Comisiwn y Gyfraith
Mae Comisiwn y Gyfraith (Cymru a Lloegr) yn chwarae rhan bwysig yn ein system gyfreithiol. Ei bwrpas yw cadw'r gyfraith dan adolygiad ac argymell diwygio lle bo'r angen. Mae hyn yn cynnwys:
- ceisio sicrhau bod y gyfraith yn deg, yn fodern, yn syml ac mor gost-effeithiol â phosibl,
- cynnal ymchwil ac ymgynghoriadau er mwyn gwneud argymhellion i ddiwygio’r gyfraith, a
- datblygu cynigion i gydgrynhoi cyfraith bresennol i ffurf mwy hygyrch a modern, ac i ddiddymu cyfreithiau anarferedig.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff statudol a chafodd ei greu gan y Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965. Er ei fod yn cael ei noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'n gorff ymgynghorol sy'n annibynnol o'r llywodraeth. Rhaid i bennaeth y Comisiwn fod yn farnwr, naill ai barnwr yr Uchel Lys neu farnwr y Llys Apêl, a rhaid i'w bedwar comisiynydd arall naill ai fod mewn swydd farnwrol, bod â hawliau gwrandawiad yn y llysoedd neu addysgu'r gyfraith mewn prifysgol.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gorff dylanwadol, ac fel arfer mae mwyafrif ei argymhellion yn cael eu derbyn gan y llywodraeth gyda'r gyfraith yn cael ei newid yn unol â hynny. Mae protocol yn llywodraethu sut dylai adrannau’r llywodraeth a Chomisiwn y Gyfraith weithio gyda’i gilydd ar brosiectau diwygio’r gyfraith. Mae protocol yn allweddol i sicrhau perthynas waith gynhyrchiol rhwng Comisiwn y Gyfraith a’r llywodraeth. Rhan ganolog o’r protocol yw cyhoeddi adroddiad blynyddol gan y llywodraeth yn nodi cynnydd o ran gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith, ac yn esbonio’r rhesymau pam nad yw rhai argymhellion wedi cael eu dwyn ymlaen.
Er y gall y gyfraith fod yn wahanol yng Nghymru a Lloegr (ac yn fwyfwy felly ers datganoli), mae Cymru a Lloegr er hynny'n rhannu un system cyfraith. Mewn geiriau eraill mae Cymru a Lloegr yn un awdurdodaeth gyfreithiol. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, ar y llaw arall, eu hawdurdodaethau cyfreithiol ar wahân eu hunain, ac i adlewyrchu hyn, ceir Comisiwn Cyfraith yr Alban a Chomisiwn y Gyfraith ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Mae Comisiwn y Gyfraith yn gwneud gwaith diwygio’r gyfraith mewn tair gwahanol ffordd. Yn gyntaf, o bryd i'w gilydd mae Comisiwn y Gyfraith yn llunio rhaglen ffurfiol o ddiwygio cyfraith. Mae'n ymgynghori'n helaeth cyn penderfynu pa feysydd cyfraith i weithio arnynt. Mae'r Deddf Comisiynau'r Gyfraith 1965 yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Gyfraith gyflwyno "rhaglenni i archwilio gwahanol ganghennau o'r gyfraith" i'r Arglwydd Ganghellor (aelod hŷn o Lywodraeth y DU a phennaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder) i dderbyn ei gymeradwyaeth cyn cychwyn ar waith newydd. Bydd Comisiwn y Gyfraith wedyn yn ystyried a oes angen diwygio'r gyfraith yn y meysydd hynny ac yn cynhyrchu adroddiad yn cynnwys argymhellion ac weithiau Bil drafft i weithredu'r argymhellion hynny. Yn ail, bydd Comisiwn y Gyfraith yn cynnal prosiectau diwygio’r gyfraith sy’n cael eu cyfeirio ato gan Weinidogion y llywodraeth. Pan fydd prosiectau fel hyn yn cael eu cynnal, caiff Memorandwm Dealltwriaeth ei gytuno rhwng Comisiwn y Gyfraith ac adran briodol y llywodraeth sy’n egluro amcanion eang y prosiect diwygio, a’r cerrig milltir allweddol y bydd yn eu cyflawni. Yn olaf, mae Comisiwn y Gyfraith yn gwneud gwaith diwygio cyfraith statud drwy gynnig adalw statudau nad oes defnydd ymarferol iddynt bellach neu drwy wneud deddfwriaeth yn fwy hygyrch drwy gynnig cydgrynhoi gwahanol statudau yn un darn o ddeddfwriaeth.
Wrth wneud ei holl waith, mae Comisiwn y Gyfraith yn gosod pwyslais mawr ar ymchwil drylwyr ac ymgynghori helaeth gyda’r rhai sydd â cysylltiad â, neu sy’n cael eu heffeithio gan, y maes cyfraith y mae’n ystyried ei ddiwygio. Mae Comisiwn y Gyfraith yn ystyried effaith economaidd ei gynigion i ddiwygio hefyd.
Comisiwn y Gyfraith a Chymru
Gall prosiectau a chynigion Comisiwn y Gyfraith ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli neu a gedwir yn ôl. Mae'r Ddeddf Cymru 2014 wedi gwneud newidiadau i'r Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965 sy'n adlewyrchu pwerau Senedd Cymru i wneud deddfwriaeth sylfaenol i Gymru ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfeirio prosiectau at Gomisiwn y Gyfraith yn uniongyrchol, yn ddigon tebyg i’r hyn y gallai Gweinidogion Llywodraeth y DU ei wneud yn barod.
Er mwyn rheoli prosiectau o’r fath, mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Gyfraith wedi cytuno ar brotocol, yn debyg i’r un a ddisgrifir uchod gyda Llywodraeth y DU, i reoli’r berthynas waith rhwng Comisiwn y Gyfraith a Llywodraeth Cymru pan fydd y Comisiwn yn ymgymryd â phrosiectau sy'n berthnasol i faterion sydd wedi eu datganoli yng Nghymru. Rhaid cael cymeradwyaeth yr Arglwydd Ganghellor ar gyfer protocol o’r fath.
Mae'r newid yn y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ynghylch sut y maent wedi ymdrin â chynigion Comisiwn y Gyfraith i'r graddau y maent yn ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli yng Nghymru. Felly mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ymateb i unrhyw argymhellion sy'n cael eu gwneud gan Gomisiwn y Gyfraith mewn perthynas ag:
- unrhyw fater fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru; ac
- unrhyw faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau sydd wedi cael eu datganoli i Weinidogion Cymru, i Brif Weinidog Cymru, i'r Cwnsler Cyffredinol neu i Gomisiwn y Senedd.
Dan y broses hon, os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwrthod cynnig gan Gomisiwn y Gyfraith i ddiwygio cyfraith, rhaid iddynt roi rhesymau dros wneud hynny.
Mae llawer o ddarpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Iechyd (Cymru) 2016 yn deillio o argymhellion Comisiwn y Gyfraith.