Cyfansoddiad awdurdodau tân ac achub
Sefydlwyd y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru gan dri gorchymyn (y Gorchymyn Gwasanaethau Tân Gogledd Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995, y Gorchymyn Gwasanaethau Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995 a'r Gorchymyn Gwasanaethau Tân De Cymru (Cynllun Cyfuno) 1995, cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel y gorchmynion cyfunol).
Mae’r gorchmynion cyfunol yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfansoddiad pob awdurdod a phenodiad ei aelodau. Penodir aelodau gan y cynghorau sir neu fwrdeistref sirol cyfansoddol o blith eu haelodau etholedig eu hunain. O dan y gorchmynion cyfunol nid oes gan yr un awdurdod fwy na 25 o aelodau ond mae hynny’n amodol ar ofyniad bod yn rhaid i bob cyngor cyfansoddol benodi aelodau gan ystyried eu poblogaeth gymharol. Mae nifer yr aelodau sy’n cynrychioli pob cyngor cyfansoddol felly yn gymesur â nifer yr etholwyr llywodraeth leol yn ei ardal ac mae hyn yn golygu y gallai fod yn fwy na 25 o aelodau. Mae’n rhaid i’r awdurdod cyfun ethol cadeirydd, a gall ethol is-gadeirydd, o blith ei aelodau.
Mae ymddygiad aelodau awdurdodau tân ac achub yn cael ei reoli gan yr egwyddorion sydd yn Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001, a wnaed o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. O dan y Ddeddf honno, mae’n ofynnol hefyd i awdurdodau tân ac achub sefydlu pwyllgor safonau.
Mae’r rhan fwyaf o ddarpariaethau Rhan 1 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 sy’n ymwneud ag aelodau a staff awdurdod lleol yn berthnasol hefyd i’r awdurdodau tân ac achub cyfunol yng Nghymru, gan eu bod yn cael eu cynnwys o fewn y diffiniad o ‘awdurdod lleol’ at y dibenion hynny. Mae Rhan 5A o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n ymwneud â mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd a dogfennau, yn berthnasol i’r awdurdodau tân ac achub cyfunol yng Nghymru fel pe baent yn brif gynghorau. Mae’n ofynnol i bob awdurdod cyfunol gael prif swyddog ariannol a swyddog monitro.
Mae'r awdurdodau cyfun yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth llywodraeth leol mwy cyffredinol yn ogystal â darpariaethau'r gorchymyn cyfunol perthnasol.