Skip to main content

Is-ddeddfwriaeth

Ceir amrywiaeth o wahanol ffurfiau ar is-ddeddfwriaeth (y cyfeirir ati hefyd fel deddfwriaeth ddirprwyedig). Mae'n cynnwys gorchmynion, rheoliadau, rheolau a chynlluniau, a gall gynnwys canllawiau statudol a gorchmynion lleol. Mae ei enw yn deillio o'r ffaith ei bod yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth sylfaenol (Deddfau Seneddol neu Ddeddfau Senedd Cymru, Deddfau Cynulliad Cenedlaethol neu Fesurau Cynulliad). Mae'r rhan fwyaf o is-ddeddfwriaeth yn cael ei gwneud drwy offeryn statudol (y math mwyaf cyffredin o is-ddeddfwriaeth yw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau neu orchymyn).

Wrth basio Deddf, bydd Senedd y DU neu Senedd Cymru wedi cymeradwyo ei hegwyddorion, amcanion cyffredinol a manylion pwysig. Fodd bynnag, bydd y Ddeddf fel arfer hefyd yn rhoi i Weinidogion (yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru gan ddibynnu ar y maes), neu ryw gorff arall, bwerau i wneud rheoliadau manwl neu gymell camau gweithredu sy'n ymwneud â sut y mae’r brif ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu. Mae is-ddeddfwriaeth yn aml yn darparu’r manylion angenrheidiol i roi cnawd ar esgyrn datganiadau sylfaenol y gyfraith a geir mewn Deddfau. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, fanylion yn nodi'r broses sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (fel y broses o wneud cais am drwydded) neu ddiffinio’n fanwl gywir pryd fydd rheol gyfreithiol benodol yn berthnasol, ac i bwy mae'n berthnasol.

Mae’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Mewn amgylchiadau felly mae'n gyffredin bod yna is-ddeddfwriaeth ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr.

Is-ddeddfwriaeth Cymru sy’n agored i gael ei dirymu

Caiff llawer o is-ddeddfwriaeth ei gwneud gan Weinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gynnig cael ei basio gan Aeolodau Senedd Cymru i'w diddymu. Mae hyn yn golygu bod y ddeddfwriaeth yn dod i rym yn awtomatig oni bai bod Senedd Cymru yn penderfynu ei dirymu. O dan y weithdrefn hon (a elwir yn 'weithdrefn negyddol') rhaid gosod is-ddeddfwriaeth gerbron Senedd Cymru o leiaf 21 diwrnod cyn i'r is-ddeddfwriaeth ddod i rym. Os yw’r rheol hon yn cael ei thorri, rhaid i’r Gweinidog sy'n gwneud y ddeddfwriaeth hysbysu'r Llywydd am y rhesymau dros dorri’r rheol.

Is-ddeddfwriaeth Cymru sy’n agored i gael ei chymeradwyo

Mae angen cymeradwyaeth rhag blaen ar gyfer rhai mathau o ddeddfwriaeth (o dan yr hyn a elwir yn ‘weithdrefn gadarnhaol’) sy’n golygu bod yn rhaid iddi gael ei chymeradwyo'n ffurfiol gan Senedd Cymru cyn iddo ddod i rym.

Is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i ofynion penodol

Mae cyfran fach iawn o is-ddeddfwriaeth y gellir ei gwneud yn ddarostyngedig i ofynion penodol  a nodir yn y Ddeddf neu’r Mesur sy’n cynnwys y pŵer i’w gwneud. Mae'r gofynion hyn fel arfer yn rhai gweithdrefnol, megis yr angen i ymgynghori â phersonau penodol cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth i Senedd Cymru i'w chymeradwyo (a elwir yn aml yn weithdrefn 'uwchgadarnhaol').

Offerynnau statudol a wneir ar y cyd â Gweinidogion y DU

Ceir rhai enghreifftiau o is-ddeddfwriaeth a wneir ar y cyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU ac mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r offeryn statudol gael ei osod gerbron Senedd Cymru a'r Senedd.

Is-ddeddfwriaeth arall

Ceir rhywfaint o is-ddeddfwriaeth lle nad oes trefn ffurfiol wedi ei rhagnodi heblaw ei bod yn cael ei gosod gerbron Senedd Cymru.

Gorchmynion Cychwyn

Mae’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn ymwneud â materion sydd wedi’u datganoli i Gymru yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru. Mewn amgylchiadau felly mae'n gyffredin fod yna is-ddeddfwriaeth ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr. 

Cyhoeddwyd gyntaf
Diweddarwyd diwethaf
18 Mehefin 2021