiawnder Ewrop.
Awgrym 6: Peidiwch â ffocysu'n rhy gyfyng ar ddarpariaethau penodol o fewn darn o ddeddfwriaeth
Efallai y bydd angen i chi darllen y ddeddfwriaeth dan sylw i gyd, neu ran sylweddol ohoni, neu hefyd ddarllen darn arall o ddeddfwriaeth hefyd (gweler Awgrym 6) er mwyn cael ateb llawn. Yn aml bydd angen darllen y Ddeddf gyfan er mwyn cael dealltwriaeth lawn o effaith adran unigol o fewn y Ddeddf honno.
Bydd tudalen gynnwys y ddeddfwriaeth yn dangos beth yw strwythur y ddeddfwriaeth ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r rhannau y mae angen i chi edrych arnynt. Fel arfer mae Deddfwriaeth sylfaenol wedi ei rhannu'n 'Rannau' gyda phob 'Rhan' yn ymdrin â phwnc gwahanol. Caiff 'Rhannau' eu rhannu ymhellach yn 'Benodau' weithiau, ac yn y pen draw yn 'adrannau'. Bydd penawdau'r Rhannau, y Penodau a'r adrannau, ac unrhyw Atodlenni i'r Ddeddf, yn eich helpu i gyrraedd y lle iawn.
Hyd yn oed os yw’n ymddangos bod adran benodol o fewn darn o ddeddfwriaeth yn rhoi eich ateb i chi, cofiwch y gall ystyr yr adran gael ei effeithio gan ddarpariaethau mewn mannau eraill yn yr un ddeddfwriaeth, neu hyd yn oed mewn deddfwriaeth arall. Mae darpariaethau sy’n egluro ystyr gair neu ymadrodd penodol, neu sut y dylid dehongli'r gair neu'r ymadrodd, yn cael eu cynnwys ar ddechrau neu ar ddiwedd y ddeddfwriaeth weithiau (neu ar ddiwedd y Rhan lle mae'r gair neu'r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio), ac efallai na fydd yn hawdd i’w weld bob amser (gweler Awgrym 8).
Cofiwch y gall adran ddarparu rheol gyffredinol, ac y gall bod darpariaethau mewn mannau eraill yn y ddeddfwriaeth sy'n creu eithriadau i'r rheol gyffredinol honno. Yn yr un modd, gall fod darpariaethau eraill sy'n rhoi manylion pellach, gan eich galluogi i gael ateb llawnach.
Mae deddfwriaeth yn cynnwys croesgyfeiriadau’n aml sy'n cyfeirio at rannau eraill o'r un ddeddfwriaeth. Gall y croesgyfeirio ymddangos mewn un adran (adran 1) a chyfeirio at adran wahanol (er enghraifft, 'adran 2' neu 'adran 2(1)'). Mae'r croesgyfeirio'n edrych ychydig yn wahanol os yw'n cyfeirio at ddarpariaeth arall o fewn yr un adran. Er enghraifft, byddai cyfeiriad yn adran 2 ei hun at adran 2(1) yn nodi’n syml 'is-adran (1)'.
Awgrym 7: Efallai y bydd angen i chi gymryd deddfwriaeth arall i ystyriaeth
Weithiau bydd y gyfraith ar bwnc penodol wedi esblygu dros amser, ac fe'i ceir mewn gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth. Gall hyn wneud y gyfraith yn anoddach i'w deall oherwydd bod angen deall sut mae'r gwahanol ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â'i gilydd.
Gall pethau fynd yn anodd iawn os bydd darn diweddarach o ddeddfwriaeth yn gwneud diwygiadau i ddarn cynharach o ddeddfwriaeth (gweler Awgrym 4).
Weithiau bydd darn arall o ddeddfwriaeth yn berthnasol er mwyn penderfynu ar ystyr darpariaeth benodol. Er enghraifft, mae'r Ddeddf Dehongli 1978 a Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gwneud darpariaeth gyffredinol ynghylch ystyr rhai geiriau ac ymadroddion sy'n cael eu defnyddio mewn deddfwriaeth (gweler Awgrym 11). Ar y llaw arall, gall y darn o ddeddfwriaeth rydych yn edrych arno, er mwyn bod yn gryno, ddarparu bod ystyr rhai geiriau yn unol â’r hyn sydd wedi’i bennu mewn darn gwahanol o ddeddfwriaeth. Weithiau mae gan Ddeddfau ar bwnc penodol system o ddehongli geiriau penodol ym mhob un ohonynt, felly er enghraifft pan fydd Deddf wedi'i dynodi (drwy ddarpariaeth o fewn y Ddeddf) yn "un o'r Deddfau Addysg" mae hyn yn golygu y gall y darpariaethau dehongli yn unrhyw un o'r Deddfau Addysg fod yn berthnasol (mae rhestr o'r Deddfau Addysg yn y Ddeddf Addysg 1996).
Mae'n gyffredin i ddeddfwriaeth sy'n creu trosedd nodi swm unrhyw gosb ariannol drwy gyfeirio at lefel ar y 'raddfa safonol' (er enghraifft, 'cosb o swm sy'n gyfwerth â lefel 3 ar y raddfa safonol'). Mae'r dull hwn yn caniatáu i symiau cosbau gael eu hamrywio o bryd i'w gilydd, er enghraifft i adlewyrchu chwyddiant neu newid mewn polisi. Mae angen bod yn ofalus wrth ddehongli unrhyw gyfeiriad at y gosb ariannol all gael ei gosod yn dilyn collfarn ddiannod (hynny yw, euogfarn am drosedd yn y Llys Ynadon), boed ar y ffurf a grybwyllwyd uchod, neu wedi'i fynegi fel swm ariannol. Mae newidiadau'n cael eu cyflwyno gan y Ddeddf Cymorth Gyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 fydd yn cael effaith ar sut mae cyfeiriadau at gosb ariannol yn cael eu dehongli. (Am fanylion y raddfa safonol, gweler adran 37 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982).
Awgrym 8: Talwch sylw gofalus i'r geiriau sy'n cael eu defnyddio
Dylai deddfwriaeth gael ei darllen yn araf ac yn ofalus gan fod pob gair yn bwysig. Eich tasg yw canfod ystyr y geiriau, gan gofio y gall fod cyfraith achos sydd wedi penderfynu ar yr ystyr neu sydd yn effeithio ar yr ystyr mewn ffordd arall.
Efallai y bydd y ddeddfwriaeth yn darparu diffiniad penodol ar gyfer rhai geiriau neu ymadroddion sy'n cael eu defnyddio ynddi, neu’n darparu rheolau ynghylch sut i ddehongli gair neu ymadrodd penodol. Weithiau bydd y diffiniad neu'r rheol ar ddehongli'n cael ei gynnwys yn yr adran lle mae'r gair neu'r ymadrodd yn cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, weithiau bydd yr holl ddiffiniadau a rheolau dehongli wedi eu grwpio gyda'i gilydd mewn un lle, yn aml naill ai ar ddechrau neu ar ddiwedd y ddeddfwriaeth, neu ar ddechrau neu diwedd Rhan o'r ddeddfwriaeth os yw'r geiriau a'r ymadroddion dan sylw yn cael eu defnyddio yn y Rhan honno'n unig.
Cofiwch wirio a yw diffiniad yn berthnasol i’r Ddeddf gyfan, neu dim ond at ddibenion adran neu Ran benodol o'r Ddeddf. Os mai dim ond at ddiben darpariaethau penodol y mae'r diffiniad yn gymwys, byddai'r un gair neu ymadrodd wrth gael ei ddefnyddio mewn man arall yn y Ddeddf yn cadw'i ystyr gyffredin a naturiol (oni bai bod y Ddeddf yn darparu diffiniad gwahanol i'w ddefnyddio'n y fan honno).
Mae'n ddoeth dod yn gyfarwydd ag unrhyw ddiffiniadau neu reolau dehongli perthnasol sydd i’w gweld yn y ddeddfwriaeth cyn cychwyn ar y broses o geisio deall beth yw ystyr rhyw ddarpariaeth neu'i gilydd.
Gall diffiniad wneud un o dri pheth:
- gall ddweud beth yw ystyr y gair neu'r ymadrodd - er enghraifft, "mae 'cerbyd' yn golygu unrhyw ddull cludiant sydd â modur";
- gall ddweud fod y gair neu'r ymadrodd yn cynnwys, neu ddim yn cynnwys, rhywbeth penodol - er enghraifft, "mae 'cerbyd' yn cynnwys cwch"; a
- gall ddweud beth yw ystyr gair neu ymadrodd a dweud ei fod, neu nad yw, yn cynnwys rhywbeth penodol - er enghraifft, "mae 'cerbyd' yn golygu unrhyw ddull cludiant sydd â modur yn cynnwys cwch modur".
Sylwch nad yw'r ail fath o ddiffiniad, yr un sydd ond yn cynnwys neu'n eithrio rhywbeth, yn esboniad llawn o beth yw ystyr y gair neu'r ymadrodd. Caiff y math hwn o ddiffiniad ei ddefnyddio'n aml i egluro a yw pethau penodol yn dod o fewn y diffiniad pe byddai hynny'n aneglur fel arall. Mae'r math cyntaf a'r trydydd math o ddiffiniad, sy'n nodi beth yw ystyr y gair neu'r ymadrodd, yn darparu esboniad llawn (neu 'drwyadl') o'r ystyr.
Os nad yw'r ddeddfwriaeth yn darparu diffiniad neu ddehongliad arbennig ar gyfer gair neu ymadrodd (naill o fewn y ddeddfwriaeth neu o fewn cyfres o Ddeddfau fel y Deddfau Addysg), ac os nad yw'r Ddeddf Dehongli 1978 neu Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn darparu diffiniad neu ddehongliad (gweler Awgrym 11), yna rhaid rhoi ei ystyr arferol a naturiol i'r gair neu'r ymadrodd fel arfer. Os nad yw hyn yn glir, bydd angen i chi ystyried rheolau dehongli statudol (eto gweler Awgrym 11).
Awgrym 9: Talu sylw at gysyllteiriau
Mae cysylltair yn air sy'n cysylltu dau beth. Yn aml bydd deddfwriaeth yn cynnwys rhestr o bethau mewn paragraffau ar wahân, wedi eu rhifo’n (a), (b), (c) ac ati fel arfer. Gallai effaith deddfwriaeth fod yn hollol wahanol gan ddibynnu a yw paragraffau (a), (b) ac (c) wedi eu cysylltu gydag 'a' neu 'neu'.
Nodwch y gwahaniaeth ystyr rhwng yr enghreifftiau canlynol:
“Er mwyn gallu cofrestru, rhaid i berson -
(a) fod yn byw yng Nghymru;
(b) fod yn ddinesydd Prydeinig; a
(c) bod wedi'i gofrestru mewn Aelod Wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd."
“Er mwyn gallu cofrestru, rhaid i berson -
(a) fod yn byw yng Nghymru;
(b) fod yn ddinesydd Prydeinig; neu
(c) fod wedi'i gofrestru mewn Aelod Wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd."
Fel arfer, caiff cysylltair ei gynnwys yn y paragraff olaf ond un yn unig (felly ar ôl paragraff (b) yn yr enghreifftiau uchod). Lle mae hyn yn digwydd, ystyrir bod y cysylltair yn berthnasol i'r holl baragraffau. Weithiau caiff rhestr ei defnyddio, fel yr isod, yn hytrach na defnyddio'r cysylltair 'a':
"Mae'r Ddeddf yn berthnasol yn y mannau canlynol-
(a) cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b) Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c) cyngor cymuned."
Awgrym 10: Datrys anghysondebau
Gall darn o ddeddfwriaeth gynnwys darpariaethau sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos fel petaent yn gwrthdaro â'i gilydd. Yn yr achosion hyn, mae angen i'r ddeddfwriaeth nodi pa ddarpariaeth sy'n cael blaenoriaeth. Gall y geiriau sy'n cael eu defnyddio i wneud hyn fod braidd yn ddryslyd weithiau.
Yn aml bydd darpariaeth sy'n dweud: 'mae adran X yn ddarostyngedig i adran Y', sy'n golygu bod rhaid blaenoriaethu cymhwyso adran Y cyn adran X os oes gwrthdaro.
Mae ffyrdd eraill o fynegi'r syniad bod adran Y yn cael blaenoriaeth dros adran X yn cynnwys dweud fod adran Y yn gweithredu 'er gwaethaf' adran X.
Ni ddylai deddfwriaeth gynnwys darpariaethau sy'n anghyson. Os oes darpariaethau sy'n gwrthdaro, rhaid darllen y ddeddfwriaeth dan sylw fel cyfanwaith er mwyn ceisio deall effaith gyfunol y darpariaethau anghyson. Gall fod angen cael golwg ar reolau dehongli statudol (gweler Awgrym 11) i ddatrys anghysondeb o fewn darn o ddeddfwriaeth neu rhwng dau ddarn o ddeddfwriaeth sy'n gwrthddweud ei gilydd.
Awgrym 11: Mae darllen deddfwriaeth yn broses ddeongliadol
Mae'r cyfreithwyr arbenigol sy'n drafftio deddfwriaeth yn y DU yn gwneud eu gorau i wneud y ddeddfwriaeth mor glir a hawdd ei deall â phosibl. Fodd bynnag, nid yw hi bob amser yn hawdd mynegi rheolau cyfreithiol cymhleth mewn iaith syml. A gall hyd yn oed yr iaith symlaf fod yn amwys weithiau, neu gall fod yn ansicr pa effaith y mae darpariaeth yn ei chael mewn amgylchiadau penodol.
Mae hyn yn golygu na fyddwch o reidrwydd yn deall y geiriau sy'n cael eu defnyddio yn y ddeddfwriaeth ar y darlleniad cyntaf bob amser ac efallai y bydd angen i chi ystyried rhai egwyddorion ar gyfer dehongli statudau er mwyn gallu deall beth yw ystyr y geiriau. Os nad yw personau'n gallu cytuno ar ystyr deddfwriaeth, yn y pen draw mater i'r llysoedd fyddai penderfynu ar yr ystyr. Bydd y llysoedd yn defnyddio rheolau'r gyfraith gyffredin, sef rheolau dehongli statudol, i benderfynu beth yw ystyr deddfwriaeth.
Mae dehongli statudol yn fater cymhleth ac nid oes ymdrech i'w esbonio'n fanwl fan hyn. Fodd bynnag, yn gyffredinol:
- Y man cychwyn yw rhoi'r ystyr gyffredin a naturiol i'r geiriau a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth.
- Os yw rhoi'r ystyr gyffredin a naturiol i'r geiriau yn arwain at ganlyniad afresymol, rhaid rhoi ystyr arall iddynt er mwyn osgoi hynny.
- Os yw'r geiriau a ddefnyddir yn amwys, bydd rhoi sylw i'r 'drygioni’ y bwriadwyd i’r ddeddfwriaeth ar ei gyfer (mewn geiriau eraill, ystyried pa broblem y bwriadwyd i'r ddeddfwriaeth fynd i'r afael â hi) yn gallu helpu i benderfynu pa un o'r ddau dehongliad gwrthgyferbyniol sy'n gywir.
- Wrth benderfynu pa ystyr i roi i eiriau neu wrth ddatrys amwysedd, bydd llys yn ystyried y polisi a'r rhesymeg y tu ôl i'r ddeddfwriaeth. Pwrpas hyn yw ceisio deall pa effaith y mae'r ddeddfwrfa (Senedd y DU neu Senedd Cymru) yn bwriadu i'r ddeddfwriaeth ei chael. Weithiau mae cliwiau i'w gweld yn y ddeddfwriaeth ei hun, efallai yn y teitl a'r penawdau i Rannau ac adrannau'r ddeddfwriaeth, neu mewn darpariaeth trosolwg os oes un. Weithiau bydd y llysoedd yn ystyried deunydd allanol hyd yn oed, megis Nodiadau Esboniadol sy'n cyd-fynd â Deddfau, cofnod trafodion yn y ddeddfwrfa neu adroddiadau pwyllgor a gymerwyd o drafodaethau am fwriad arfaethedig y Ddeddf pan oedd yn cael ei thrafod fel Bil, fel ffordd o ganfod y cyd-destun a'r bwriad y tu ôl i'r ddeddfwriaeth. Os cynhaliwyd proses ymgynghori ar gyfer y Ddeddf, neu fewnbwn arall megis cynigion i ddiwygio gan Gomisiwn y Gyfraith, gallai'r ddogfen ymgynghori neu'r cynigion roi syniad hefyd am y polisi a'r sail resymegol y tu ôl i'r ddeddfwriaeth.
Mae gwybodaeth am bob Deddf Seneddol ar gael ar wefan Senedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys y memorandwm esboniadol sy'n gosod allan y polisi a'r bwriadau tu ôl i'r Ddeddf a nodiadau esboniadol mwy manwl yn disgrifio effaith y ddeddfwriaeth. Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth a wnaed yng Nghymru. Ar gyfer deddfwriaeth y DU mae deunyddiau cefndir, yn cynnwys nodiadau esboniadol ar ddeddfwriaeth, ar gael ar www.gov.uk neu deddfwriaeth.gov.uk.
Awgrym 12: Gall deddfwriaeth arall effeithio ar ystyr darn o ddeddfwriaeth
Mae'n talu i fod yn gyfarwydd â'r Ddeddf Dehongli 1978 a Rhan 2 o Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019. Er enghraifft, mae adran 11 y Ddeddf 1978 honno'n darparu fod gan y geiriau a ddefnyddir mewn is-ddeddfwriaeth yr un ystyr â'r Ddeddf y cafodd yr is-ddeddfwriaeth ei wneud oddi tani, oni nodir fel arall. Mae Atodlen 1 Deddf 1978 yn darparu diffiniadau ar gyfer amryw o eiriau ac ymadroddion. Tybir fod gan y rhain yr un ystyr mewn rhai Deddfau eraill wedyn, oni nodir fel arall. Mae angen bod yn ofalus wrth ddarllen Atodlen 1, oherwydd er bod rhai o'r diffiniadau'n berthnasol i bob Deddf, mae eraill ond yn gymwys i Ddeddfau a basiwyd ar ôl dyddiad penodol (gweler paragraff 4 Atodlen 2 y Ddeddf).
Un o'r ymadroddion sy'n cael ei ddiffinio yn Atodlen 1 yr Ddeddf Dehongli 1978 yw 'Ysgrifennydd Gwladol'. Ym mhob Deddf, mae cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at unrhyw Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid edrych o bryd i'w gilydd ar y Ddeddf Gweinidogion y Goron 1975 a'i his-ddeddfwriaeth cysylltiedig er mwyn canfod pa Weinidogion yw'r Ysgrifenyddion Gwladol. Yr Ysgrifenyddion Gwladol yw'r Gweinidogion hŷn sy'n benaethiaid ar adrannau Llywodraeth ganolog (megis Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg). Mae'r disgrifiadau hyn yn newid o dro i dro o ganlyniad i newidiadau mewn portffolios Gweinidogaethol. Mae angen bod yn ofalus hefyd o fewn cyd-destun Cymreig oherwydd efallai y bydd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol wedi cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru heb i destun y Ddeddf gael ei newid (mae Deddfau a Mesurau’r Senedd yn cyfeirio at Weinidogion Cymru’n unig yn hytrach na'r Ysgrifennydd Gwladol fel arfer).
Gall y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 effeithio ar y dehongliad o ddeddfwriaeth y DU gan fod adran 3 y Ddeddf honno'n galw am ddehongli deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn cael ei ddehongli, cyn belled â bod hynny'n bosibl, mewn ffordd sy'n cyd-fynd â hawliau dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ni fydd Deddf neu Fesur Senedd Cymru yn ddilys os yw'n gwrthdaro â'r hawliau hynny.
Gall adran 154 o'r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 effeithio ar ystyr deddfwriaeth Gymreig. Mae adran 154 yn berthnasol i ddarpariaeth mewn Deddf neu Fesur Seneddol allai gael ei ddarllen mewn modd fel y byddai'r tu allan i gymhwysedd Senedd Cymru (hynny yw, y tu allan i'w bwerau gwneud deddfau). Mae’n berthnasol hefyd i ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wnaed dan Ddeddf neu Fesur Seneddol allai gael ei ddarllen mewn modd fel y byddai'r tu allan i'r pwerau y cafodd ei wneud oddi tanynt. Mae adran 154 yn galw am ddarllen y ddarpariaeth, os yn bosibl, mor gyfyng ag sydd angen er mwyn bod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol, neu o fewn y pwerau.