Skip to main content

Swyddogion etholiadol

Mae peth o'r cynnwys ar y tudalennau hyn yn cael ei adolygu a byddant yn cael eu diweddaru cyn bo hir.

Mae llawer o rolau sy'n cyfrannu at y gwaith o gynnal etholiad neu refferendwm. Mae'r tudalennau hyn yn ymdrin â rôl y swyddog cofrestru etholiadol a'r swyddog canlyniadau.

Y swyddog cofrestru etholiadol

Mae cofrestru etholwyr yn swyddogaeth etholiadol barhaol a pharhaus yn y DU, sy'n cael ei chyflawni gan swyddog a elwir yn "swyddog cofrestru etholiadol". Y swyddog cofrestru etholiadol sy'n cadw cofrestri etholiadol ac yn gweinyddu trefniadau pleidleisiau absennol. Mae hon yn dasg sydd ar waith drwy gydol y flwyddyn, a'r swyddog cofrestru etholiadol a'i staff yw cyflogeion etholiadol parhaol awdurdod lleol.  

Mae'r Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Deddf 1983) yn gosod y sylfeini ar gyfer rheoli cofrestriadau etholiadol. Mae Adran 8(2A) yn darparu ar gyfer penodi swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru yn ôl sir a chyngor bwrdeistref sirol.  Yn aml, prif weithredwr y cyngor sy'n cael ei benodi fel ei swyddog cofrestru etholiadol, ond nid yw hyn yn angenrheidiol.  

Mae Adran 9 o'r Ddeddf 1983 yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion cofrestru etholiadol gadw cofrestri etholiadol, a nodir eu cynnwys craidd yn yr adran hon.  

Mae gan y Comisiwn Etholiadol y pŵer i osod safonau perfformiad ar gyfer swyddogion cofrestru etholiadol o dan adran 9A o'r Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. 

Rhagor o wybodaeth am gofrestru

Y swyddog canlyniadau - penodi

Rôl y swyddog canlyniadau yw sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu'n effeithiol a bod profiad pleidleiswyr ac ymgeiswyr etholiad yn un cadarnhaol o ganlyniad i hyn.

Mae swyddogion canlyniadau yn gyfrifol am y canlynol:

  • cyhoeddi'r hysbysiad etholiad
  • gweinyddu'r broses enwebu 
  • argraffu'r papurau pleidleisio 
  • cyhoeddi'r hysbysiad pleidleisio, datganiad o'r unigolion a enwebwyd a hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio 
  • darparu gorsafoedd pleidleisio
  • penodi llywyddion a chlercod pleidleisio 
  • rheoli'r broses bleidleisio drwy'r post 
  • dilysu a chyfri'r pleidleisiau 
  • cyhoeddi'r canlyniad

Etholiadau llywodraeth leol

O ran etholiadau llywodraeth leol, mae adran 35(1A) o'r Ddeddf 1983 yn gofyn i gyngor pob sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru benodi swyddog o'r cyngor i fod yn swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau cynghorwyr:

  • sir neu fwrdeistref sirol 
  • cymuned o fewn y sir neu'r fwrdeistref sirol

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi pwy sy'n gorfod ymgymryd â rôl y swyddog canlyniadau.  Yn ymarferol, mae'r mwyafrif o awdurdodau yng Nghymru yn penodi eu prif weithredwyr fel y swyddog canlyniadau.

Gall swyddogion canlyniadau benodi un neu ragor o ddirprwyon i gyflawni rhai o'u swyddogaethau, os nad hwy i gyd, gweler adran 35(4) o'r Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

Etholiadau Senedd Cymru

Mae'r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (Gorchymyn 2007) yn nodi yn erthygl 18(2) mai'r swyddog canlyniadau etholaethol mewn etholiadau i Senedd Cymru yw'r sawl a benodwyd fel y swyddog canlyniadau ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol yn yr ardal honno. Mewn etholaeth sy'n cynnwys mwy nag un awdurdod, Gweinidogion Cymru sy'n dynodi'r swyddog canlyniadau etholaethol.  

Mae Erthygl 18(3) o'r Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 hefyd yn nodi y caiff Swyddog  Canlyniadau Rhanbarthol ei benodi ar gyfer pob ardal gyfrif o fewn rhanbarth etholiadol. Y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yw'r sawl sydd wedi ei benodi fel y Swyddog Canlyniadau ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol yn yr ardal honno.  Mewn etholaeth sy'n cynnwys mwy nag un awdurdod, Gweinidogion Cymru sy'n dynodi'r swyddog canlyniadau rhanbarthol.

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn nodi pwy sy'n gorfod ymgymryd â rolau'r swyddog canlyniadau etholaethol a'r swyddog canlyniadau rhanbarthol.  Yn ymarferol, prif weithredwr awdurdod lleol sy'n ymgymryd â rolau'r swyddog canlyniadau etholaethol a'r swyddog canlyniadau rhanbarthol.

Gall swyddogion canlyniadau benodi un neu ragor o ddirprwyon i gyflawni rhai o'u swyddogaethau, os nad hwy i gyd, gweler erthygl 20(1) o Orchymyn 2007.  

Y swyddog canlyniadau – perfformiad

Mae gan y Comisiwn Etholiadol y pŵer i osod safonau perfformiad ar gyfer swyddogion canlyniadau o dan adran 9A o'r Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda  2000.  

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn darparu canllawiau ac adnoddau defnyddiol ar gyfer swyddogion canlyniadau hefyd.  

Ar gyfer gywbodaeth am:

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
22 Mehefin 2021