Skip to main content

Caffael ac adfeddu tir

Mae’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Deddf 1990) yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chaffael, adfeddu, datblygu a gwaredu tir at ddibenion cynllunio.

Mae'r sail statudol sy'n galluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru gaffael tir yn orfodol at bwrpasau cynllunio wedi ei gosod allan yn y Ddeddf 1990.

Mae gan awdurdodau lleol, yn amodol ar awdurdodi gan Weinidogion Cymru, y pŵer i gaffael tir yn orfodol ar gyfer datblygu neu at ddibenion cynllunio eraill. 

Mae Deddf 1990 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i gaffael yn orfodol unrhyw dir sy'n angenrheidiol ar gyfer gwasanaethu'r cyhoedd. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i dir gael ei gaffael lle maent wedi eu bodloni, ar ôl cynnal ymchwiliad lleol, bod yr awdurdod lleol wedi methu â chymryd camau ar gyfer caffael unrhyw dir  a ddylai, yn eu barn hwy, gael ei gaffael gan yr awdurdod hwnnw .

Mae Deddf 1990 yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol gaffael tir trwy gytundeb hefyd ac mae'n cynnwys darpariaethau mewn perthynas â:

  • caffael, gwaredu a datblygu tir sydd wedi'i ddal at ddibenion cynllunio gan awdurdodau lleol;
  • gwaredu tir sy'n cael ei ddal gan Weinidogion Cymru a chafwyd o reidrwydd i wasanaethau cyhoeddus; 
  • cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer gwaredu tir gan awdurdod lleol, y mae ei angen lle mae'r gwaredu ar gyfer ystyriaeth sy'n  “less than the best that can reasonably be obtained” ac eithrio pan fydd y gwaredu yn waredu lês am saith mlynedd neu lai;
  • dileu rhai hawliau sy'n effeithio ar dir a gafodd ei gaffael neu ei adfeddu;
  • cyfansoddiad corff ar y cyd a ffurfiwyd i ddal tir at ddibenion cynllunio.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021