Llinellau amser ar gyfer etholiad
Mae peth o'r cynnwys ar y tudalennau hyn yn cael ei adolygu a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.
Etholiadau llywodraeth leol
Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 yn pennu'r llinellau amser ar gyfer etholiadau sirol a bwrdeistref sirol. Mae Rheol 1 yn amlinellu'r canlynol:
| 
			 Trafodion   | 
			
			 Amser   | 
		
| 
			 Cyhoeddi hysbysiad o etholiad  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach ma'r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad  | 
		
| 
			 Cyflwyno papurau enwebu  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad   | 
		
| 
			 Cyhoeddi datganiad o ran y personau a enwebwyd  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad  | 
		
| 
			 Cyflwyno hysbysiadau ynghylch tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl   | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y pedwerydd diwrnod cyn diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad   | 
		
| 
			 Hysbysiad o bleidlais  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na'r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad   | 
		
| 
			 Pleidleisio  | 
			
			 Rhwng saith o'r gloch yn y bore a deg o'r gloch yn y nos ar ddiwrnod yr etholiad   | 
		
Mae Rheol 1 o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 yn pennu'r un amserlen ar gyfer etholiadau cynghorau tref a chymuned.
Bydd y llinell amser uchod yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol cyffredin ac isetholiadau.
Etholiadau Senedd Cymru
Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 yn pennu'r llinellau amser ar gyfer etholiadau Senedd Cymru. Mae Rheol 1 (yn Atodlen 5) yn amlinellu'r canlynol:
| 
			 Trafodion   | 
			
			  Amser   | 
		
| 
			 Cynhoeddi hysbysiad o etholiad  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na'r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad  | 
		
| 
			 Cyflwyno papurau enwebu  | 
			
			 Rhwng deg o'r gloch yn y bore a phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar unrhyw ddiwrnod yn dilyn dyddiad cyhoeddi hysbysiad o etholiad ond heb fod yn hwyrach na'r pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad   | 
		
| 
			 Cyhoeddi datganiad o ran y personau a enwebwyd  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad  | 
		
| 
			 Cyflwyno hysbysiadau ynghylch tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl  | 
			
			 Heb fod yn hwyrach na phedwar o'r gloch yn y prynhawn ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad   | 
		
| 
			 Hysbysiad o bleidlais  | 
			
			 Gyda chyhoeddi datganiad o ran y personau a enwebwyd (Rheol 32)   | 
		
| 
			 Pleidleisio  | 
			
			 Rhwng saith o'r gloch yn y bore a deg o'r gloch yn y nos ar ddiwrnod yr etholiad  | 
		
Dylid nodi mai'r rhain yw'r amserlenni gofynnol. Gall hysbysiad o bleidlais gael ei gyhoeddi yn gynt o lawer. Gall y gwaith paratoi ar gyfer etholiad ddigwydd yn gynt o lawer na'r uchod hefyd er enghraifft os oes angen argraffu papurau pleidleisio neu os oes angen dewis ymgeiswyr ar gyfer pleidiau gwleidyddol. 
