Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddrafftio deddfwriaeth
Mae Swyddfa y Cwnsleriaid Deddfwriaethol, sy'n rhan o Lywodraeth Cymru, yn drafftio deddfau Cymru. Mae cwnsleriaid deddfwriaethol yn gyfreithwyr sy'n arbenigo mewn paratoi deddfwriaeth y bwriedir ei phasio i gyfraith.
Mae'r Drafftio deddfau i Gymru: canllaw, yn nodi'r prif egwyddorion a thechnegau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymhwyso i ddrafftio deddfwriaeth.
Datrysiadau deddfwriaethol cyffredin: canllaw i ymgodymu â materion polisi cylchol mewn deddfwriaeth wedi'i ddylunio i helpu swyddogion polisi o fewn Llywodraeth Cymru i ddelio â rhai materion polisi sy'n digwydd yn aml yr ymdrinnir â hwy trwy fabwysiadu datrysiad deddfwriaethol sy'n digwydd yn aml.
Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
07 Medi 2022