Cyflwyniad i gyfraith hawliau dynol
‘Hawliau dynol’ yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at hawliau a rhyddid penodol sydd mor bwysig fel eu bod wedi’u diogelu’n arbennig dan y gyfraith. Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol (ECHR) yw’r cytuniad rhyngwladol sy’n gwarchod hawliau dynol yn Ewrop. Roedd y Deyrnas Unedig gyda’r cyntaf i ymuno â’r Confensiwn pan ddaeth i rym ym 1953. Roedd unrhyw un a deimlai bod eraill wedi torri eu hawliau dynol dan y Confensiwn yn gallu gwneud cais i Lys Hawliau Dynol Ewrop gynnal y gyfraith.
Cafodd yr hawliau dynol hynny eu hymgorffori’n uniongyrchol i gyfraith y DU gan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (Deddf 1998). Mae hyn yn golygu bod pobl yn gallu mynnu eu hawliau dynol yn llysoedd y DU, yn hytrach na gorfod mynd gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae’r DU wedi cytuno i’r rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r hawliau dynol sydd wedi’u diogelu dan y Comisiwn. Roedd y Ddeddf Hawliau Dynol 1988 yn ymgorffori’r hawliau hynny yr oedd y DU wedi cytuno iddynt, yng nghyfraith y DU. Gelwir yr hawliau hyn yn ‘hawliau’r Confensiwn’ - a chyfeirir atynt yn gyffredinol trwy gyfeirio at Erthygl berthnasol y Confensiwn dan sylw, sef:
- Yr hawl i fywyd (Erthygl 2)
- Yr hawl i fod yn rhydd rhag artaith neu driniaeth neu gosb annynol neu ddiraddiol (Erthygl 3)
- Yr hawl i fod yn rhydd rhag caethwasanaeth neu gaethiwed, neu’n gorfod cyflawni llafur dan orfod neu’n orfodol (Erthygl 4)
- Yr hawl i ryddid a diogelwch (Erthygl 5)
- Yr hawl i gael treial teg, a chael eich tybio’n ddieuog hyd oni phrofir chi’n euog (Erthygl 6)
- Yr hawl i beidio â chael eich cosbi ac eithrio dan gyfraith troseddol (Erthygl 7)
- Yr hawl i barch i fywyd preifat a theuluol (Erthygl 8)
- Yr hawl i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd (Erthygl 9)
- Yr hawl i ryddid mynegiant (Erthygl 10)
- Yr hawl i ymgynnull ac ymgysylltu’n rhydd ag eraill (Erthygl 11)
- Yr hawl i briodi a sefydlu teulu (Erthygl 12)
- Yr hawl i fod yn rhydd rhag gwahaniaethu ar unrhyw sail, gan gynnwys rhyw, hil, lliw, iaith, crefydd, gwleidyddiaeth neu farn arall, tras genedlaethol neu gymdeithasol, cysylltiad â lleiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth neu statws arall (Erthygl 14)
- Yr hawl i fwynhau meddiannaeth yn heddychlon (Erthygl 1, Protocol 1)
- Yr hawl i addysg (Erthygl 2, Protocol 1)
- Yr hawl i etholiadau rhydd (Erthygl 3, Protocol 1)
- Yr hawl i beidio â chael y gosb eithaf (Erthygl 1, Protocol 13)
Mae’r Ddeddf yn gweithio trwy ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus (gan gynnwys y llywodraeth) barchu a diogelu’r hawliau hyn ym mhopeth a wnânt. Os byddant yn methu â gwneud hynny, gallant gael eu herio gan y llysoedd.
Mae’r rhan fwyaf o hawliau’r Confensiwn, o’u natur, yn perthyn i bobl yn unig. Ond nid yw hyn yn wir am bob un, mae’r hawl i fwynhau meddiannaeth yn berthnasol i bersonau naturiol (bodau dynol) a phersonau cyfreithiol (fel cwmnïau).
Mae rhai o hawliau’r Confensiwn yn absoliwt (cysegredig) – fel yr hawl i beidio â chael y gosb eithaf. Gall hawliau eraill y Confensiwn gael eu gwrthwneud dan amgylchiadau penodol – er enghraifft, sicrhau nad yw’r hawl i ryddid a diogelwch yn cael ei dorri pan fo rhywun wedi’i garcharu’n anghyfreithlon am gyflawni trosedd, a gallai’r hawl i ryddid mynegiant fod yn destun cyfyngiadau er budd diogelwch gwladol neu ddiogelwch y cyhoedd.
Gall y DU ‘ymeithrio’ o (datgymhwyso mewn amgylchiadau penodol) rai (ond nid y cyfan) o hawliau’r Confensiwn adeg rhyfel neu argyfwng cyhoeddus arall. Nid oes ymeithriadau mewn grym ar hyn o bryd, ond mae’r DU wedi defnyddio’r dull hwn yn y gorffennol er mwyn gallu creu pwerau uwch o arestio a chadw rhai sydd dan amheuaeth o fod yn derfysgwyr (mewn ymateb i stad o argyfwng wedi ymosodiad terfysgol 9/11 yn Efrog Newydd).
Mae HRA 1998 yn sicrhau bod hawliau’r Confensiwn yn berthnasol ac yn orfodol yn DU fel a ganlyn:
- Rhaid i lys neu dribiwnlys sy’n penderfynu ar gwestiwn am hawliau’r Confensiwn ystyried unrhyw benderfyniadau perthnasol gan Lys Hawliau Dynol Ewrop.
- Cyhyd ag y bo modd, rhaid i ddeddfwriaeth y DU gael ei darllen a’i chymhwyso mewn ffordd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn. Os nad yw hyn yn bosibl, gall llys wneud datganiad anghydnawsedd. Pan wneir datganiad anghydnawsedd, gall unrhyw Weinidog y Goron wneud gorchymyn sy’n diwygio’r ddeddfwriaeth fel ei bod yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn os yw ef neu hi’n ystyried bod rhesymau grymus dros wneud hynny.
- Mae’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus weithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn (oni bai bod geiriad y ddeddfwriaeth sylfaenol yn golygu na allai weithredu’n wahanol, ac oni bai ei fod yn gweithredu yn y modd hwnnw er mwyn rhoi deddfwriaeth anghydnaws mewn grym).
Hawliau dynol yn y Gymru ôl-ddatganoledig.
Mae unrhyw ddarpariaeth yn Neddf y Senedd (neu Fesur) sy’n anghydnaws â hawliau’r Confensiwn y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Mae hyn yn golygu y byddai darpariaeth o’r fath yn annilys a heb rym (gweler adran 108(2) a'r cyfyngiad yn 108A(2)(e) o’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).
Nid oes gan Weinidogion Cymru rym i wneud, cadarnhau neu gymeradwyo unrhyw is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw ddeddf arall, cyhyd ag y bo’r ddeddfwriaeth neu’r ddeddf yn gydnaws ag unrhyw un o hawliau’r Confensiwn (gweler adran 81 o’r Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006). Ni ddylai Gweinidogion Cymru, felly, dorri hawliau’r Confensiwn wrth arfer unrhyw un o’u swyddogaethau.
Offerynnau Hawliau Dynol Rhyngwladol Eraill.
Mae’r Deyrnas Unedig hefyd wedi cadarnhau nifer o offerynnau hawliau dynol rhyngwladol eraill. Maent yn cynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol arall a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr 'UNCRC').
Yng Nghymru, cafodd yr UNCRC ei gynnwys fel rhan annatod o gyfraith ddatganoledig Cymru trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur hwn yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru, wrth weithredu eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i ofynion Rhan 1 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, erthyglau 1 i 7 o’r Protocol Opsiynol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar gynnwys plant mewn brwydrau arfog, ac eithrio erthygl 6(2), ac erthyglau 1 i 10 o’r Protocol Opsiynol i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar werthu plant, puteinio plant a phornograffi plant. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn golygu y dylai Gweinidogion Cymru roi sylw i’r hawliau hyn wrth lunio’r Biliau y maent yn eu cyflwyno i'r Senedd, ac wrth lunio is-ddeddfwriaeth.