Skip to main content

Cyfraith etholiadol - beth sydd wedi ei ddatganoli?

Mae peth o'r cynnwys ar y tudalennau hyn yn cael ei adolygu a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.

Mae'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan y Deddf Cymru 2017 yn golygu bod gan Senedd Cymru gymhwysedd deddfwriaethol sy'n ymwneud ag elfennau penodol o etholiadau i Senedd Cymru yn ogystal â llywodraeth leol yng Nghymru a refferenda.  

Yn yr un modd, mae Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 yn darparu bod swyddogaethau penodol Gweinidogion y DU o dan ddeddfiadau etholiadol bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (yn hytrach na chan Weinidog y DU) yn y modd a nodir yn y Gorchymyn hwnnw.

Mae Llywodraeth a Senedd y DU yn parhau i fod yn gyfrifol am etholiadau a refferenda a neilltuwyd (er enghraifft, etholiadau seneddol ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu).

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
23 Mehefin 2021