Skip to main content

Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru

Sefydlwyd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gorff corfforaethol gyda’r swyddogaethau o gynnal adolygiadau a gwneud cynigion ar gyfer newidiadau ym meysydd llywodraeth leol yng Nghymru. Ailenwyd y corff yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ('y Comisiwn') gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (LGDWA 2013).

Mae’r Comisiwn yn cynnwys aelod gadeirydd, is aelod gadeirydd a dim mwy na thri aelod arall. Penodir yr aelodau gan Weinidogion Cymru. Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif swyddog gweithredol a gall gyflogi staff. Gall hefyd gyflogi cynorthwyydd arbenigol er mwyn ymarfer ei swyddogaethau, a chomisiynydd cynorthwyol er mwyn dirprwyo swyddogaethau iddo. Ariennir y Comisiwn gan Weinidogion Cymru.

O dan LGDWA 2013, rhaid i’r Comisiwn fonitro’r meysydd a’r trefniadau etholiadol sy’n berthnasol i lywodraeth leol yng Nghymru at ddibenion ystyried a yw’n briodol gwneud neu argymell newidiadau. Wrth gyflawni’r ddyletswydd honno, rhaid i’r Comisiwn gyflawni adolygiadau yn unol â gofynion LGDWA 2013, o dan unrhyw ddeddfiad arall neu fel arall fel y bo’n briodol. Gall Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo’r Comisiwn i gyflawni adolygiad.

Mae cyfeiriad at 'drefniadau etholiadol' prif ardal yn cyfeirio at:

  • nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal;
  • nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol y rhannwyd y brif ardal ar y pryd er mwyn ethol aelodau;
  • nifer yr aelodau i’w hethol ar gyfer pob ward etholiadol mewn prif ardal;
  • enw pob ward etholiadol.

Gall y Comisiynydd hefyd gynnal adolygiad o ffiniau prif ardal, ffiniau cymuned, siroedd a gadwyd (ardaloedd a ddefnyddir at ddibenion seremonïol uchel siryf a rhaglaw) a ffiniau atfor. Gall Gweinidogion Cymru hefyd gyfarwyddo’r Comisiwn i gynnal adolygiad o aelodaeth un neu ragor o gyrff cyhoeddus cymwys penodedig.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021