Skip to main content

Datganoli ‘gweinyddol’ (cyn 1998)

Dechreuodd y broses o ddatganoli rhywfaint o rym i Gymru yn y cyfnod modern gyda rhai swyddogaethau gweinyddol cyfyngedig llywodraeth yn cael eu trosglwyddo i Gymru o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Cafodd Cyngor Cymru a Mynwy ei sefydlu ym 1949 er mwyn cynghori Llywodraeth y DU ar faterion o ddiddordeb Cymreig, a chafodd swydd Gweinidog Materion Cymreig ei chreu ym 1951.

Y datblygiad pwysicaf yn ystod y cyfnod hwn o ddatganoli gweinyddol oedd creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru (fel aelod o Gabinet Llywodraeth y DU) a sefydlu’r Swyddfa Gymreig ym 1964. O 1964 ymlaen, felly, roedd penderfyniadau o bwys yn ymwneud â’r modd yr oedd Cymru’n cael ei rhedeg yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd penderfyniadau a wnaed yng Nghymru yn cael eu gwneud ar ran Llywodraeth y DU, a oedd yn rheoli'r hyn oedd yn cael ei wneud a'r hyn nad oedd yn cael ei wneud. Oherwydd hyn, cyfeirir at y cyfnod hwn weithiau fel un o ddatganoli ‘gweinyddol’. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
17 Mehefin 2021