Skip to main content

Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

Sefydlodd y Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 y Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ar y pryd) fel sefydliad corfforaethol. I bob diben felly, roedd yn weithrediaeth ddatganoledig (hynny yw, roedd yn llywodraeth) i Gymru, yn hytrach nag yn ddeddfwrfa yn ystyr draddodiadol y gair hwnnw.

Bu'r Ddeddf yn gyfrwng i drosglwyddo swyddogaethau gweithredol (hynny yw, pwerau a dyletswyddau) mewn meysydd megis amaethyddiaeth, diwylliant, datblygu economaidd, addysg, iechyd, tai, llywodraeth leol, gwasanaethau cymdeithasol a chynllunio o Lywodraeth y DU, er mwyn i’r Cynulliad Cenedlaethol (ar y pryd) ddod yn gyfrifol am eu cyflawni mewn perthynas â Chymru.

Wedyn, cyflawnwyd deddfwriaeth bellach (sef Gorchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau) o dan GoWA 1998 er mwyn trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru nifer fawr o swyddogaethau gweithredol yn y meysydd uchod. Roedd y swyddogaethau hyn yn cynnwys gwneud rheoliadau, rheolau a gorchmynion a rhoi cymorth ariannol. Y prif orchymyn trosglwyddo swyddogaethau oedd y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Sefydlodd GoWA 1998 Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru hefyd (cyflawnir y swyddogaeth olaf gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bellach).

Rhoddodd GoWA 1998 hefyd y pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru ad-drefnu rhai sefydliadau cyhoeddus penodol yng Nghymru. Er enghraifft, diddymwyd Awdurdod Datblygu Cymru, a throsglwyddwyd ei swyddogaethau i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy orchymyn a wnaed gan y Cynulliad o dan GoWA 1998. Gelwir Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn Senedd Cymru.

Diddymwyd y rhan fwyaf o GoWA 1998 gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, er bod rhai darpariaethau’n parhau mewn grym am resymau technegol.

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
24 Mehefin 2021